Roedd gwreiddiau Dafydd Owen yn ninas Lerpwl gan fod ei dad Dr Wil Owen a'i fam Mrs Olwen Owen (nee Hughes) yn gynnyrch bywyd Lerpwl. Ganwyd Dafydd yn Hong Kong ond o fewn blwyddyn dychwelodd y teulu i ardal Portsmouth. Roedd ei Dad ar fin cael ei ryddhau o'i wasanaeth yn y llynges ac yn gobeithio dychwelyd i dref ei fagwraeth fel meddyg. Un drafferth fawr oedd fod tai yn brin yn Lerpwl.
Ar ymweliad â Chapel y Drindod, Princess Road cafodd Wil ac Olwen sgwrs hefo ffrind iddynt, Gwen Lois Jones (Booker Avenue). Yr oedd hi ar fin priodi ac yn chwilio am dŷ. Roedd Gwen wedi clywed fod un o flaenoriaid y Drindod, Mr Llew Owen, yn adeiladu tai yn Melbreck Road, Allerton.
Penderfynwyd cael gair gyda'r adeiladydd a chael addewid ganddo o dŷ braf, drws nesaf i Gwen Jones a'i phriod, a chael cysur mawr o hynny. Dyma gartref Dafydd. Yr oedd wrth ei fodd a bu'r atgofion hyn yn werthfawr iddo. Gweld ceffylau yr heddlu yn mynd heibio'r tŷ bron bob dydd a chyfle i fynd yn gyson i chwarae ym mharc braf Calderstones. Roedd ef yn genfigennus iawn o blant 'dros y ffordd gan fod ganddyn nhw Rheilffordd go - iawn yng ngwaelod yr ardd.
Plentyn a oedd yn holi cwestiynau oedd Dafydd yn nyddiau Lerpwl. Dyma rai o'r cwestiynau:
Pam fod gymaint o bobl yn byw yn Lerpwl? Pam ddaru ei hen daid gerdded yr holl ffordd, dros gan milltir, o Sir Fôn i Lerpwl i chwilio am waith ag yntau ond yn hogyn go ifanc? (Diddorol nodi iddo gael gwaith fel prentis saer yn adeiladu gorsaf newydd yr Exchange.) Yn lle roedd llong Taid Owen yn docio? I ble roedd ef a'i long yn hwylio? Addysg werthfawr oedd hyn i gyd i'r bychan yr adeg dyngedfennol honno.
Cafodd ei dad, Dr Wil Owen gynnig i ymuno mewn practis meddyg ym Mhen Llyn gan hen ffrind coleg o ddyddiau Prifysgol Lerpwl, a dyna sy'n egluro'r ffaith eu bod yn dal i wasanaethu ardal Llanbedrog 52 mlynedd yn diweddarach. Ond ni thorrwyd cysylltiad gyda Lerpwl, roedd teulu Wil ac Olwen yn dal yn y ddinas, a chafodd Dafydd a gweddill y plant fwynhad mawr i ddod yn gyson ar wyliau i Lerpwl. Teithio ar y bws o Gaernarfon i Lerpwl i aros gyda nain, a chael mwynhau y gymuned Gymraeg yn Eglwys y Drindod ac yn ddiweddarach Heathfield Road. Gwerthfawrogai Dafydd hyn i gyd a soniodd fwy nag unwaith wrthyf am hyn.
Oherwydd bachgen â gorwelion eang ydoedd. Rhyngenedlaetholwr ydoedd yn bennaf, a chonsyrn mawr am y byd a'i bobl. Enillodd ysgoloriaeth yn 16 mlwydd oed i'r Coleg Iwerydd lle cafodd ffrindiau oes o bob rhan o'r byd a gwelwyd llawer ohonynt yn yr arwyl. Wedi graddio ym Mhrifysgol Birmingham (lle y bu yn mynychu y Capel Cymraeg) aeth i weithio i Ysgol Rhyngwladol Singapore lle bu'n sefydlu canolfan gweithgareddau agored yn jyngl Jahore. Dychwelodd i Gymru i weithio dros Urdd Gobaith Cymru, fel Swyddog Adnoddau gan bwysleisio Neges Ewyllys Da a'r dystiolaeth o blaid yr Efengyl. Enillodd radd M.Ed Prifysgol Cymru am draethawd yn olrhain dylanwad Urdd Gobaith Cymru ar addysg yng Nghymru.
Yna cafodd ei apwyntio yn Gaplan Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru a chawsom ni y fraint o fynd â phlant Capel Heathfleld Road i'r Ganolfan Ieuenctid yn y Bala a derbyn o'i Arweiniad a'i frwdfrydedd. Roedd y plant wrth ei bodd a ninnau'r oedolion a'r athrawon yn gwerthfawrogi ei ymroddiad. Cychwynnodd fynd â phlant o Gymru i Ynys Iona. Yn ei angladd cyfeiriodd y Parchedig Ian Galloway o Glasgow ac o gymuned Iona at hyn gan ddweud: "He brought mini - loads of young people with strange accents to Iona".
Ar ôl cymeryd rhan mewn Rhaglen Deledu cafodd wahoddiad i ymuno ag Adran Grefydd BBC Cymru, ac felly y bu yn fawr ei ddylanwad ym myd y cyfryngau. Yna daeth galwad arall iddo y tro hwn i fynd i Ynys Iona, gofalu ar ôl Canolfan Ieuenctid George Macleod am dair blynedd. Daeth yn ffefryn y gymuned. Ond roedd galwad Cymru yn gryf a dychwelodd i weithio fel Cyfarwyddwr Ieuenctid i Esgobaeth Bangor.
Yna yn ôl i'r B.B.C i redeg cynllun y Media Newydd. Yn ystod ei fis cyntaf o'i swydd newydd graddiodd gyda B.Th (Allanol) o Brifysgol Rhydychen, ac yna fe ddaeth y newydd fod yn rhaid iddo gael profion meddygol. Pendraw hyn oedd diagnosis ei fod yn dioddef o gancr. Wynebodd y sefyllfa yn gwbl ddewr a ffyddiog fel yr englynodd un o feirdd y fro, D.J. Jones.
Dewraf Cristion aflonydd, er ei gas
A garwedd ei gystudd
Gafael yn ddi-ffael ei ffydd
Yn y Dwyfol wnai Dafydd.
Bu gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog ar nos Lun, 6 Chwefror ac yna y diwrnod canlynol yn Eglwys Gadeiriol Bangor o dan ofal yr Esgob; Alun Hawkins; offeiriad plwyf Llanbedrog Canon Andrew Jones a'r Parchedig Gareth Maelor, Llanfwrog. Cydymdeimlwn yn fawr gyda'i anwyliaid a diolchwn iddynt am gadw cysylltiad agos â ni fel Cymry Lerpwl trwy'r Angor, ac mae'n fraint llunio teyrnged i Ddiolch am fywyd a gwaith Dafydd Griffith Lewis Owen.
Pan oeddwn yn pregethu yn Llanbedrog ar bnawn Sul, 27 Gorffennaf 2003 cefais groeso mawr ar aelwyd Glennydd a chael cwmni Dafydd ar derfyn yr oedfa. Roedd e'n llawn awyddfryd i wasanaethu Crist a gwnaeth hynny yn odidog ar hyd y blynyddoedd. Diolch am gael ei adnabod.
D.Ben Rees