BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Alun OwenAlun Owen: Ei fywyd a'i waith 2
Mawrth 2007
Pennod 2: Ei lwyddiant gan y Dr Arthur Thomas.
Credai rhai ar y pryd mae No Trams to Lime Street fyddai ei unig gampwaith ond dechrau oedd hyn.

Yng ngwanwyn 1960 daeth drama deledu arall, After the Funeral, hon hefyd wedi ei chynhyrchu gan William Kotcheff, gŵr a fu yn lliwio sawl drama gan Alun Owen.

Wedi ei lleoli unwaith eta yn Lerpwl, mae'n cynnwys hen gapten llong, creadur annibynnol ei natur, a'i ddau wŷr sydd yn awyddus i edrych ar ei ôl.

I Morgan mae gofalu am ei dad-cu yn rhoi dilysrwydd i'w Gymreictod; mae yn gwlwm i ymffrostio ynddo ac i frolio amdano.

Mae'r wŷr arall, Dave, yn hollol wahanol, brawd tawel heb ymffrost ac yn awyddus i warchod ei dad-cu am mae ei dadcu oedd e. Mae'n werth dyfynnu geiriau Alun Owen am y ddrama:

"I started with the character of an old Welsh sailor grandfather: he's basically my grandfather, who was Welsh to the bone and a seaman through and through-he'd tell you to do something as though he were commanding on his ship, and then walk out of the room; it would never even occur to him that you might not do it, and of course you always did.

"As far as I figure in the play directly it is as Dave, the Liverpudlian grandson; but other people see me in Morgan, the romantic Welsh nationalist son, as well; and I suppose there must be something of me in him, whether I meant it or not. I wanted to distinguish between the real unselfconscious Welsh, like the grandfather, and the artificial Welsh, trying frantically to manufacture a past for themselves, like Morgan."

Wedi gweld y ddrama fe'i cyhuddwyd gan rai o 'fradychu' Cymru. and roedd eraill yn ei ganmol am ddarlunio'r Cymru fel ag yr oeddynt, yn hytrach na'r "indeed-to-goodness-look-¬you" ystradebo1.

I gwblhau y drindod leol yma ysgrifennodd Lena, O My Lena, a ddarlledwyd ar Armchair Theatre ym mis Medi 1960. Mae'r ddrama wedi ei lleoli mewn ffatri, lle daw myfyriwr digon diniwed i weithio yn yr haf, crwtyn yn llawn awydd i gymysgu gyda gweithwyr cyffredin (y 'working class').

Mae'n syrthio mewn cariad a merch yno (Billie Whitelaw eto), ond ei bwriad hi yw cael tipyn 0 sbort ar ei draul, a chythruddo ei 'sboner' eiddigeddus, Cymro o'r enw Tom. Wedi ei wrthod gan Lena, a'i wawdio gan Tom, mae'r myfyriwr druan yn cilio'n ôl at ei sort ei hun.

Ym mis Hydref 1960 daeth drama deledu arall o law Alun Owen, The Ruffians, y tro yma dan nawdd y BBC. Cymeriadau Lerpwl sydd yma eto gydag aelod o'r IRA yn wynebu brawd digon diniwed, a'r cyfan yn dod i ddiweddglo trist.

Cafodd adolygiadau gwych am ei feistrolaeth o'r cyfrwng a gofynion y teledu. Medde'r Times:
It is style which we have come to suppose will work only on Television, where characters and relationships can be put under a microscope as they are, instead of being magnified (and possily distorted) so that they are unmistakable at the back of the upper circle.

Ac mae'n werth cofio fod teledu yn beth weddol newydd pryd hynny, ac yr oedd cynhyrchiad 'byw' o ddrama yn apelio at wylwyr. Nid oeddynt hyd yma wedi ei llethu gan Coronation Streett, heb son am Bobol Y Cwm.

