BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Arglwydd Faer dinas LerpwlArglwydd Faer dinas Lerpwl
Gorffennaf 2008
Portread o Faer newydd dinas Lerpwl gan Olygydd Yr Angor.

Ar nos Fawrth Mai 20 yn Neuadd y Ddinas cafodd nifer dda ohonom gyfle i fod yn bresennol yng Nghinio Maer newydd Dinas Lerpwl a chafodd groeso mawr gan y gwahoddedigion.

Y mae gan yr Arglwydd Faer am 2008 nifer o rinweddau amlwg:

  • Ef yw un o feiri ieuengaf i gael yr anrhydedd. Ni fu yn Cynghorydd am fwy na 6 blynedd. Etholwyd ef yn 2002 dros ward Fazakerley fel aelod o'r Blaid Lafar. Dim ond 46 mlwydd oed ydyw.
  • Mae yn boblogaidd gyda gwleidyddion pob plaid wleidyddol. Talodd arweinydd y Ddinas, Cynghorydd Waren Bradley deyrnged uchel iddo fel person agos atoch, a dyna'r stori a glywais y noson honno gan o leiaf 6 o wleidyddion ar Gyngor y Ddinas.
  • Mae yn Sgowser go iawn o ran iaith ac acen ac yn ymffrostio yn ei gysylltiadau â'r ddinas, ac yn arbennig ei fod ef yn cael gweithredu fel yr Arglwydd Faer ym mlwyddyn Prifddinas Diwylliant Ewrop.
  • Mae ganddo gefndir gwerinol ond hefyd manteisiodd ar gyfleusterau addysgol fel myfyriwr aeddfed. Gadawodd ysgol yn bymtheg mlwydd oed i weithio ym myd adeiladu, ond blynyddoedd yn ddiweddarach, yn ei oriau hamdden, astudiodd pynciau Lefel O ac ati a chael ei dderbyn am radd Prifysgol John Moores. Yno ym 1993 graddiodd ac yn awr dechreuodd ar radd MA. Dymunir yn dda iddo ym myd addysg.
  • Mae ganddo nod eleni o godi'r swm o ddau gan mil i achosion da y ddinas fel Ysbyty Plant Alder Hey ac Ysbyty'r Galon yn Broadgreen. Dymunir yn dda iddo yn yr ymdrech arbennig yma.
  • Medda ar ddigonedd o hiwmor a chafwyd yn ei anerchiad aml i stori. Un o'r gwahoddedigion y cefais gyfle i sgwrsio ag ef oedd y canwr Gerry Marsden sydd â th^y haf ganddo ym Marianglas Môn ac yn meddwl y byd o drigolion yr ynys.
  • Gallwn ddisgwyl arweiniad ganddo. Estynnais ddeheulaw cymdeithas iddo yn enw y gymuned Gymraeg ac roedd yr Arglwydd Faer, Steven Rotheram, yn dra diolchgar am imi ddod ato i'w gyfarch yn swyddogol.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy