Mae Hywel, o Allerton Lerpwl, wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn nhîm Rhedeg Traws Gwlad. Mae hyn yn gryn gamp ac yn bluen yng nghap y gŵr ifanc. Mab ydyw i Dr Mallt Care, Cymraes frwdfrydig o Gwm Gwendraeth ond sydd ers blynyddoedd yn byw yn Allerton. Daw ei phriod o Loegr ond er hynny magwyd Hywel a'i chwaer Angharad a'r brawd ieuengaf Ieuan yn Gymry rhugl, sydd yn glod mawr i'w man, i gapel Bethel, i Dr Pat Williams a fu'n cynnal dosbarthiadau TGAU yn hanes y tri a'r gymuned o amgylch Heathfield Road. Y mae Hywel Care eisoes wedi cystadlu dros Gymru yn erbyn gweddill Prydain. Enillodd tîm Cymru y fedal efydd. Edrychwn ymlaen at glywed ychwaneg am yrfa Hywel fel rhedwr traws gwlad yn ystod 2009. Diolchwn am gael llun ohono gan Gwynfor Jones.
 |