Ni fu pall ar ei ddychymyg na'i ysgrifennu at gyfer y teledu. Yn ystod 1961-63 darlledwyd rhyw hanner dwsin o ddramau, rhai gan y BBC eraill gan ABC, ac fe lwyfanwyd y ddrama, A Little Winter Love, yn . Nylun yn 1963.

Drama oedd hon yn darluno ymateb coleg yng Nghymru o gael prifathro newydd 0 Americanwr. and mae'n debyg na chafodd yr un hwyl gydag acenion Americanaidd ag a gafodd a rhai Lerpw1.

Daeth 1964 a chydnabyddiaeth leol o'i waith. Ym Mis Ebrill cynhaliwyd arddangosfa yn Llyfrgell y ddinas yn dwyn y teitl 'Alun Owen and Liverpool'.

Hefyd daeth y flwyddyn honno ag enwogrwydd byd eang iddo. Ym Mis Hydref y flwyddyn gynt gofynnwyd iddo baratoi sgript ar gyfer ffilm am Y Beatles. Roedd wedi cael peth profiad o hyn pan ail ysgrifennodd sgript at gyfer The Criminal, ffilm Joseph Loosey yn delio gyda bywyd mewn carchar.

Sut felly daeth yr alwad i baratoi sgript i'r Beatles?

Mae dau rheswm. Os cofiwch roedd Y Beatles yn anterth ei poblogrwydd, eu caneuon a'i recordiau yn gwerthu yn ddi-stop, aethant i'r America, ac ymddangos yn y Royal Variety Performance, pan ddywedodd John Lennon, "Those in the stalls can clap and the rest of you can rattle your jewellery".

Wedi concro y byd recordio y cam nesaf oedd gwneud ffilm. Penodwyd Americanwr, Waiter Shenson, i fod yn gyfrifol am y ffilm, ac yn ei dro gofynnodd yntau i Richard Lester i fod yn gyfarwyddwr . Roedd Richard Lester wedi gweithio ar y Goon Show, ac yn bwysicach gydag Alun Owen yn ôl yn y pumdegau.

Yr ail rheswm oedd fod drama Alun Owen, No Trams to Lime Street, wedi gwneud cryn argraff ar y Beatles. Roeddynt wedi hoffi ei bortread o Lerpwl a'i allu i gynnal dialog leol fywiog. Mae'n debyg mae un o'r Beatles, neu Brian Epstein, soniodd gyntaf am gael Alun Owen; roedd digon o awduron eraill yn barod i ymladd am y fraint.

Y syniad oedd cael sgript yn darlunio diwrnod ym mywyd y Beatles. Er mwyn cael naws y peth aeth Alun Owen gyda nhw i Ddylun i hel syniadau. Llwyddodd yn y script i gyfle ei rhialtwch, ei hiwmor direidus, ei gwawdio diddiwedd, ffraethineb John Lennon, a natur dawedog Ringo Starr.

Er mwyn hwyluso'r ffilmio sicrhaodd Alun Owen fod y ddialog yn syml iawn; brawddegau byr a dim cymhlethdod. ond roedd hynny yn ormod.

Yn ôl Victor Spinetti, oedd yn y ffilm, roedd Y Beatles yn edrych ar eu llinellau yn y car ar y ffordd i'r stiwdio, ac yn aml iawn yn gwneud pethe i fyny ar y pryd. Ateb Richard Lester oedd defnyddio pump camera a ffilmio popeth. Mae'n ffilm digon diniwed - dim rhyw, dim cyffuriau a dim rhegi!

Bu y ffilm, A Hard Days Night, yn llwyddiant mawr ac roedd United Artist yn bles gyda'r enillion, a John Lennon o'r farn fod y ffilm yn well nag unrhyw 'rock movie' arall, ond dim cystal â James Bond.

Dangos y ffilm yn Llundain ar Orffennaf 8fed a daeth i Lerpwl ar y ddegfed. Hedfanodd Y Beatles i fyny ac fe'u cyrchwyd i Neuadd Y Ddinas, lle roedd miloedd yn lanw Castle Street. Y noson honno casglodd rhyw chwe mil tu allan i'r Odeon Cinema i gael cipolwg ar Y Beatles, ond mynediad 'By Invitation' oedd hi.

Y bore wedyn cafodd y 'fans' gyfle i weld y ffilm am 10.30. Ni allai Y Beatles ddioddef eistedd trwy'r ffilm am y trydydd tro, ac wedi'r i'r sinema dywyllu fe sleifiodd y pedwar ohonynt allan a chilio yn ôl i Lundain. Roedd sgript Alun Owen wedi sicrhau llwyddiant y ffilm a daeth ag anfarwoldeb iddo, ond dim ffortiwn.

Roedd 1964 yn un o uchel fannau ei yrfa, ond ni ildiodd i'r demtasiwn o 'fyw' ar ei enwogrwydd. Daliodd ati i ysgrifennu dramâu i'r teledu trwy gydol y saith a'r wyt degau. Yn ystod ail hanner y chwe degau roedd y BBC a'r cwmniau masnachol yn dal i gynhyrchu dramâu, ac i elwa ar dalent Alun Owen.

Yn ystod 1967-69 ysgrifennodd tua dwsin a hanner o ddramâu ar gyfer y teledu, gan gynnwys Emlyn a Cornelius. Nodwedd amlwg yn e'i ddramâu oedd 'plot' syml, a gwrthdaro amlwg rhwng nifer fach o gymeriadau; dywedodd rhywun "Mr Owen is not a plot man".

Ac yn llawer ohonynt roedd y cymeriadau wedi eu tynnu o gefndir Lerpwl, boed yn Wyddelod, neu'n Gymru, neu'n frodorion gwir 'Scawsaidd'. Ei gryfder fel dramodydd oedd ei allu i ddefnyddio dialog fywiog i gynnal y cynllun.

I ddyfynnu beirniad llenyddol yn 1969, "Even if there is nothing revelatory about the theme, Mr Owen's dialogue was AS usual a costant joy".

Bu iddo gysylltiad agos â'r Iwerddon, yn enwedig dinas Dulyn. Ysgrifennodd nifer o ddramâu ar gyfer y Dublin Theatre Festival, megis The Loser a The Winner yn 1965, a bu yn actio yno. Felly, roedd yn gyfarwydd iawn â'r ddinas a'u thrigolion. Ar ôl dychwelyd o daith i'r Amerig, symudodd ef a'i deulu yn1970 i fyw yn Nulyn.

Y prif gymhelliad oedd y driniaeth ffafriol a rhoddwyd i enillion awduron yng nhgyllideb y Llywodraeth Wyddelig yn 1969. Dan y driniaeth hael hon nid oedd rhaid i awduron dalu unrhyw dreth incwm ar eu enillion o gynhyrchu gwaith creadigol, safonol (boed ddrama, lyfr, miwsig, neu luniau).

Yr ochr yma i Fae Ceredigion roedd y dreth incwm yn bymtheg swllt yn y bunt (neu 75%) ar enillion dros £15,000. Roedd yna apêl arall hefyd, sef ei fod wedi mwynhau gwyliau haf yno yn grwtyn, ac yr oedd teulu y wraig yn Wyddelod. Bu yn byw ar ymylon y ddinas yn gyfleus i ysgol arbennig yn Clontarf gan fod ei fab ieuengaf yn blentyn dan anfantais corfforol.

Bu yn Nulyn trwy gydol y saithdegau, ond ni ysgrifennodd ddramâu yn delio â'r bywyd Gwyddelig. Parhaodd i gael ei ysbrydoli gan ei ddyddiau cynnar yn Lerpwl, ac os oedd eisiau sicrhau fod ei ddialog leol yn hollol gywir peth rhwydd oedd bwrw draw i'w hen gynefin am ddiwrnod i fod yn siwr o'i bethe.

