BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Taj MahalCymry ifanc Lerpwl
Ebrill 2010
Ers deugain mlynedd bu cyfle da gan y Cymru i grwydro'r byd, ac yn y ddegawd diwethaf daeth yn ffasiynol i dreulio misoedd a mwy ar grwydr, fel y gwelwyd weithiau yn yr Angor.

Bu Rhian Williams, merch Margaret Anwyl ac Alan Williams, Allerton ar grwydyr yn yr India, is-gyfandir sydd mor arbennig.

Un arall a fentrodd i bellafoedd y byd yw Gareth Roberts, mab hynaf Mair a Idris Roberts, Allerton.

Rhoddodd ef ei fryd ar deithio i'r Wladfa a Phatagonia, rhan o'r byd sydd â diddordeb anghyffredin i ni'r Cymru.

Hoff gennyf bennill Richard Jenkins, mab yr arwr Aaron Jenkins, o'i gerdd Y Cymry ar Llannau Canwy.

Roedd gwledda ar gig a mate
Ar swper yn gytun
A chlymu bawb ei geffyl
Yn ddiogel bob yr un,
I orffwys aent yn dawel
A chysgu hyd y wawr
Heb ofni'r llew newynog
Hen deyrn y peithder mawr.

Un arall sydd allan ar hyn o bryd yw Mrs Elan Jones, Mossley Hill.

Un o'r Wladfa yw Elan, ac yn ddolen-gyswllt bwysig gyda Patagonia a chymdeithas Ariannin yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen i'w gweld hi yn dychwelyd atom ar ôl treulio rhai wythnosau gyda'i theulu.

Rhwng Elan a Gareth mae'n siwr y cawn glywed mwy yn fuan am y Gaiman, dolafon, Trelew, Rawson, Madryn, Las Plumas a Comodoro Riivadaria.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy