BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
BeddauParchedig yn cofio Aberfan
Hydref 2006
Deugain mlynedd ers un o drychinebau gwaethaf Cymru ym mhentref Aberfan yn ne Cymru, mae'r Parchedig D. Ben Rees yn cofio ei brofiad ef o'r digwyddiad erchyll.
Ar fore Mercher 9 Awst eleni bum yn Aberfan i gael fy holi gan Eleri Morgan ar ran Adran Newyddion y BBC am drasiedi Aberfan a ddigwyddodd ar 21 Hydref 1966 gan fy mod i yno yn fuan iawn ar ôl i'r drychineb ddigwydd.

Roedd hi 'n ddiwrnod bwrw glaw mân ac ar draws y dyffryn gwelais un ambiwlans ar ôl y llall yn mynd i fyny'r ffordd heibio gomin Cil fynydd am gwm Merthyr. Yn sydyn daeth bwletin ar y radio i ddweud fod yna `state of emergency' yn Aberfan. Neidiais i'r car modur ac i f yny am Merthyr Vale ac Aberfan, mewn gwirionedd, rnae'r ddau bentref yn un.

Gweinidogaethwn yn Abercynon a Phenrhiwceibr ond rhoddwyd cyfrifoldeb yn gynharach y flwyddyn honno i mi am gapel Disgwylfa. Merthyr Vale. Cyrhaeddais Ysgol Pantglas a sylweddoli fy mod ynghanol un o'r trychinebau mwyaf a welwyd erioed yn hanes Cymru. Yr oeddwn yn cyrraedd yr un pryd â channoedd o lowyr o bwll Merthyr Vale gyda'i rhawiau i geisio dod o hyd i'r plant a'r athrawon a oedd o dan dunelli o wastraff glo gwlyb. Sylweddolwyd yn syth nad oedd gennym ddim byd wrth law ond dwylo a rhawiau a fod y gwastraff glo mor drwm ac anhylaw.

O fewn awr a chwarter, wel erbyn 11 o'r gloch, yr oedd y plant byw olaf wedi eu tynnu allan, ac erbyn i Cledwyn Hughes, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ffrind da i mi gyrraedd, yr oeddem yn gwybod fod 144 o blant, gan gynnwys 116 o blant, wedi'u lladd. Adnabyddwn rhai o'r plant a'r athrawon. Yn wir roedd y Brifathrawes Miss Jennings a laddwyd yn y stydi, yn chwaer i Ysgrifenyddes Ysgol Uwchradd Mynwent y Crynwyr- lle roedd Meinwen ar y staff a minnau yn gaplan answyddogol i'r athrawon a'r plant.

Yr oeddwn yn bresennol yn yr angladd a gynhaliwyd ar 27 Hydref ar gyfer 82 o'r rhai farw lle y cawsom gyfle i gydymdeimlo â'r teuluoedd galarus a gyda trigolion Aber fan a Merthyr Vale.

Ar 9 Awst 2006 daeth llu o atgofion yn ôl i mi o ymweld â'r aelodau yn y strydoedd serth a'r croeso mawr a gawn ac am arwriaeth gymaint o bobl wyneb yn wyneb a'r drychineb. Anodd credu pa mor ynfyd y bu'r Bwrdd Glo yn yr argyfwng. Hanner can punt o bunnoedd y teulu oedd eu cynnig cyntaf ac fe'i codwyd ar ôl i nifer ohonom brotestio'n chwyrn i bum can punt. Roedd y Bwrdd Glo yn anghyfrifol ym mhob rhyw fodd ac yn ceisio setlo'r mater heb orfod talu dim byd.

Lluniais y penderfyniad canlynol a'i osod ger bron Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg i'w gadarnhau. Anfonwyd ef at y Prif Weinidog Harold Wilson: "Yr ydym ni fel trigolion De Cymru wedi ein syfrdanu gan brofiad chwerw Aberfan, yn erfyn ar y llywodraeth i ryddhau arian ar unwaith i sicrhau diogelwch holl byllau glo a bod deddfwriaeth yn cael ei threfnu i reoli a gwaredu'r ysbwriel hwn yn effeithiol."

Ar argymhelliad y cerddor John Haydn Phillips, awdur y dôn Bro Aber, penderfynodd Capel Presbyteraidd Aberfan i brynu organ newydd yn goffadwriaeth am y plant a gollwyd yn y drychineb a oedd yn aelodau o'r capel, plant y bum yn eu plith droeon, yn dweud stori'r efengyl ar fore Sul.

Teimlwn yn ddiolchgar eleni i'r hanesydd, yr Athro John Gwynfor Jones, Caerdydd am ei lafur yn paratoi cyfrol swmpus ar Hanes Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg 1876-2005 (Caerdydd, 2006) ac am y paragraff hwn sy'n llefaru cyfrolau am ein gofal caredig a derbyniol. Dyma'r ychydig frawddegau i gloi fy ymateb ar ôl deugain mlynedd (gweler t.279)

"Wedi'r gyflafan fawr yn Aberfan ar 21 Hydref 1966 mynegwyd cydymdeimlad dwys yn y Cyfarfod Misol yn Jerusalem, Ynys y-bwl yn Rhagfyr, a diolchwyd i'r Parchg. E. Lewis Mendus am ymweld â'r trigolion dros y Gymdeithasfa a'r Henaduriaeth ac i'r Parchg. E. Peris Owen a D. Ben Rees am eu gwasanaeth hynod ymhlith y teuluoedd yn ystod y drychineb."

Parhawyd y gwasanaeth hyd nes i mi symud i Lerpwl yn niwedd mis Mehefin 1968 ac i Peris Owens symud i Dreorci ac yn ddiweddarach i Awstralia lle yr hunodd dair blynedd yn ôl.

D. Ben Rees


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy