BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Capel Engedi, Caernarfon a'r garreg y tu allan i'r Capel. Dyma lle bu'r cyfarfod cyntaf i sôn am fynd i Batagonia.Paratoi ar gyfer Gŵyl Mimosa - 22 a 23 Hydref 2005
Hydref 2005
Sara Fflur Williams (myfyrwraig gafodd ei geni a'i magu yn Lerpwl) ysgrifennodd y darn hwn fel rhan o'i chwrs Cymraeg.
Pam benderfynodd y Cymry fynd i Batagonia?

Ar y pumed ar hugain o fis Mai yn 1865, ddaru'r cwch Mimosa' adael porthladd Lerpwl hefo 163 o bobl dewr o Gymry arni yn barod i fynd ar daith i'r Wladfa ym Mhatagonia. Ond pam ddaru cymaint o bobl adael Prydain a mynd i chwilio am fywyd newydd mewn gwlad bell?

Mae na lawer o resymau pam ddaru nhw symud. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a aeth yn ffermwyr tlawd a doeddwn nhw ddim yn cael bywyd hawdd. Roedd gan y ffermwyr dir, ond roedd y meistri tir yn gofalu eu bod nhw'n talu ar amser a rhan fwyaf o'r amser roedden nhw yn codi y pris yn fwy na dylai hi fod. Roedd y meistri tir yn Saeson ac yn mynd i'r Eglwys Anglicanaidd. Doedd pobl Cymru ddim yn mynd i wasanaethau yma ac os roedden nhw yn cael eu dal yn mynd i gapel anghydffurfiwr buasai'r meistri tir yn codi rhent ar y tir.

Hefyd doedd pobl ddim yn hapus hefo'r ffordd roedd ysgolion yn cael eu rhedeg. Roedd yr athrawon fel arfer yn hen filwyr ac roedden nhw yn curo'r plant yn aml. Roedd yr addysg yn cael ei ddysgu yn Saesneg ond wrth gwrs doedd y plant ddim yn deall gair o Saesneg ac os oedden nhw yn siarad Cymraeg yn y dosbarth oedd darn o bren yn cael ei roi dros wddf y plentyn yn dweud Welsh Not.'

Ond y rheswm mwyaf pam ddaru nhw symud oedd achos y tlodi. Doedd gan y tyddynwyr na'r glowyr ddim llawer o bres, roedden nhw wedi cael llawer o hafau gwlyb ac felly dim llawer o gnwd. Roedd trethi yn uchel a hefyd y rhent. Roedd teuluoedd yn ei chael hi'n anodd i fyw ar un swllt y diwrnod. Dydi hi ddim yn anodd i weld pam ddaru pobl benderfynu mynd i chwilio am wlad arall i ddechrau byw.

Roedden nhw eisiau bywyd gwell ond hefyd roedd pobl eisiau cenedl o Gymry Cymraeg dros y môr. Roedd llawer o bobl wedi gadael Cymru, cyn ddaru'r Mimosa' fynd, i ddechrau bywyd newydd yn Amerig ac roedd cymdeithasau Cymreig wedi dechrau yno mewn llefydd fel yn Massachussetts, ym Mhensylvania; yn Philadelphia ac yn Nhalaith Tennessee. Ond roedd plant y bobl yma yn tueddu i ddod yn fwy Americanaidd 'na Chymraeg ac felly roedd y bywyd Cymraeg wedi mynd.

Roedden nhw eisiau lle, lle basen nhw cael cadw y bywyd Cymraeg. Dyna pryd ddaru pobl feddwl am Batagonia. Ddaru dwsin o ddynion Cymraeg oedd yn byw yn Lerpwl benderfynu base'n nhw yn mynd o gwmpas Cymru yn dweud i bawb pa mor dda oedd Patagonia i fynd i fyw yna. Dau o'r dynion oedd Lewis Jones ac Edwyn Cynrig Roberts. Roedd Lewis Jones wedi cael ei eni a'i fagu yng Nghaernarfon ac roedd Edwyn Cynrig Roberts wedi byw yn Wisconsin ond ddaru symud i Lerpwl pan wnaeth o sylweddoli dim ond pobl o Gymru oedd am fynd i Batagonia. Roedd Cymry Amerig ddim am fentro. Ddaru y cyfarfod cyntaf am syniad gael ei gynnal yng nghapel Engedi' yng Nghaernarfon,' cafodd ei drefnu gan Lewis Jones.

Roedd rhaid cael caniatad gan lywodraeth Ariannin cyn dechrau symud pobl. Erbyn diwedd 1862 gwnaeth dau ddyn, Love Jones-Parry ac Edwyn Cynrig Roberts, fynd i weld y wlad a'i baratoi. Doedd hi ddim yr hyn oedden nhw yn ddisgwyl ond ddaru nhw fynd nôl i Gymru a dweud bod Patagonia yn baradwys. Felly ar y pumed ar hugain o Fai, 1865 roedd y Mimosa' yn barod i ddechrau ar y daith o borthladd Lerpwl.

Hanes y fordaith a'r glanio
Ar ddydd Sul y pumed ar hugain o fis Mai 1865, dechreuodd 'Mimosa' i lawr yr afon Mersi ac mae'r capten yn arwain y teithwyr mewn addoliad y bore hwnnw. Roedd Ysgol Sul wedi cael ei drefnu am y pnawn, ac yn yr hwyr roedd yna wasanaeth arall. Yn ystod y daith roedd na gyfarfod gweddi yn cael ei gynnal bob nos.

Erbyn bore dydd Llun roedden nhw gyferbyn â Sir Fôn, ond yn fan hyn ddaru storm fawr ddechrau. Ddaru bad achub ddod i helpu nhw ond gwnaeth y capten ddim gadael iddyn nhw ddod yn agos i'r cwch am fod ganddo nwyddau yng ngrombil y llong na ddylai fod. O'r diwedd gostyngodd y gwynt a ddaru'r cwch ddechrau ar y daith unwaith eto. Pan ddaru'r cwch gyrraedd y cyhydedd roedd hi'n boeth iawn a ddim llawer o wynt. Felly roedd y dynion yn cael mynd mewn i'r môr, ond iddyn nhw gael rhaffau rownd nhw.

Doedd na ddim llawer o drwbl ar y daith ond pan oedd y capten eisiau torri gwallt y genod, roedd y Cymry yn erbyn hyn yn llwyr. Ar y daith ddaru pedwar plentyn farw ond ddaru dau fabi gael eu geni. Roedd pawb yn edrych ymlaen at gyrraedd a dechrau bywyd newydd. Roedd pawb yn disgwyl i weld afonydd llawn o bysgod a ffrwythau a llawer o dir i dyfu bwyd eu hunain.

Ond pan ddaru nhw gyrraedd Porth Madryn nid hynny oedd yn disgwyl amdanynt. Roedd hi'n ganol gaeaf ac roedd y dyddiau yn fyr, roedd na law trwm ac roedd hi'n oer iawn yno. Ond er hynny ddaru nhw gadw eu hysbryd i fyny a chredu bod pethau am wella yn fuan. A daeth tro ar fyd.

Sara Fflur Williams

Myfyrwraig ifanc ydyw Sara Fflur Williams, Calderstones a pharatôdd y rhannau hyn ar gyfer ei chwrs Cymraeg. Ganwyd a magwyd hi yn ninas Lerpwl ac y mae yn un o'r genhedlaeth ifanc sy'n ysgrifennu yn yr iaith - Gol


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy