Nos Sadwrn Gŵyl Ddewi
Dechreuwyd yr wythnos gyda chyngerdd yn Neuadd y Philharmonig i ddathlu Gŵyl y Nawddsant. Arweinwyd gan Keith Orrell, a'r seren amlwg y noson oedd y Cymro o Landegfan, Môn, Aled Jones. Canodd ef hanner dwsin o ganeuon poblogaidd, hanner y rhain yn yr iaith Gymraeg a'r lleill yn Saesneg. Roedd y Gerddorfa yn odidog a braf oedd cael bod yn rhan o'r Côr.
Sul, Mawrth 2
Ar bnawn Sul, 2 Mawrth aeth bws o eglwys Bethel a drefnwyd gan Dr. Rees a ni i Eglwys y Plwyf, sef Eglwys Sant Nicholas i ymuno ag aelodau o Gymdeithas Gymraeg Penbedw ag eraill mewn Oedfa Ddwyieithog Gŵyl Ddewi. Llywyddwyd y cyfarfod gan Dr. D. Ben Rees a'r Parchedig Steven Brookes, Rheithor yr Eglwys, a chymerwyd rhan ganddynt, a hefyd gan y Parchedig Glenys Wilkinson, Helsby, a'r Parchedigion Margaret C. Qualye, Crosby a John Williams, MBE, Caplan ar yr HMS Eaglet. Yr organydd oedd Derek Sadler. Daeth cynulleidfa gref ynghyd a braf oedd cael unawd gan y ferch ifanc Meriel Cunningham, Blundell sands. Y Gwir Barchedig Barry Morgan, Archesgob Cymru oedd y pregethwr gwadd a chafwyd neges werthfawr iawn ganddo. Teithiodd i fyny o Lambeth yn Llundain lle y oedd mewn Cynhadledd i gadw ei addewid gan ddychwelyd yn yr hwyr.
Gwahoddwyd Maer Lerpwl, y Cynghorydd Paul Clarke i'r oedfa, a gwahoddwyd yr Archesgob a phob un a gymerodd ran i Neuadd y Dref i de gan yr Arglwydd Faer. Dio1chodd Dr. D. B. Rees am y trefniant a chyflwynodd yr Arglwydd Faer rodd ar ran y ddinas i'r Archesgob. Cafwyd geiriau o werthfawrogiad gan y ddau.
Nos Lun, 3 Mawrth
Ar y Nos Lun, Mawrth 3 cafwyd darlith hwyliog ar Ddiwylliant ein Cenedl gan y Dr. Robin Gwyndaf, cyn-guradwr yn Amgueddfa Werin San Ffagan ac arbenigwr byd enwog yn ei faes. Cynhaliwyd y Ddarlith hon yn Neuadd y Crynwyr, School Lane a thalodd Cylch Pum ar Hugain y swm o £75 am logi'r ystafell. Diolchwn am yr haelioni. Llywyddwyd y noson gan Mr. Roderick Owen gan gyfeirio fod ei briod Norma a Robin Gwyndaf yn gyn-ddisgyblion o Ysgol enwog Llanrwst. Talodd Dr. Robin Gwyndaf deyrnged i dri o fro ei febyd yn Uwchaled a gyfoethogodd ddiwylliant Cymraeg y Glannau, John Ellis, awdur tonau, R. H, Jones, y bardd o Wallasey, a'r cyhoeddwr, Hugh Evans sylfaenydd Gwasg y Brython, Bootle. Hebddynt hwy, a rhai tebyg iddynt byddai'n bywyd yn wacach.
Llenwid Ysgoldy Mawr Bethel ar Nos Fercher, 5 Mawrth ar gyfer Noson y Beirdd a'r Telynor a braf oedd cael ymateb mor galonogol. Llywyddwyd gan sylfaenydd Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi Dr. D. Ben Rees ac ef a gyflwynodd y beirdd a'r telynor. Roedd patrwm y noson yn plesio pawb.
Cafwyd i ddechrau Athro Emeritws Dr. Gwyn Thomas (brodor o Danygrisiau) i ddarllen ei farddoniaeth yn Gymraeg ac yna ei gyfieithiadau i'r Saesneg wedyn cyfraniad derbyniol Robin Huw Bowen ar y delyn deires, ac wedyn y bardd Eingl-Gymraeg o Lerpwl, Dr. Deryn Rees-Jones ond a'i serch ym mhentref Eglwysbach, Dyffryn Conwy. Rhoddodd yr Academi Gymreig y swm o £75 tuag at y noson a phwysleisiodd y Llywydd hynny fwy nag unwaith tuag at y noson. Yr ydym fel Cymry yn ymwybodol o gostau mawr a wynebir gan Gymdeithas Etifeddiaeth a da cael haelioni y gwahanol Gymdeithasau tuag at y costau. Trefnwyd y lluniaeth gan Mrs Beryl Williams a Dr. Pat Williams a Rhiannon Liddell (aelodau o'r Pwyllgor Gwaith) a braf oedd cael y byrddau a'r cadeiriau.
Pnawn Gwener, 7 Mawrth
Traddodwyd darlith hynod o ddiddorol ar brynhawn Gwener Mawrth 7 am 2 o'r gloch ar Hanes Cymry Lerpwl Heddiw yn yr iaith Saesneg yn Llyfrgell Club yr Athenaeum, yn yr adeilad drws nesaf i siop David Robinson, yn Church Alley daeth tyrfa gref ynghyd i lenwi'r ystafell. Trefnwyd y Ddarlith o dan nawdd Cymdeithas Hanes Clwb yr Athenaeum a llywyddwyd gan Mr. Michael Gorse (Cadeirydd y Gymdeithas), West Kirby. Ar ôl cyflwyniad i ddiwylliant y Cymry, sef canlyniad uniongyrchol y Diwygiad Methodistaidd, rhoddodd Dr. D. Ben Rees gyflwyniad cryno o ymdrechion y Cymry i gadw y diwylliant yn fyw yn Lerpwl trwy y Gwyliau a gafwyd ers 2001, y llyfrau a gyhoeddwyd (e.e. Saunders Lewis, Mimosa ac Alun Owen) a'r rhaglen a drefnwyd ar gyfer Dinas Ddiwylliant 2008. Gwyddom am ein gorchestion yn y gorffennol ond braf sylweddoli fod y Cymry yn dal yn egnïol a gweithgar yn y ganrif newydd hon a bod cryn lawer wedi ei gyflawni ers sefydlu Cymdeithas Etifeddiaeth Glannau Mersi gan Huw Begley a'r darlithydd.
Mynegwyd diolch diffuant i'r darlithydd am ddarlith, nad oedd angen llun na 'powerpoint' i'w gynorthwyo, gan y Dr. Arthur Edwards, Irby, a hynny yn y ddwy iaith.
Nos Sadwrn, 8 Mawrth
Terfynwyd yr wythnos arbennig iawn hon gyda Chinio Gŵyl Ddewi o dan nawdd Cymdeithas Lenyddol Bethel, Cymdeithas Etifeddiaeth Glannau Mersi a Chymdeithas Cymry Lerpwl a hynny yn Neuadd Pearce, Gwesty'r Adelphi. Y gŵr gwadd oedd Owain Ellis Roberts, gohebydd ar S4C teledu a Radio Cymru a meb i Euryn a Morfydd Roberts, Abergele (a gynt o Childwall). Mae Owain yn enedigol o Lerpwl a braf oedd cael ei groesawu ei rieni ac un o'i ferched, Swyn, i'r cinio. Siaradodd Owain yn ddiddorol am ei gefndir yn ninas Lerpwl ac am ei waith yn crwydro Cymru i hel straeon. Talodd teyrnged arbennig i'r Angor fel 'un o bapurau bro gorau Cymru' a fod y safon mor broffesiynol. Cyfeiriodd at waith enfawr y Dr. D. Ben Rees a'i ymddeoliad ar ôl deugain mlynedd o 'ddal ati' heb ddigaloni a hefyd cyfeiriodd at Gymro arall o eglwys Bethel lle bu Owain yn aelod, sef Mr. E. Goronwy Owen, a'r holl waith ymarferol y mae yntau wedi ei gyflawni. Roedd pawb yn cydweld a braf oedd cael cymeradwyaeth trwy guro dwylo. Cydnabod gwasanaeth oedd peth felly. Cawsom fel rhagarweiniad i araith y gŵr gwadd, ac fel dilyniant iddo adloniant o safon uchel gan y telynor a grwydrodd yn fwy na nemor telynor arall, Robin Huw Bowen. Fel y dywedodd Dr. D. Ben Rees wrth ei gyflwyno 'y mae Robin Huw Bowen wedi chwarae yn Hong Kong, ac ar draws y byd, ac yn teithio yn gyson i gymunedau Cymraeg yr Amerig.' Braf oedd gweld ei fam, Mrs Mona Bowen, yn bresennol, ac mae Robin yntau'n enedigol o West Derby, Lerpwl. Yno y ganwyd ef a'i fagu, a bu adref dros gyfnod salwch ei dad ac yn gefn mawr. A chyfeiriwyd at Evan Wyn Bowen a'i gefnogaeth i'w fab talentog. Roedd yn anrhydedd ac yn bleser tu hwnt i eiriau i gael croesawu Owain a Robin, dau o'n "bechgyn ni" atom ym mlwyddyn Dinas Ddiwylliant Lerpwl 08.
Rhoddwyd y cyfrifoldeb o ddiolch ar ddiwedd y noson i'r Dr. W. Arthur Thomas am ddau reswm. Ymddangosodd pennod o'i waith ef yn y gyfrol ar Alun Owen a olygwyd gan Dr. D. Ben Rees ac a werthwyd yn y Cinio (Sonnir am y gyfrol yn y rhifyn hwn). Yn ail bu yn rhan annatod o'r wythnos fel
Ysgrifennydd Mygedol Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi a bu fel y Cadeirydd ym mhob un o'r cyfarfodydd, yn wir fel y mwyafrif o aelodau gweithgar y Pwyllgor Gwaith.
Diolchwn yn fawr iawn i Dr. D. Ben Rees a'r pwyllgorau gweithgar am drefnu gweithgareddau yr wythnos arbennig hon. Bu Pwyllgor Cymry Lerpwl 2008 sef Dr. D. Ben Rees, Cadeirydd, H. Wyn Jones (am gyfnod yn ysgrifennydd, ac yn ystod ei waeledd bu Dr. Pat Williams); Mrs Beryl Williams, Mr. Roderick Owen, David Mawdsley, Gareth Roberts a Mrs Rhiannon Liddell yn cyfarfod yn gyson ers 2004 i drefnu ar gyfer 2008. Cyfuniad o gynrychiolwyr pwyllgorau pwysig y ddinas oedd y rhain, sef y Gymdeithas Gymraeg, Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi, Undeb Gorawl Gymreig Lerpwl a Chymdeithas Lenyddol Capel Bethel. Cofiwn am fwy o weithgareddau i ddod yn ystod y flwyddyn a gwelwn hysbysebu hyn yn fisol ar dudalennau'r Angor.