BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Lot HughesCofio Lot Hughes, Arloeswr y Wesleaid
Tachwedd 2007
Mae ganddom ni yng Nghymru lawer o wŷr a gyfrannodd lawer at ein diwylliant a'n crefydd, rhai yn eithaf enwog ar y cof a rhai eraill ddim mor adnabyddus.

Ond yn aml y mae cyfraniad y rhai, llai adnabyddys yn llawn mor werthfawr.

Un o'r dynion yma oedd Lot Hughes, (ganed ef mewn tyddyn eitha cyntefig or enw, Tyddyn Ucha Bach, sydd rhyw ddwy filltir i'r de o dref Abergele.

Yn ôl cofnodion ei fedydd, roedd yn fab i William ac Anne Hughes ac fe'i bedyddwyd yn Eglwys Mihangel y Sant Betws yn Rhos ar Fai 27, 1787, yn ôl yr hanes cafodd ond oddeutu blwyddyn a hanner o addysg elfennol.

Pan oedd yn unarddeg oed aeth yn brentis Teiliwr yn Abergele. Ynghyd â'i rhiant, roeddent yn un o'r aelodau cyntaf yng nghapel Wesle Abergele.

Fe benodwyd ef yn ddiacon pan oedd yn un ar bymtheg oed a dechreodd bregethu yn gyhoeddus yn fuan iawn wedi hynny.

Yn 1808 fe aeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth er mai prin ydy wir wybodaeth am y blynyddoedd cynnar yn gwasanaethu a dywed ei gofianydd iddo ddatblygu tua 1820 i fod yn bregethwr profiadol a llwyddianus iawn.

Gwasanaethodd mewn dros ugain o wahanol trefi a pentrefi dros Gymru gyfan, gwelwyd ffrwyth ei lafur yn arbennig yn siroedd y De lie bu yn gyfrifol am sefydlu lIawer achos.

Cyhoeddodd lawer o erthyglau yn yr Eurgrawn a oedd yn werth mawr i'w gyd Gymry.

Er iddo ymneilltuo o'r weinidogaeth ym 1850, parhaodd i bregethu ac chyfrannu ei waith fel llenor hyd at ei farwolaeth yn ninas Caer pan oedd yn 86 mlwydd oed.

Gan Goronwy Davies, Abergele


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy