| Yn y llun o'r chwith i'r dde fe welir y gweinidogion, sef y Parchg. Cyril John (Capel Edge Lane); y Parchg. Ieuan Jenkins (Cape] Penri, Caer); Y Parchg. Haydn Morgan (Capel Earlsfield Road, Wavertree); y Parchg. Huw Davies (Capel Woodlands, Penbedw) a'r Parchg. Glanville Jones (gweinidog y Bedyddwyr yn ninas Manceinion). Rwy'n ddiolchgar i'r diweddar Mr. Ted Humphreys-Jones, Everton, Lerpwl am y llun rhagorol hwn o weinidogion y cylch yn y flwyddyn 1951. Roedd disgwyl mawr bob mis Medi am y Gymanfa Bregethu. Byddai'n dechrau ar nos Wener ac yn gorffen ar y nos Sul. Gwahoddid pedwar o weinidogion a oedd yn bregethwyr argyhoeddiad i gyhoeddi'r Gair mewn pedwar o gapeli'r Glannau. Ar nos Sadwrn cynhelid y Gyfeillach Gyffredinol mewn un capel. Ym mis Medi 1961, capel Earlsfield Road, ergyd carreg megis o Penny Lane oedd y ganolfan i bawb o'r Cymry o bob enwad i ddod at ei gilydd i wrando ar ddau o'r pedwar gweinidog i annerch ar destun penodedig. Yn 1961 y testun a roddwyd i'r diweddar amryddawn gyfathrebwr, y Parchg Carey Garmon, Penybont-ar-¬Ogwr oedd 'Gwaith eich Ffydd' a'r testun i'r Monwysyn huawdl, y diweddar Barchg W Môn Williams, Brynaman oedd 'Llafur eich Cariad'. Hefyd bob blwyddyn cynhelid y Gymanfa Ganu ar gyfer cylch ehangach a fyddai'n cynnwys capeli'r Bedyddwyr Cymraeg yng Nghaer, Birmingham, Manceinion a Tyldsley. Yr ysgrifennydd cyntaf o bwyllgor y Gymanfa wedi'r Ail Ryfel Byd oedd Mr Ted Humphreys Jones, a bu wrth ei waith yn agos i 20 mlynedd. Llywydd y pwyllgor oedd Mr Aneurin Parry, Upper Brook Street, Manceinion. Un o'r trysoryddion oedd Mrs Dilys Griffith, Woodlands, Penbedw a hi hefyd oedd un o'r organyddion. Wedi i Dilys Griffith symud i Benllech, Môn cymerodd Mr Irwedd Vaughan, Penbedw drosodd fel trysorydd. Gyda'i ffrind Mr Ernie Wyn Jones, Capel Penri, Caer, dyma'r ddau a fu wrthi am flynyddoedd yn arwain Caniadaeth y Cysegr. Bu clod uchel iddynt am eu gwaith ysbrydoledig. Erbyn heddiw dim ond atgofion sydd ar ôl o weithgareddau'r gorffennol ac mae'r ychydig ohonom bellach yn aelodau yng nghapeli'r Presbyteriaid a'r Annibynwyr. Caewyd pob un o'r capeli - Caer, Penbedw, Lerpwl, Bootle a Manceinion. Dinistriwyd tri o'r capeli i'r llawr a'r ddau ganolfan arall yn nwylo enwadau eraill, un ohonynt yn perthyn i'r Eglwys Gatholig. Mae'r Angor o dro i dro yn trafod yr hyn a aeth o le arnom fel Cymry Cymraeg. Mae'r sefyllfa enbydus yn y Gymry Gymraeg yn golygu ein bod ni yn cael ein hamddifadu yn Lloegr o ddeiliaid a ddylai fod yn cynnal y 'blychau ennaint' yn y dinasoedd a nodais. Ni allaf drafod ymhellach y sefyllfa. Y gwir yw bod hi'n rhy ofnadwy i feddwl am y sefyllfa grefyddol ymysg Gymry alltud heddiw, a'r unig ymateb yw diolch o galon am yr amser a fu. Ken Williams
 |