BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Eglwys Moss SideEglwys Moss Side
Chwefror 2010
Ar gongl Lloyd Street a Moss Lane, i'r de o ganol dinas Manceinion, fe saif eglwys hardd.

Fe'i hadeiladwyd yn 1875 gan y Methodistiaid Calfinaidd ac am dros dri chwarter canrif bu'n gartref ysbrydol i'r Cymry oedd yn byw ac yn bod o'i chwmpas.

Nid hwn oedd yr unig gapel Cymraeg wrth gwrs - 'roedd capel Heywood Street i'r gogledd, capel Pendleton yn Salford, heb sôn am amryw eraill oddi amgylch mewn trefi fel Altrincham, Bolton, Rochclale, Ashton a Stockport - ond fe gredaf mai Moss Side oedd y mwyaf.

Pan ddois i Brifysgol Manceinion fel myfyriwr yn yr Hydref 1957, 'roeddwn yn aros yn Fallowfield ac eglwys Moss Side oedd mwyaf cyf1eus i mi.

Ar y pryd yr oedd bron i ddau gant o aelodau a'r gweinidog oedd y Parch Llcwellyn Hughes, yn enedigol o ddinas Lerpwl.

A bod yn onest, 'dw'i ddim yn cofio llawer am y gwasanaethau erbyn hyn ond mae gennyf ryw go' am gyfarfod pan oedd dyfodol yr eglwys yn cael ei thrafod.

'Roedd problem gyda'r adeilad, pryder am y gost o'i atgyweirio, ac os nad oeddynt am atgyweirio, dadl dros ei werthu i'r Catholigion o wlad Pwyl.

'Doedd pawb ddim o blaid, a 'rwy'n cofio un o'r blaenoriaid yn siarad yn gryf yn erbyn y gwerthiant i'r fath bobl, ond gwerthu a fu, a hynny yn ystod 1958.

Bu'r aelodau yn cyfarfod am ddwy f1ynedd mewn ystafell yn Grosvenor Street cyn prynu darn o dir yn West Didsbury, ac yno yr adeiladwyd capel Oaker Avenue.

Daeth cyfnod Grosvenor Street i ben ac fe agorwyd y capel newydd yn Ebrill, 1962, sydd yn dal yn gartref i ni bron hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

Fast forward

Dyna'r cefndir. 'Fast forward' fel y dywedir i brynhawn Sul ar ddechrau mis Tachwedd 2009 pan ddaeth gwr bonheddig atom i ystafell y Blaenoriaid yn Noddfa, Oaker Avenue cyn dechrau y gwasanaeth a dyma ei neges: 'roedd yr eglwys Gatholig ym Moss Side yn dathlu hanner can mlwyddiant ei sefydliad gyda gwasanaeth arbennig ar Sul y 22ain o Dachwedd ac yr oeddynt yn awyddus i estyn gwahoddiad i ni yrru cynrychiolwyr i'r cyfarfod.

Yr oedd yn amlwg eu bod yn hynod ddiolchgar i Eglwys Bresbyteraidd Cymru am fod yn barod i werthu yr adeilad iddynt mewn cyfnod pryd yr oedd cryn wrthwynebiad i'r Eglwys Gatholig mewn mannau o Brydain.

Derbyniodd Elfyn a minnau y gwahoddiad ar ran yr eglwys a dyna sut yr euthom ar fore Sul unwaith yn rhagor i gyfeiriad Moss Side.

Oddi allan i'r adeilad, roedd y Ddraig Goch i'w gweld gyda banner gwlad Pwyl ar un ochr iddi a banner yr Eglwys yr ochr arall.

Oddi mewn yr oedd tyrfa wedi dod ynghyd, llawr yr eglwys a'r galeri yn llawn, a phawb yn siarad iaith hollol ddiarth i ni.

Cawsom ein tywys i' r sedd blaen a' n rhoi gyda phâr ifanc - llys¬gennad o wlad Pwyl - ar gyfer Manceinion, â'i wraig - ac yna dechreuodd y gwasanaeth am hanner dydd.

Daeth gorymdaith o offeiriaid mewn gwisgoedd crand i mewn a chymryd eu lle ac yna fe gafwyd gair o groeso gan un ohonynt i'r gynulleidfa yn gyffredinol ac i rai ymwelwyr yn arbennig.

Sawl gair a dweud y gwir, gan i bawb fod yn sefyll ar eu traed drwy gydol yr araith am chwarter awr beth bynnag.

A ninnau yn deall dim, anodd oedd dilyn, ond gan i'r siaradwr edrych i'n cyfeiriad ni ar un adeg, a gwenu, cawsom gyf1e i adnabod un gair beth bynnag: Evans.

Aeth y gwasanaeth ymlaen gyda rhai o'r gynulleidfa yn dod ymlaen i ddarllen, grŵp o ferched mewn gwisgoedd traddodiadol yn canu, yr offeiriaid yn gwneud eu gwaith a'r gynulleidfa yn canu gyda hwynt.

Braf oedd cael teimlo fod cerrig yr hen gapel, a glywsant lawer i Gymanfa Ganu yn y gorffennol, yn dal i atsain i frwdfrydedd cynulleidfa yn moliannu Duw.

Yn ystod y gwasanaeth cawsom ein galw ymlaen, ymhlith eraill, i dderbyn bathodyn a thystysgrif o ddiolch o law yr Archesgob a oedd wedi dod o Rufain i'n cyfarch.

Trist yw gweld capeli ac eglwysi wedi cau eu drysau, yn cael eu defnyddio ar gyfer trwsio moduron a busnes o'r fath neu yn cael eu dymchwel.

Dyna fu hanes llawer i gapel ac eglwys yma ym Manceinion a thrwy Gymru hefyd.

Cymaint gwell felly yw gweld eglwys Moss Side heddiw yn fyw ac yn dal at y gwaith o gynnal y credinwyr.

Am hanner can mlynedd mae hi wedi bod yn gartref ysbrydol a diwylliannol i'r Pwyliaid yn ein plith, fel y bu i'r Cymry gynt.

Yn ystod y cyfnod, fe aeth cynulleidfa y Pwyliaid i lawr hefyd - y gynulleidfa yn heneiddio a llai o rai newydd yn dod - ond y maent wedi elwa o'r mewnfudiad sydd wedi cymeryd lle yn ddiweddar ac yn awr y mae angen tri gwasanaeth ar y Sul i ddiwallu yr angen am addoliad.

Elwyn Evans, Didsbury


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy