Ar brynhawn Sul 14 Mai cynhaliwyd Gŵyl yr Ysgol Sul. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. R. Ifor Griffith. Cymerwyd y Gwasanaeth Dechreuol gan bobl ifanc yr Ysgol Sul. Gwobrwywyd y plant a'r bobl ifanc gan Mrs Beryl Williams, Ysgrifenyddes Pwyllgor yr Henaduriaeth o'r Ysgol Sul a Mr. Ifor Griffith. Dan 11 oed adroddwyd "Beth yw mesur glas y nen?' gan Ben Thompson, Thomas ac Olivia See. Dan 15 oed adroddwyd "Dod ar fy mhen dy sanctaidd law" gan Lis, Lowri a Lucy. Dan 18 oed wobrwywyd Amy, Elin, Dewi, Hannah a Ieuan.
Holwyd y plant yn gynharach gan Mrs Anne M. Jones, Allerton a fanylodd ar y dair adran wedi llongyfarch athrawon yr Ysgol Sul a'r rhieni ar eu gwaith gwerthfawr. Roedd Maes Llafur y Dosbarth dan 11 oed allan o'r llyfr `Y Trysor', yn delio gyda gallu, gofal a sancteiddrwydd Duw at ei bobl. Roedd y Maes dan 15 oed ar ffurf papur arholiad, yn cynnwys astudio storïau o'r Testament Newydd. Roedd y Maes yn y dosbarth dan 18 oed hefyd ar ffurf papur arholiad ar y testun Dywediadau'r Iesu. Roedd yn cynnwys hanes Sacheus, y bugail yn oes yr Iesu a hanes yr Iesu a Nicodemus o safbwynt achubiaeth eneidiau. Canmolodd Mrs Anne Jones y plant a'r bobl ifanc i gyd am eu gwaith.
Arweiniwyd y canu gan Mrs Wena Evans a fu mor weithgar yn yr Ysgol Sul. Cyflwynwyd Wena gan y llywydd. Roedd ei rhieni ac eraill o'r teulu'n bresennol, a llongyfarchodd Mr. Ifor Griffith rieni Wena, Mr a Mrs E. Emrys Jones, Bae Colwyn, ar ddathlu trigain mlynedd o fywyd priodasol. Dymunwn yn dda iddynt ar achlysur mor hapus. Cawsom ganu tair emyn yn rhan gyntaf y cyfarfod, gyda'r plant yn cymeryd rhan flaenllaw.
Roedd y geiriau i gyd ar y sgrin gan Dr. John Williams oedd yn gweithio'r "Power Point".
Y gŵr gwadd
Gŵr gwadd y prynhawn oedd Mr. Aled Lewis Evans, Wrecsam a chyflwynwyd ef gan y Llywydd a dywedodd ei fod yn ŵr amryddawn iawn, yn athro, yn bregethwr lleyg, yn awdur ac yn fardd. Mae'n darlledu ac yn ysgrifennu a chyflwyno dramâu. Mae ei wreiddiau yn Sir Feirionnydd ac roedd ei daid, John Evans, Llanegryn yn fardd cenedlaethol. Cawsom weld tri llun gan Mr. Lewis Evans. Roedd y llun cyntaf o Bont Cysyllte, "The bridge that connects", pont Thomas Telford sydd yn ddau gant oed bellach.
Roedd yr ail lun, gan Salvador Dali o Gatalonia yn Sbaen, oddi ar y we, a'r teitl oedd "Portrait of My Dead Brother". Roedd gan Dali frawd ieuenach, yntau hefyd a'r enw Salvador Dali, a fu farw, a theimlai Dali ei fod wedi byw yng nghysgod ei frawd. Roedd llawer o ddotiau yn y llun, rhai golau a thywyll. Rhaid cael llinellau i uno'r dotiai yn ein bywydau ninnau. "Surralist" oedd Dali, ond newidiodd Hiroshima ei fywyd a'i droi at grefydd.
Poster oedd yn ystafell myfyriwr Mr. Aled Lewis Evans ym Mangor oedd y llun olaf, hwn hefyd gan Salvador Dali. Llun ydoedd o Grist yn ôl Sant Ioan y Groes. Mae'r gwreiddiol yn yr Oriel Gelf yn Glasgow. Roedd Dali eisiau portreadu Crist cryf. Mae'r groes yn y llun uwchlaw y byd, heb ei daearu. Mae'n berthnasol i bawb ac mae fel pont Telford yn cysylltu, hynny yw, yn ein cysylltu ni â Duw.
Canwyd tair emyn arall dan arweiniad Wena. Diolchodd Mr. Ifor Griffith i bawb, i'r gŵr gwadd, i'r ysgrifenyddes, Mrs. Beryl Williams, i'r pwyllgor, i'r plant a'r bobl ifanc, i'r athrawon a'r arolygwr, i Mrs Anne M. Jones, Mrs Wena Evans a'r gyfeilyddes Mrs Margaret Anwyl Williams, i Dr. John Williams ac i bawb a fu'n paratoi'r te. Ategwyd y diolch gan Dr. D. Ben Rees aelod o'r Pwyllgor ers 1968 a ddiolchodd hefyd i'r llywydd.
Cafwyd te blasus i ddiweddu'r ŵyl. Roedd yn bleser gweld Miss Megan Lewis, Walshingam Road, yn ôl yn y cyfarfod hwn wedi gwaeledd. Dymunwn yn dda iddi.
Ceir cerddi a ysbrydolwyd gan Ŵyl yr Ysgol Sul o waith Aled Lewis Evans, Wrecsam yn Yr Angor, rhifyn Gorffennaf 2006.