Buont yn flynyddoedd cynhyrchiol iawn gan iddo ysgrifennu rhyw ddeunaw o sgriptiau, ac addasu dwy stori ar gyfer y teledu.

Mae'n debyg iddo ddychwelyd i'r wlad hon yn yr wythdegau cynnar ag ymsefydlu yn Chiswick, Llundain; ac mae hefyd yn bosib ei fod ar adegau yn ymweld a'i fwthyn yn Llandudoch (St Dogmaels, yn ymyl tre Aberteifi).

Fodd bynnag, daliodd ati i ysgrifennu ond nid ar y raddfa gynt. Bellach roedd y chwaeth am ddramâu teledu wedi cilio.

Teg dweud iddo droi ei law yn fwy fyw tuag at addasu nofelau a storiau eraill, megis Lovers of the Lake yn 1984 (fe gafodd Banff award am hyn). Gwnaeth addasiad teledu o un o nofelau Alice Thomas Ellis, a'i waith olaf oedd addasu nofel R.E Delderfield, Come Home Charlie & Face Them, yn 1990.

Bu farw ar Rhagfyr 6 1994 yn Ysbyty Charing Cross, LIundain, ar ôl bod mewn 'coma' am dridiau, yn 69 oed.

I grynhoi, cafodd fywyd amrywiol, bywyd crwydrol a hynod gynhyrchiol. Daeth ei sgript i Hard Days Night ag anfarwoldeb iddo, ond ei brif gyfraniad oedd fel dramodydd teledu, yn enwedig yn oes aur y ddrama yn y chwedegau a dechrau'r saith degau.

Fe ysgrifennodd ddramâu hirach ond ei waith i'r sgrin fach oedd yn arloesol. Yn ei ddydd roedd yn cadw cwmni i fawrion y ddrama fel Harold Pinter, Arnold Wesker, John Osborne a Dennis Potter. Ac fe gafodd ei arddull unigryw ddylanwad ar nifer o ddramodwyr Lerpwl, megis Willy Russell ag Alan Bleasdale.

Wrth ysgrifennu drama ei brif fwriad oedd ceisio cyfleu peth oedd wedi digwydd, neu o leiaf sut roedd Alun Owen yn gweld pethe. Ac ymysg y pethe o ddiddordeb iddo oedd pobl Lerpwl, yn enwedig y gweithwyr, gyda'r pwyslais ar yr unigolyn o fewn y dosbarth hwnnw. Pan alwodd ei dad yn un o'r working class yr ateb gafodd oedd, "I'm not one of the working class: I do an honest days work and get paid for it - that's not working class".

Canmolwyd ei allu i lunio dialog, yn enwedig un Lerpwl, ond nid yr acen oedd yr atyniad mawr: "it is the way people talk and the reasons why they talk this way. The City has produced its own voice. The classic definition is 'part Irish, part Welsh, and part catarrh' and it has produced a way of talking and a way of behaving. What it has produced is this resilience, a bounce that is Liverpool, a fighting back, a reaffirmation always. This is a City I think, outside of despair."

Cynnyrch cymdeithas Cymru Lerpwl, a Chymru i raddau, oedd Alun Owen, ac fe bwysodd yn drwm ar ei etifeddiaeth. Dyma a ddywedodd yn 1960: "I was born in Wales of Welsh parents, but we moved to Liverpool when I was eight and I was brought up in Liverpool. Liverpool and Wales: they're the two things I really know, and yet I'm not completely at home in either. Though Welsh was my first language - I couldn't speak English at all till I went to school at five - I now write in English, and even dream in English. I love Wales, and I used to have a great romantic thing about Welsh, but at the same time I hate so much about Wales: the over-adjectivalization of the Welsh, who never use one word when three or four will do, so that all truth and feeling gets lost under a torrent of words: the fake Welsh nationalists who don't actually speak Welsh; the awful indeed-to-goodness stereotype which the Welsh have imposed on the rest of the World, and now they've got stuck with. And yet, and yet, I love it......"


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy