BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Ken PritchardPenblwydd Hapus
Rhagfyr 2008 a Ionawr 2009

Parti penblwydd arbennig.

Stori - golygydd Yr Angor

Lluniau - Dr John G Williams

Ar nos Sadwrn, 4 Hydref bu parti pen-blwydd Ken Pritchard yn un o westai canol dinas Lerpwl a daeth aelodau o'i deulu a chyfeillion a'i ffrindiau o blith Cymry Lerpwl ynghyd i'r dathlu.

Roedd y parti hwn yn gyfle hefyd i ddymuno yn dda i Ken ar gyfer ei ymddeoliad a diolch iddo am ei holl gefnogaeth i fywyd Cymraeg dinas Lerpwl dros y blynyddoedd.

Ni fu ei ffyddlonach. Bu ei dad, Mr R.P. Pritchard, Broadgreen yn weithgar gyda'r Angor yn y blynyddoedd cynnar, a chofir am ei fam a fu môr ofalus o Ken.

Gwelid y ddau gyda'i gilydd yn y cyfarfodydd a'r cymdeithasu. Aelodau yng Nghapel Cymraeg y Bedyddwyr yn Edge Lane oeddynt fel teulu. Mae bywyd Ken yn dal i droi o amgylch y sefydliadau Cymraeg.

Gwelir ef ar fore Sul yng amgylch y sefydliadau Cymraeg. Gwelir ef ar fore Sul yng Nghapel Bethel, Heathfield Road pan fydd cyfle ganddo er mai aelod ydyw yng nghapel yr Annibynwyr Cymraeg yn Woolton Road.

Ar nos Lun daw i Gymdeithas Lenyddol Bethel ger Penny Lane ac ar nos Fawrth, ni chyll y Gymdeithas Gymraeg yn Neuadd y Crynwyr.

Mae'n adnabod Lerpwl ar bysiau ar gledr ei law.

Dymunir yn dda iddo i'r dyfodol gan ddiolch am ei deyrngarwch i ni ddoe a heddiw.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy