| Roeddwn yn ei gofio fel myfyriwr yng ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth, lle y bu ef yn astudio Biocemeg cyn mynd ymlaen i ennill ei Ddoethuriaeth. Symudodd i Lerpwl yn 1966 a bu yma byth oddi ar hynny yn gefnogydd di-ail i'r bywyd Cymraeg. Daw yr Athro Huw Rees yn enedigol o Bwlchygroes, Sir Benfro, ysgol a gysylltir gyda'r amryddawn Brifathro W. R. Evans, arweinydd y parti noson lawen, Bois y Frenni. Felly fe ddaw o'r tirlun sydd ar y ffin rhwng Ceredigion a Phenfro, ond yn bendant nid yw yn cyfrif ei hun yn Gardi ond yn un o fechgyn y Preselau a Gogledd Penfro, er mai yn Ysgol Ramadeg Aberteifi y cafodd ei addysg uwchradd ac yn Aberystwyth y coronwyd ei astudiaethau academaidd gyda gradd ddisglair o B.Sc. Ond cyflawnodd ei waith proffesiynol disglair ym Mhrifysgol Lerpwl, a chafodd gyfle i ddod yn ffigur pwysig yn ei faes ac yn aelod o gymdeithasau gwyddonol, fel Y Gymdeithas Biocemegol Brydeinig. Bu yn aelod o'i Chyngor a chadeirydd rhai o'r pwyllgorau.
Cymaint oedd meddwl y Brifysgol ohono fel yr estynnwyd i Dr. H. H. Rees yn ôl yn y nawdegau cynnar, os cofiaf yn iawn, Gadair Bersonol mewn Biocemeg, a'r hydref diwethaf cafodd ei wahodd i Gadair yr Adran, ac felly yn dilyn Cymro Cymraeg arall, sef yr Athro R. Alan Morton, y meddyliai yn uchel ohono, a fu yn yr un swydd allweddol. Mae'n hoff 0 Gerddoriaeth a phriodol felly oedd iddo ddilyn y Barnwr J. E. Jones fel Llywydd Undeb Gorawl Cymry Lerpwl, a bu yn fawr ei gefnogaeth i'r gyfrol a gyhoeddwyd ar hanes yr Undeb.
Mis Gorffennaf eleni bydd yn ymddeol ar ôl 43 mlynedd ar staff y Brifysgol a bwriada ddychwelyd i Ogledd Penfro at ei deulu, a bydd chwithdod mawr ar ei ôl yng nghapel Bethel, yr Undeb Gorawl a phob darlith a chyngerdd Cymraeg a,Chymreig a gynhelir yn ninas Lerpwl. Caiff gyfle i wylio mwy ar rygbi, darllen barddoniaeth, ei hoff fardd Waldo Williams, a dod yn ôl ambell i ben wythnos i'n gweld yn y Ddinas yr uniaethodd ef ei hun â hi. Dymuniadau gorau iddo. D Ben Rees
 |