BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Rhai o'r gwahoddedigionSul Cofiadwy yn yr Adfent
Chwefror 2006
Croesawu arweinwyr y Glannau i Sul Dinesig y Cymry gan Mair Powell
Roedd Rhagfyr 4, 2005 yn Sul arbennig iawn yn ein hanes fel Cymry'r Glannau.

Sul Dinesig y Gymuned Gymraeg ydoedd, a hynny yng nghapel Bethel, Heathfield Road, Lerpwl yng nghwmni Arglwydd Faer Lerpwl, y Cynghorydd Alan Dean, Prif Weithredwr y Ddinas Syr David Henshaw a'i deulu, Cynghorwyr a Maer pob dinas a bwrdeistref o'n hamgylch fel dinas Caer, bwrdeistref Halton, Maer Hale, Maer dinas Warrington, Cilgwri, Knowsley, Gorllewin Sir Gaerhifryn.

Hefyd cynrychiolwyr o'r cymunedau Cymraeg fel Cymdeithas Etifeddiaeth Glannau Mersi, capeli Bethania a Tabernacl, Woolton Road, eglwys Dewi Sant, Sheil Road a Chymdeithas Gymraeg Birkenhead a Chlwb Rotari Lerpwl.

Llywyddwyd a threfnwyd y cyfan mor ddeheuig ag arfer gan ein Gweinidog, y Parchg Athro Dr D. Ben Rees a Mrs Margaret Anwyl Williams wrth yr organ. Canwyd emynau a charolau yn y ddwy iaith.

Lediwyd yr emynau gan Dr D. Ben Rees, Dr John G. Williams, y Parchg Kathy Bennett a Mr E. Goronwy Owen. Cafwyd darlleniadau yn Saesneg gan Ei Anrhydedd y Barnwr Henry Globe, Q.C., Yr Arglwydd Faer ac yn Gymraeg gan Mrs Nan Hughes Parry.

'Roedd y weddi gyntaf i gael ei hoffrymu gan Mr Humphrey Wyn Jones, Llywydd Henaduriaeth Lerpwl, ond 'roedd yn ddrwg iawn gan bawb ei fod yn yr Ysbyty ar y pryd ac wedi derbyn triniaeth lawfeddygol. Rhoddodd Dr D. Ben Rees wrogaeth uchel iawn iddo a soniodd am ei waith di-flino yn y ddinas ac yn yr Eglwys ymysg Cymry'r Glannau.

Cawsom weddïau o eiriolaeth gan y Parchg Geoffrey Davies, Caplan i Gymry Anglicanaidd Lerpwl. Cafodd y gynulleidfa uno'n y gwasanaeth mewn darlleniadau a gweddïau. Cafwyd cân blant yr Ysgol Sul i gyfeiliant offerynnol Elin a Dewi, a'r cyhoeddiadau gan Dr Pat Williams.

'Roedd anerchiad Dr D. Ben Rees yn gysylltiedig â Chymry Lerpwl a'r môr a hynny ym mlwyddyn arbennig y Môr yn Lerpwl. Cawsom hanes capteiniaid, arloeswyr Cymraeg arbennig iawn a hanes y Mimosa yn gadael Lerpwl am Batagonia ac am yr hwylio i'r India fel cenhadau. Mae'n amlwg i'r Cymry Cymraeg chwarae rhan fawr yn hanes Lerpwl a'r môr.

Ar ddiwedd y gwasanaeth mwynhawyd lluniaeth ysgafn yn yr Ysgoldy Fawr. Cawsom air gan yr Arglwydd Faer oedd wedi mwynhau'r gwasanaeth, yn enwedig cyfraniad y plant. Dotiai ar hyn a thalodd deyrnged uchel iawn iddynt. Cawsom air hefyd gan y Dr D. Ben Rees a'i ŵyr Tomos o Harpenden wrth ei sowdl fel sant. Cyflwynodd Dr Rees rhodd haelionus i'r Arglwydd Faer i gofio'r amgylchiad cwbl arbennig. Roedd y casgliad yn odidog, bron bedwar can punt, tuag at elusennau yr Arglwydd Faer a diolchodd y Gynghorydd Alan Dean am hyn â haelioni y Cymry a'r gwahoddedigion.

Diolchwn i chwiorydd Bethel a fu mor brysur yn paratoi ac i'r brodyr a'r chwiorydd a fu'n glanhau'r capel a'r Ysgoldy Fawr mewn paratoad ac i'r stiwardiaid ar y bore (y Mri Sam Prowting, Ben Hughes a Gwilym Lewis) am gydweithio gyda'r staff o Neuadd y Ddinas i sicrhau fod yr orymdaith a'r parcio a'r cyfan mor broffesiynol.

Penderfynwyd eisoes ar ddyddiad Sul Dinesig Cymry'r Glannau am 2006, sef bore Sul, Rhagfyr 3. Dylid rhoddi'r dyddiad yn ein dyddiaduron yn ddiymdroi.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy