Pwy oedd eich rhieni, a lle ganwyd chwi?Felix Aubel (1918-87) a Kathleen Beynon (1918-96). Fe'm ganwyd yn ysbyty Glossop, Adamsdown, Caerdydd ym 1960.
Yn eich blynyddoedd cynnar (cyn eich bod yn 11 oed) beth yw'r atgof cliriaf?
Adrodd y drydydd Salm ar hugain ym mhulpud Eglwys Annibynnol Ebeneser, Trecynon, Aberdâr ym mhresenoldeb fy ngweinidog, y Parchedig R. O. Thomas.
Soniwch am rai o athrawon neu brifathro cyntaf eich ysgol gynradd.
Mr. Elwyn Morgan a Miss Gwyneth William yn Ysgol Gynradd Cymraeg, Ynyslwyd, Aberdâr.
Beth sy'n peri llawenydd gwirioneddol i chwi yn y gymdeithas gyfoes?
a) Yr ymdrechion i gymodi rhwng y Palestiniaid a'r Iddewon.
b)Caredigrwydd pobl i roi arian i Apêl Trychineb y Tsunami.
Pa elusen y byddech yn hoffi iddi lwyddo a pham?
Hospice i Geredigion. Mae angen un yn fawr ar Sul fy ngweinidogaeth.
Pwy yw y person o Oes Fictoria yr ydych yn ei edmygu fwyaf?
Benjamin Disraeli, yr Iddew cyntaf i ddod yn Brif Weinidog ar wledydd Prydain.
A oes gwleidydd cyfoes sy'n haeddu eich pleidlais?
Glyn Davies, AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ei barodrwydd fel Ceidwadwr i gefnogi senedd gyflawn i Gymry.
Beth sydd yn eich gwneud chwi fel unigolyn yn wir ddiolchgar?
Iechyd da ag amrywiaeth o ddiddordebau.Pa wlad ar Gyfandir Ewrop neu ar Gyfandir Affrig y byddech yn hoffi treulio cyfnod sabathol o dri mis yno?
Slovenia, ble cafodd fy nhad ei eni.
Oes 'na ddarn o gerddoriaeth (tôn ac yn y blaen) y byddech yn falch o deimlomai chwi a'i cyfansoddodd?
Tôn Cwm Rhondda
Pa gyfathrebwr teledu neu ddigrifwr byddech yn hoffi ei wahodd i'ch cymuned ar hyn o bryd?
Ifan Gruffydd, Tregaron.
A oes gennych le bwyta neu westy i'w gymeradwy?
Yr Harbwrfeistr, Aberaeron.
Beth yw eich barn ar y sefydliad Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n hybu ein papurau bro?
Mae'r Bwrdd yn cyflawni gwaith da iawn ar y cyfan.
Pa bapur newydd a ddarllenir gennych ar ddyddiau'r wythnos?
YWestern Mail yw fy mhapur.
Pa gyfrol o lenyddiaeth y byd y carech ei astudio fel maes llafur.
Y Mabinogion.
Pa fath o hobi y byddwch yn ei fwynhau.
Casglu hen greiriau, yn arbennig ffigurau hanesyddol, crochenwaith Swydd Stafford.
Oes yna ddathliad arbennig wedi aros yn eich cof? Os oes, beth ydoedd?
Fy oedfaon ordeinio a sefydlu fel gweinidog cylch Eglwysi Annibynnol Aberaeron ar Fehefin 19fed, 1993.
A oes gennych eich hoff bentref neu dref neu ddinas?
Aberaeron, "Calon Ceredigion".
Pe baech mewn ffordd i roddi ugain mil o bunnoedd i Gymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi beth fyddai eich dymuniad i'r Pwyllgor Gwaith?
Byddaf yn rhoi llaw rhydd i'r Parchg. Ddr. D. Ben Rees i benderfynu.
A oes yna berson yn eich teulu sy'n haeddu cofnod yn y Bywgraffiadur Cymreig (Os nad yw ef yno eisoes)?
Brawd mam sef David Beynon a gynorthwyodd i ddal y teyrnfradwr William Joyce "Lord Haw Haw' ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.