| Yng nghartref Willow Hall dywedodd Phyllis May Parry iddi gael ei magu yn Lerpwl a'i bod yn aelod yng Nghapel Stanley Road, Bootle. Dychmygwch ei syndod pan atebodd y Maer, y Cynghorydd Hywel Roberts, iddo yntau fod yn aelod yn yr un Capel. Bedyddiwyd Hywel yn Stanley Road yn 1938.
Cyhoeddwyd y rhyfel ar ddiwrnod ei benblwydd yn un oed yn 1939 ac aeth yn "evacuee" i swydd Amwythig lle'r anfonwyd ei dad, Emyr Roberts athro ysgol yn Everton, gyda'i ddosbarth.
Yn ddiweddarach, pan ymunodd ei dad â'r fyddin, aeth Hywel a'i fam i fyw gyda'i daid a nain ym Mhenmachno gan ddychwelyd i'w cartref yn Stanley Park, Litherland, yn 1945. Bu Phyllis a Hywel yn sgwrsio am eu hatgofion. Cofia Phillys i'r capel gael ei ddinistrio gan y bomiau yn 1941 ac ategodd Hywel mai yn y festri y cynhaliwyd y gwasanaethau a'r Ysgol Sul pan ddychwelodd yno yn 1945. Roedd tad Phillys yn Sais ac i Gapel Stanley Road mae'r diolch ei bod wedi ei magu i siarad Cymraeg rhugl yn Lerpwl.
 |