BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Alun OwenAlun Owen: Ei fywyd a'i waith 1
Chwefror 2007
Fe aned Alun Owen, neu i roi ei enw llawn iddo, Alan Davies Owens, ym Mhorthaethwy, Sir Fôn, ar y 24 o Dachwedd 1925, yn fab i Sydney Owens o ardal Trefriw.

Mae'n bur debyg i Alun Owens fynd i ysgol elfennol Porthaethwy ond pan yn wyth oed symudodd y teulu i Lerpwl gan ymsefydlu yn 3 Belgrave Road, gerllaw St Michaels, a Sydney Owens yn gweithio gyda'r Gorfforaeth.

Yna aeth i ysgol St Michaels Hamlet a phan yn ddeuddeg ymlaen i'r Oulton High School, Clarence Street (fe gaewyd yr ysgol yn 1943).

Yr oedd tâl o ryw dair punt y tymor. Fe'i cofrestrwyd yno ar y 15fed o Fedi 1937. Yn ôl cofnodion yr ysgol bu yno tan 1942, ond mae hyn yn gwrthdaro â thystiolaeth arall (neb llai na'r Times) sy'n datgan ei fod wedi ei anfon i dde orllewin Cymru tua 1940 (mwy na thebyg fel ifaciwî).

Er iddo symud mae'n debygol fod ei enw wedi aros ar gofrestr yr ysgol. Aeth i dre Aberteifi ac fe gofrestrwyd Alan Davies Owens yn ddisgybl yn ysgol enwog y prifathro hynod hwnnw, Thomas Evans, neu "Tom Pop" ar lafar gwlad, sef y Cardigan County School.

Bywyd o anturiaeth a chrwydro.
Teg dweud fod addysg ffurfiol Alun Owen wedi dod i ben pan oedd tua phymtheg oed, efallai yn haf 1941. Mae'r croniclwyr i gyd a stori braidd yn wahanol ond un peth sy'n amlwg bu ei fywyd wedi hyn yn ddigon anturiaethus ac yn go ansicr.

Felly, darlun ychydig yn niwlog sydd o'i fywyd ar ôl gadael yr ysgol, ond mae'n siŵr fod ei brofiadau amrywiol wedi bod yn ffynhonnell i lawer sefyllfa a chymeriad yn ei ddramâu.

Mae pawb yn gytûn ei fod wedi priodi yn ifanc iawn, yn un ar bymtheg. Yn 1942 priododd Theodora Mary O'Keefe, "Stage designer" mae'n debyg, a bu iddynt ddau o feibion.

Yn y blynyddoedd cyntaf yma bywyd priodasol digon symudol gafodd y ddau.

Dywed un adroddiad iddynt deithio i fyny i Perth, yn yr Alban, i gael gwaith fel "assistant stage manager", man cychwyn traddodiadol gyrfa ar lwyfan.

Ond ni fu yn hir yn Perth. Fe fyddai galwad wedi dod i ymuno â'r fyddin, ond fel lwc cafodd ei ddewis i weithio mewn pwll glo, yn hytrach na mynd i'r fyddin, fel un o'r enwog "Bevin Boys".

Ond yr oedd yn waith peryglus, ac mae'n debyg iddo gael damwain i'w law chwith gan adael craith barhaol.

Wedi ei ryddhau o'r lofa ar ddiwedd y rhyfel bu yn weithiwr crwydrol iawn.

Dywedir iddo fod yn gweini mewn lle bwyta, yn gweithio ar lorïau ("drivers mate" - yn cadw'r gyrrwr ar ddihun), yn stiward ar long am gyfnod (roedd ei dad-cu yn forwr), a hefyd bu yn rhoi help llaw mewn stordy. Digonedd o brofiad mewn ychydig amser.

Gorchwylion dros dro oedd y rhain, digon falle i gynnal ei deulu. Beth felly oedd ei yrfa ddelfrydol yn ei feddwl ei hun?

Uchelgais o fod yn Actor
Yr ateb ar y pryd oedd bod yn actor, ac fe aeth ati i wireddu'r freuddwyd.

Dechreuodd ym myd pantomime, ac wedyn ymuno â'r Birmingham Repertory Company, cwmni a fu yn fagwrfa i lu o actorion enwog, megis Laurence Olivier, Paul Schofield, Dr. Arthur Thomas, Peggy Aschcroft, a Edith Evans.

Roedd hyn i bob tebygrwydd yn y cyfnod ychydig ar ôl diwedd y Rhyfel.

Mae rhai adroddiadau yn dweud ei fod yn ninas Birmingham yn 1943-44, ond myn eraill ei fod yn "Bevin Boy" yn y cyfnod yma. Does bosib gallai fod tan ddaear un funud ac ar y llwyfan y llall!

O Birmingham symudodd i Lundain gan ymddangos gyda chwmni Shakespeare, Sir Donald Wolfit, cwmni'r Old Vic, a'r English Stage Company yn Royal Court Theatre, Sloane Square.

Yn ei gyfnod gyda'r Old Vic (1953-57) bu yn actio ym mhrif ddramâu Shakespeare, megis As you Like It, King Lear, Merchant of Venice a Macbeth, ac yn y Royal Court cafodd brofiad o ddramâu mwy cyfoes.

Dyma felly brentisiaeth werthfawr i unrhyw ddramodydd, yn rhoi iddo wersi ymarferol mewn cynllunio a llwyfannu drama, mewn iaith ac mewn deialog.

Dyma le dysgodd Saesneg safonol - the "Queen's English".

Nododd rhywun, yn ddiweddarach, na fyddai ymwelwyr ato ddim yn gwybod sut byddai Alun Owen yn cyfarch mewn Saesneg y BBC, "Scouse" unigryw Lerpwl, neu "the gentle sing song of Anglesey", heb sôn am "sing song Aberteifi", neu'r Gymraeg, de neu ogledd!

Byd v Ffilmiau
Ar gefn ei brofiad yn y theatr cafodd gyfle i ymddangos mewn nifer o ffilmiau, nid y rhannau arweiniol ond chwarae cymeriadau yn y cefndir, rhyw fân rhannau.

Y cyntaf, a'r enwocaf o'r ffilmiau, yng Nghymru beth bynnag, oedd Valley of Song, a ymddangosodd yn 1953.

Roedd thema'r ffilm yma yn sicr o apelio ato o gofio ei amser fel "Bevin Boy". Comedi oedd hwn, mewn du a gwyn, am gôr meibion yn y cymoedd, côr yn cynnwys lleisiau hyfryd ond pobl o anian ymfflamychol iawn.

Pan benderfynodd y côr i gyflwyno Y Messiah bu brwydr danbaid, digon i rannu'r holl bentref, ynglŷn â phwy ddylai fod yn unawdydd.

Stori digon syml ond roedd y ffilm yn boblogaidd yn ei ddydd a phobl yn tyrru o gefn gwlad i'w Tivoli, Capital neu Lyric lleol i'w weld.

Roedd Alun Owen yn cymryd rhan Pritchard. Ymysg yr enwau blaenllaw roedd Mervyn Johns, Clifford Evans, Rachel Thomas a Prysor Williams.

Y ffilm enwog arall y bu Alun Owen yn chwarae rhan ynddo oedd I'm All Right Jack, a ymddangosodd yn 1959.

Cynnyrch y Boulting Brothers oedd hwn, ac yn delio ar ffrwgwd rhwng undeb llafur a gweinyddwyr cwmni yn gwneud arfau milwrol.

Arweinydd yr undeb, y "shop steward" oedd Peter Sellers, a'u elyn oedd gweinyddwr llafur y cwmni, Terry Thomas.

Ffilm du a gwyn eto ac yn hynod boblogaidd. Roedd yn cynnwys nifer o enwau adnabyddus megis Richard Attenborough, Margaret Rutherford, John Le Mesurier (Dads Army yn ddiweddarach) a Kenneth Griffith yn chwarae rhan Dai - pwy arall! Roedd Alun Owen yn chwarae rhan cynhyrchydd teledu.

Ond achlysurol oedd gwaith ffilmio a bu Alun Owen wrthi hefyd yn chwarae man rhannau ar y teledu, yn y fath raglenni a The Grove Family (1954-57), ac The Adventures of the Scarlet Pimpernel (1955-56).

Roedd yn dalent amryddawn a bu hefyd yn ychwanegu at ei brofiad a'i enillion trwy ymddangos fel "comedian" yn chwarae gyferbyn i Arthur Askey (1955) ac ar The Dick Lester Show (1955).

Americanwr talentog oedd Richard Lester ond ni fu ei raglenni yn llwyddiant ar y teledu yma, ond bu'r profiad a'r cysylltiad o fantais fawr i Alun Owen yn nes ymlaen.

Ei Yrfa Lenyddol
Fe ddechreuodd ar ei yrfa lenyddol ymhell cyn y pumdegau. Yn ôl yn ei ddyddiau ysgol, yn grwtyn tair ar ddeg oed, yr oedd wrthi yn barddoni a daliodd ati, yn aml yn ceisio dynwared arddull Dylan Thomas.

Gwyddai mai efelychiad gwag oedd hyn a dechreuodd ysgrifennu am ei fyd ei hun:
I started to write about the things that I was brought up with and the people that I knew, and found in them this unconscious poetry that I have been searching for, for a long time, and eventually it worked. I found, just, as James Joyce is a Dubliner, that all through his works are the street names of Dublin. For me the street names and the places of Liverpool and the people of Liverpool were exciting.

Felly, tua chanol y pumdegau ysgrifennodd ei ddrama fer gyntaf ar gyfer y radio. Darlledwyd Two Sons ar y Third Programme (Radio 3 heddiw) yn 1957.

Yn y dyddiau hynny roedd y radio yn ddeniadol syml gyda'r Home Service, Light Programme, y Third Programme ac i'r ifanc Radio Luxembourg.

Yn 1959 ysgrifennodd ddrama radio arall, It Looks Like Rain, ac yn wir dyma ei gynnyrch olaf ar gyfer y radio tan 1984. Roedd y teledu yn galw.

Ei ddrama gyntaf i ymddangos ar y teledu oedd Rough & Ready Lot, a ddarllenwyd ym mis Medi 1959, ond addasiad o ddrama radio oedd hon.

Yr oedd ynddi elfennau a ddaeth yn nodweddiadol o'i waith wedi hynny. Yn ôl un beirniad, "the talk outweighed the action" ond yr oedd y dialog grymus yn cynnal y cefndir ac yn cyfleu'r gwrthdaro rhwng y pedwar swyddog penstiff oedd yn ganolog i'r ddrama.

Ei ddrama gyntaf yn arbennig ar gyfer y teledu oedd No Trams to Lime Streeet, a ddarllenwyd yn Hydref 1959 yn y gyfres Armchair Theatr gan ABC Television.

Yr oedd yn llwyddiant ysgubol. Yn ôl Alun Owen seliwyd y ddrama ar stori a gafodd gan un o'i ffrindiau morwrol am ei helyntion ar ôl glanio yn Lerpwl.

Tri morwr sydd yma (Billy, Taff a Cass) yn dilyn gwahanol lwybrau; un yn cilio i'w hoff dafarn, y llall yn ceisio cymodi â'i dad, a'r olaf yn cyfarfod merch, syrthio mewn cariad a'i gadael hi, i gyd o fewn y nos - corwynt o ramant (Billie Whitelaw yn chwarae'r ferch).

Mae yn llwyddo i wahaniaethu rhwng y tri morwr trwy gyfrwng tafodiaith ac ymddygiad.

Medrai Alun Owen gynnal sgwrs naturiol trwy ddefnyddio iaith bob dydd ac ni fyddai byth yn disgyn i ddarlunio Cymro, Gwyddel, na Sais, fel rhyw fath o 'Stereotype' rhanbarthol, megis Cymro 'indeed to goodness.'

Mae'n debyg fod gan ei dad, Sydney Owens, gap arbennig i daflu at y set deledu pan fyddai rhyw ddrama Gymreig yn ei wylltio.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy