BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Iguazu FallsDyddiadur Elin a Hannah
Gorffennaf 2009
Dathlu diwrnod Sant Patrig yn Le Paz yn Bolivia ac yna gwylio'r gem rygbi Cymru v Iwerddon ddiwedd yr wythnos.

Dau yn cefnogi Cymru, Elin a hogyn o'r Bala (oedd yn gweithio tu ôl i'r bar) ond y Gwyddelod yn dathlu a rhai yn eu dagrau.

Tra yn aros yn yr hostel cyfarfod criw o fyfyrwyr oedd yn arfer byw drws nesaf i Hannah (byd bach).

Teithio ar feic ar 'the most dangerous road in the world' a chael crys T a CD gyda lluniau o'r daith yn rhodd ar y diwedd.

Bu bron i Elin fynd dros y dibyn ond llwyddodd i stopio ar ddarn o wair ger yr ymyl!

Cychwyn yn yr eira a gorffen yn yr haul crasboeth.

Ymweld a mwynglawdd yn Potosi (y ddinas uchaf yn y byd) ac yna ymlaen i'r 'Salt Flats' yn Salar de Uyuni.

Aros noson mewn gwesty wedi ei wneud o halen yn cynnwys y gwely.

Gweld llynnoedd o liwiau arbennig ac arogleuon sylffwr a hefyd y fflamingos.

Cael trên a bws i Salta yn yr Ariannin ac Elin yn colli ei cherdyn banc yma.

Y creisis cyntaf!

Y ddwy yn gweld llawer mwy o gyfoeth yn yr Ariannin o'i gymharu a Peru a Bolivia a tarmac ar y ffyrdd!

Elin yn dathlu ei phenblwydd ddechrau Ebrill yn yr Iguazu Falls ar ochor Brasil, yna mynd i'w gweld o ochor Ariannin y diwrnod dilynol.

Teithio ar fws i Mendoza. Rhanbarth yn arbenigo mewn gwneud gwin a chafodd y ddwy gyfle i fynd o amgylch y gwinllannoedd ar feic.

Creisis arall yn Mendoza.

Ffoniodd Elin adref i ddymuno penblwydd hapus i Dewi yn 21ain a tra roedd y ddwy yn sgwrsio bu i rhywun ddwyn bag Hannah a chollodd ei charden ban c'i chamera.

Dim llawer o bres gan y dwy ac maen benwythnos y Pasg yma!

Roedd y ddwy wedi trefnu i fynd ar y bws i Baraloche felly roedd rhaid weirio arian allan iddynt yno.

Bellach dim camera i gael lluniau (camera Elin wedi torri) a Baraloche yn le hyfryd iawn gyda choed a llynoedd.

Cael cyfle i gerdded a beicio yma.

Mynd yn ei blaenau ac aros yn Porth Madryn ac ymweld a'r Gaiman.

Yn anffodus y Tai Tê Cymraeg wedi cau a phob siop.

Elin wedi llygadu mwg a draig goch arnii ond yn anffodus yn methu ei phrynu.

Mynd i Punta Tombo i weld y 'Magellanic Penguins' ond roedd y rhan fwyaf wedi gadael am Brasil.

Cyn gadael Porth Madryn cafodd Elin ei charden banc a'r camera felly a gobaith am luniau o Beunos Aires. Cyrraedd yno ganol Ebrill.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy