Ar y 6ed bu Selwyn Jones yn sôn wrthym am ei blentyndod yn Rhiwbryfdir a'r cyffiniau ac am rai o gymeriadau Blaenau Ffestiniog.
Nid oedd ef yn ddiarth i Lerpwl gan iddo fod yma yn dysgu yn y pump a'r chwedegau yn Ysgol Lister Drive a Bankfield Road, West Derby. Arferai fynd i aelwyd Anfield a chymerai ran yn y gweithgareddau Cymraeg ar y glannau.
Yr wythnos wedyn daeth Pierino Algiere atom, gyda'i wraig, i rannu ei brofiadau fel swyddog yr Amgylchedd gyda gofal am gadwraeth yr afonydd.
Dangosodd i ni gwaith mor anodd yw cadw yr afonydd yn glir o lygredd a potsiars. Mae hefyd yn ffotograffydd penigamp ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei dirluniau. Dyma fydd testun ei ddarlith nesaf i ni yn y Gymdeithas. Olrhain hanes ei thaith tra'n dysgu Cymraeg oedd Lillian Bury. Cafodd ei geni yn Ne Affrica a dod i fyw i Brydain yn 14oed. Mae'n byw yn awr yn Stockport, Manceinion. Wedi ymddeol penderfynodd ddysgu Cymraeg o ddifri bum mlynedd yn ôl. Mae hi wedi gwneud TGAU a Lefel A ail iaith yn Gymraeg ac yn awr yn gwneud cwrs gradd rhan amser ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan.
Wrth sôn am ei thaith a sawl trobwynt yn ystod y daith cawsom glywed am ei hoff gerddi gan Menna Elfyn a chaneuon a rhyddiaith Cymraeg. Mis Awst eleni cyrhaeddodd Lillian y rownd gyn derfynol yng Nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei chwrs gradd.
Yn y cyfarfod olaf ym mis Tachwedd cafwyd noson y bu hir ddisgwyl amdani gyda Pat, Nan ac Elan yn sôn am Patagonia. Roedd Pat a Nan yno ar eu gwyliau ac Elan yn ymweld a'i theulu. Cawsom eu hanes yn gyntaf yn Buenos Aires ac yna crwydro ym Mhatagonia. Braf oedd cael gweld, gyda cymorth y Power Point, luniau o lefydd yr oeddem wedi clywed amdanynt o'r blaen. Hefyd buont ym Mhorth Madryn lle glaniodd y Mimosa. I orffen y noson gwelsom lun o Pat a Nan yn dawnsio'r tango!
Ym mis Rhagfyr cafwyd dau gyfarfod. Yn gyntaf Cinio Nadolig blynyddol yn y Marina a diolch i Roderick, Norma a Nan am drefnu'r noson. Gorffennwyd y tymor yng nghartref Pat lle cafwyd cyfle i sgwrsio a mwynhau y bwyd oedd wedi ei baratoi ac wedyn canu ychydig o garolau.
 |