Ar 23 Awst 1207 y rhoddodd y Brenin John y Siarter i Lerpwl. Cychwynnodd fel bwrdeistref bum niwrnod yn ddiweddarach.
Daeth criw da ynghyd ar fore Sadwrn, 19 Mai i Ysgoldy Bethel, Heathfield Road am 10.30. Cychwynnwyd yr ŵyl o dan arweiniad Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Etifeddiaeth Glannau Mersi, Alistair Machray, Golygydd y Liverpool Echo.
Cyflwynodd y darlithydd a agorodd yr ŵyl, Y Parchedig Athro Dr D. Ben Rees. Roedd y ddarlith hon yn Saesneg ar y testun The Contribution of the Welsh to the City of Liverpool (1207-2007), ac fel y gellid disgwyl, yr oedd yr holl ffeithiau ar dafod leferydd y darlithydd.
Byrlymai yn ei ddarluniau o'r rhai a fu'n arwain ym mywyd y ddinas fel meiri Lerpwl, cynghorwyr a gwleidyddion, adeiladwyr, meddygon, addysgwyr, cerddorion, artistiaid, peldroedwyr heb anghofio Undeb Gorawl Cymry Lerpwl. Cafodd pawb ei nodi a chollwyd neb o rwyd y cyflwynydd.
Cafwyd toriad am 11.30 a chyflwynwyd i bawb baned. Cost y bore oedd £2 - bargen os bu bargen erioed - o gofio bod paned o de yn £1 yn Allerton Road.
Ar ôl y toriad cyflwynodd Alistair Machray yr ail ddarlithydd yn Gymraeg, sef Dr E. Wyn James o Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ar y testun Caethwasanaeth a'r Cymry. Ar ddechrau'r ddarlith talodd deyrnged arbennig iawn i Mrs Meinwen Rees, yr un a fu'n athrawes Gymraeg arno yn Ysgol Gyfun Afon Taf, ac a'i trwythodd yn yr iaith y mae ef bellach, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yn feistr arni fel ysgolhaig a darlithydd.
Fel y disgwylid cafwyd darlith gynhwysfawr, addysgol, adeiladol gan gwmpasu yr hanes mewn modd mor gelfydd. Soniodd am gyfraniad Williams, Pantycelyn a Gwilym Hiraethog i greu ymwybyddiaeth gref yn y genedl Gymraeg i ddileu y fasnach ddieflig o werthu pobl ar draws y moroedd.
Trefnodd y Gymdeithas Etifeddiaeth gyfieithydd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gyfer yr ail ddarlith a daeth Bryn Jones o Blaenau Ffestiniog i gyflawni'r gwaith.
Ar nos Sadwrn cafwyd cyngerdd yn Eglwys Sant Nicholas yng nghwmni Undeb Gorawl Cymry Lerpwl a braf oedd cael cefnogi y noson honno.
Mabwysiadwyd y cyngerdd gan y Gymdeithas a mwynhaodd Dr E. Wyn lames y noson yn fawr. Felly hefyd ei briod, y Prifardd Christine James Caerdydd, a darlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe, ac yr oeddynt yn bresennol ar fore Sul. Cafwyd ar fore Sul, 20 Mai, gynulleidfa gref yng nghapel Bethel i Oedfa'r Dathlu, canu gwefreiddiol, darlleniadau clywadwy ac anerchiad pwrpasol, a theimlid inni gael gŵyl ardderchog arall er budd Cymry'r Glannau.
Diolchwn i Dr Pat Williams am letya Dr E. Wyn lames a'i briod ac i Dr Arthur Thomas am glymu y cyfan gyda'i gilydd ac i Mrs Beryl Williams a Dr Pat Williams a'i cynorthwywyr am y lluniaeth ac i Undeb Gorawl Cymry Lerpwl am noson gerddorol gofiadwy. Melys moes mwy.
Ymysg y rhai a gafodd eu plesio'n fawr yn y cyngerdd a'r oedfa oedd Miss Nansi Pugh a'i chwaer Morfudd o Loegr Newydd (New England) yn yr Unol Daleithiau.
Braf iddi hi oedd gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg, y ddwy ohonynt yn ferched i'r enwog Barchedig Cynolwyn Pugh, Efrog Newydd (a gynt o Penbedw).
Sgript gan ein gohebydd dinesig a lluniau gan John G Williams