Agorwyd tymor 2009/2010 gyda noson goffi yn Woolton. Cafwyd noson barf gyda llawer o siarad a bwyta. Diolch i Nan am ein croesawu i'w chartref ac am baratoi bwyd.
Yn yr ail gyfarfod cafwyd darlith gan Humphrey Wyn Jones ar y Crynwyr sydd hefyd yn cael eu galw 'Plant y Goleuni' neu 'Y Cyfeillion'. Mae'r enw Cyfeillion wedi ei selio ar Efengyl Ioan, pennod 15, adnod 14 "...yr ydych chwi'n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi'n ei orchymyn ichi". Sylfaenydd y Crynwyr oedd George Fox. Fe'i ganwyd yn Drayton in the Clay, swydd Gaerlŷr, yn 1624. Bu yn brentis cobler a bugail cyn dechrau pregethu'n gyhoeddus ym 1647. Credai George Fox bod Duw yn trigo yng nghalon pob unigolyn a fod gan y ferch enaid fel dyn. Bu farw yn 1690.
Cychwynnwyd y Crynwyr ym 1652 ac yr oeddynt yn pregethu syniadau piwritanaidd a oedd yn annerbyniol gan y Sefydliad. Bu llawer o erlid ar y Crynwyr ond 'roeddynt yn credu yn gryf bod goleuni Duw ym mhawb a bod gan yr unigolyn berthynas uniongyrchol â Duw. Yr oeddent yn gwarchod hawliau dyn, cydraddoldeb, ymwrthod â gwaseidd-dra ac yn wrthwynebwyr cydwybodol yn amser rhyfel. Amlinellodd Humphrey hanes y Crynwyr yng Nghymru, yn arbennig yn Sir Drefaldwyn ac ardal Dolgellau. Bu Humphrey hefyd mewn gwasanaeth yn yr adeilad yr ydym yn cynnal ein cyfarfodydd ynddo.
Disgrifiodd eu gwasanaeth, sydd heb batrwm ffurfiol ac sydd yn pwysleisio tawelwch mewn addoliad. Maent yn chwilio am y gwirionedd. Darlith ardderchog a gobeithio y caiff cymdeithasau eraill ei chlywed.
Mae nifer o Gymry yn fyd-enwog am eu gwaith fel W. D. Griffith a Frank Lloyd Wright. Nid oes neb mor ddylanwadol, ym marn ein darlithydd cyntaf ym mis Hydref, na'r brawd enwog o Langefni sef Syr John Kyffin Williams. Awdur llyfr 'Bro a bywyd Kyffin Williams' oedd ein gwestai sef Dafydd Meredith o Gwm Cynllwyd, Llanuwchllyn. Amlinellodd, yn ei ddull unigryw, fywyd cynnar yr arlunydd yn Llangefni, Bae Trearddur ac ysgol Amwythig. Hap a damwain oedd ei gyflwyniad i fyd y gelfyddyd gain. Wedi cael ei wrthod gan y fyddin oherwydd ei epilepsi cafodd y cyngor hwn gan y meddyg: "Williams - you are abnormal. You had better take up painting". Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Slade cyn cael ei benodi yn athro yn Ysgol Highgate, Llundain, lle y bu am 30 mlynedd. Roedd Dafydd Meredith wedi treulio tipyn o amser yn ei gwmni ac yn medru dweud o brofiad mor groesawus oedd aelwyd Kyffin Williams ac mor egniol oedd am ei waith yn paentio ym Mhenros, Caergybi neu Batagonia.
Patagonia oedd testun ein darlithydd nesaf, Donald Glyn Pritchard. Wedi ymddeol fel Prifathro gwireddwyd ei ddymuniad o gael ymweld â'r Wladfa. Aeth gyda nifer o Gymry ar daith i Batagonia a drefnwyd gan gwmni bysus y Seren Arian. Trwy gyfrwng sleidiau cawsom ymweld â Buenos Aires, Esquel, Cwm Hyfryd a'r afon Camwy, Trefelin, Casa de Te Nain Maggie, y paith, Trelew, Rhyd yr Indiaid, Dôl y Plu, Gaiman a Phorth Madryn lle glaniodd y Mimosa yn 1865. Gwelsom lun o'r ogofeydd y bu'r Cymry yn llochesu ynddynt wedi'r glanio. Taith hir ond heb orfod symud o Lerpwl. I orffen y noson cawsom gyffwrdd â thywod oedd wedi dod o Borth Madryn a blasu diod 'mate'.
Y nos Fawrth ganlynol cawsom noson 'Awen Lawen' yng nghwmni y Prifardd Meirion Mcintyre Hughes a chawsom noson yn llawn hwyl. Dyn prysur yw'r Prifardd gan ei fod yn gwneud llawer o waith Meuryn ar aml Dalwrn y Beirdd. Hawdd gweld cymaint mae barddoni a barddoniaeth yn ei olygu iddo gan ei fod yn gallu cofio llawer o farddoniaeth y Talwrn ar ei gof a gallai eu dyfynnu er mwyn ein diddori. Bu'n noson o fwynhad i bawb.
Gorffenwyd cyfarfodydd mis Hydref gyda noson yng nghwmni Dafydd Roberts yn sôn am Barc Cenedlaethol Eryri. Ei swydd yn y Parc yw Swyddog Ecoleg sef goruchwylio y berthynas rhwng anifeiliaid byw a'u hamgylchedd. Soniodd am nifer o prosiectau sydd yn mynd ymlaen yn y parc, i ddiogelu ffosydd rhag erydu, tir rhag boddi, trwsio llwybrau a diogelu adar, pysgod, anifeiliaid ac ystlumod. Mae'r parc yn derbyn llawer o grantiau ac arian o Ewrop. Roedd hefyd yn dangos sleidiau gwych o olygfeydd o'r Parc ac yn dangos peth o'i waith. Bu'n agoriad llygad i ni gyd.