Llanwyd yr adeilad gan aelodau, cyn aelodau, pobl y fro a chynrychiolwyr eglwysi Caer, Lerpwl a Phenbedw.
Croesawyd ni gan y Gweinidog, y Parchedig T. R. Wright ac yr oedd yna deimlad o lawenydd a dio1chgarwch yn y gynulleidfa. Aelodaeth fechan Gymraeg sydd yn Westminster Road a rhai ohonynt â chysylltiadau gyda'r tadau a ddechreuodd yr Achos ond am mae hi ydyw'r unig gapel yn y fro erbyn hyn mae'r trigolion Saesneg wedi ymuno ac yn mwynhau'r awyrgylch unigryw.
Angor yr holl weithgareddau ydyw Mr Emrys Williams a ddilynodd ei dad, Watkin Williams i'r swydd. Dyn amryddawn iawn ydyw Emrys yn arlunydd, yn gantor, yn gyfansoddwr ac ef oedd yn arwain côr y cylch, Westminster Singers yn y dathliad, yn cynnwys rhyw ddeg-ar-hugain o ferched a dynion.
Darllenwyd o'r Ysgrythurau gan Mrs Olwen Dodd, Great Sutton sydd a chysylltiadau a dechrau yr achos ac wedi bod yn aelod ar hyd ei hoes a Mr Alun Ogwen Jones, Bethesda, a fu yn aelod yn yr Eglwys yn y pumdegau, ef yn Gyn Lywydd Cymdeithasfa'r Gogledd.
Oherwydd natur ieithyddol y gynulleidfa roedd yr emynau a'r darlleniadau ysgrythurol yn y Cymraeg a'r Saesneg yn wir 'roedd pob peth yn ddwyieithog ac yn gweddu i'r dim. Gweddïodd y Parchedig Rhys ab Ogwen Jones, Ponciau a fu'n bugeilio'r Eglwys, drosom mewn diolchgarwch am yr etifeddiaeth a gafwyd ac sydd yn parhau.
Adroddwyd hanes cynnar yr Achos gan Emrys Williams ac yna hanes yr hanner canrif olaf gan Mr Clifford Owen, Llanfairfechan, cyn-flaenor yn yr eglwys. Hanes ymroddiad, llanw a thrai fel braidd ym mhob man. Diddorol ac unigryw iawn yw'r stori ac yn wahanol i Eglwysi mawr Penbedw a Lerpwl gyda aelodaeth niferus a phobol cefnog iawn i hybu'r achos. Mae'r hanes yn haeddu ei gyfnodi ar gyfer y dyfodol.
Cawsom bregeth rymus gan y Parchedig Ddr D. Ben Rees ar adnod 32 o pennod 12 o'r Efengyl yn ôl Luc "Peidiwch ac ofni fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas" roedd mewn 'hwyl'; yn taranu; yn bygwth, yn ein atgofio o'n dyletswyddau ond ar yr un pryd yn ein cysuro. Teimlais fod yna bregethau o'r fath wedi tynnu Cymry Ellesmere Port i'r capel yn yr oesau a fu i gael eu porthi a'r moddion melys, chwerw a bendithiol!
Wedi'r gwasanaeth cawsom wahoddiad i de yn y festri gan Mrs Olwen Dodd a gwragedd y capel. Olwen yn ddisgynnydd i rhai a fu'n sefydlu yr achos yn Westminster Road.
Bu hen sgwrsio am oesau a fu a chanmoliaeth am ganu'r côr ac hefyd ymroddiad y gynulleidfa yn atgofio Emrys Williams fel y byddai pobol yn cynnull oddi allan i'r capel i wrando ar y canu ac yna yn aros i wrando ar ganu'r emynau yn y stryd wedi'r oedfa! Roedd yr aelodau wrth eu bodd yr gyda'r dathliad a ninnau a ddaeth atynt yn gorfoleddu yn y gwasanaeth canmoladwy.