Ar y nos Sadwrn croesawyd Côr Glannau Ystwyth i Gyngerdd Agoriadol y Gymdeithas Lenyddol a chafwyd Ysgoldy dan ei sang. Croesawyd y Côr gan un a oedd yn nabod aelodau'r Côr i gyd, ein Gweinidog a chawsom anerchiad syfrdanol ganddo, yn llawn hiwmor am ei ddyddiau cynnar fel stiwdent diwinyddol yn ardal y Côr, Glannau Ystwyth. Arweiniwyd y noson gan Emyr Jones, Llanrhystyd, trefnydd y daith, a chawsom unawdau gan Rhian Lois (un o sêr y dyfodol, ac fe ddaw yn ôl atom yn 2008) ei mam Delyth Hopkin Evans, hyfforddwraig ac arweinydd y Côr, Gwyn Jones (Llanafan), Gwyneth, y cyfeilydd a chwaer Delyth a modryb Rhian. Yr oedd nain Rhian, Mair, yn aelod o'r Côr gwych hwn hefyd. Cofiai Dr. Rees Crwys Evans yn hogyn bach yn Nhrisant pan ddeuai i gael te ar aelwyd rhieni y tenor hyfryd. Arhosai y Côr yng nghyffiniau Huyton ond cyn dychwelyd i'r gwesty cafwyd swper Diolch iddynt. Trefnwyd y cyfan gan Mrs Gwenful Bain a Mrs L. Coulthard a rhoddwyd y bwyd gan aelodau Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas Lenyddol, Cymdeithas a fu mewn bodolaeth yn ddi-dor ers 1890. Dipyn o record, ac mae gennym le i ddiolch am y Pwyllgor presennol. Ar Fore Sul, 1 Hydref llwyddodd Dr. Rees i berswadio y Côr i gymeryd rhan yn Oedfa Diolchgarwch am y Cynhaeaf ar y thema Tyfu ac Aeddfedu yn Ysbrydol. Roedd graen ar y cyfan o'r dechrau i'r diwedd. Gyda 50 o aelodau'r Côr, plant yr eglwys adref, ymwelwyr o Morfa Nefyn a Paris, cyfeillion eglwys Bethania, Waterloo roedd y gynulleidfa yn 124. Traddodwyd y genadwri gan y Parchedig Ddr. John Tudno Williams, Capel Seion (Llywydd y Gymanfa Gyffredinol am 2006-07). Bu ei rieni yn byw yn Garston ac yntau a gwnaeth ei genadwri o Ddiolch am Ddwy Gân yn gofiadwy i'r plant a'r gynulleidfa. Cafwyd bore coffi yn yr Ysgoldy a baratowyd gan athrawon yr Ysgol Sul a gwledd arall i bawb. Ni allwn ond diolch o waelod calon am y cyfan a'r cyfarfodydd gweddi pnawn a nos Lun. Gan y Dr John G Williams
 |