Roedd ef, fel y gellir gweld wrth ei enw canol, wedi ei eni yn Abergynolwyn a'i briod o Gwm Nedd.
Er ei eni ym Meirionnydd treuliodd Cynolwyn Pugh ei fachgendod a'i lecyndod yng Nghwm Rhondda gan fynd yn löwr.
Ymddiddorai mewn cerddoriaeth ac yna fel canlyniad Diwygiad 1904-05 ymatebodd i'r Weinidogaeth o gapel Siloam, Trehafod.
Ordeiniwyd ef yn 1917 a phriododd ef a Jennet Jenkins yr un flwyddyn a dechrau fel pregethwr ym Mhont-y-pwl.
Ganwyd y tair merch yn y blynyddoedd cynnar hyn a symudodd y teulu i Lannau Mersi.
Derbyniodd ei thad alwad i gapel Saesneg y Presbyteriaid yn Wilmer Road, Penbedw.
Oddi yno yn Nachwedd 1929 y symudodd i Chicago, ei thad wedi derbyn galwad i Gapel Cymraeg Hebron, Chicago - un o dri capeli Cymraeg y ddinas. Roedd hi'n gyfnod anodd yn economaidd gyda'r canlyniad y daeth y fam a'r merched yn ôl i Gymru am ddwy flynedd (1933-35) a derbyn addysg yn y cartref yn Cwm Nedd.
Clywer tinc tafodiaith Cwm Nedd pan sieryd Miss Nansi Pugh y Gymraeg. Dylanwad teulu ei mam a'r cyfnod yn ôl ym Morgannwg. Yna yn ôl i'r Amerig fu'r hanes gan fod ei thad wedi derbyn galwad i Eglwys Gymraeg Efrog Newydd lle y bu'r teulu yn Lysgenhadon ardderchog i Gymru.
Yn 1940 derbyniodd Miss Nansi Pugh radd B.A. Prifysgol Columbia a gwnaeth ymchwil mewn hanes am yr M.A. Ar ôl cwblhau yr ymchwil a llunio traethawd M.A. cafodd ei swydd gyntaf fel athrawes yn ninas Cincinati lle manteisiodd ar y cyfle i gael gwersi mewn canu. Bu yn athrawes gydwybodol yn nhref hyfryd Princeton cyn symud yn ôl i Efrog Newydd lle roedd ei theulu yn byw.
Ymddeolodd ei thad o'r Weinidogaeth yn 1956 a'r flwyddyn ganlynol symudodd ei rhieni i Gaerdydd a hithau fel athrawes i
Wallasey.
Bu yno am bum mlynedd cyn derbyn swydd yn Wimbledon, Llundain. Aeth yn ôl am dair blynedd (1968-71) i ddysgu mewn ysgol yn nhref Bryn Mawr yn Pensylfania ac yna gorffen ei gyrfa fel athrawes Saesneg a Hanes yn Croydon.
Braf oedd cael ei croesawu, hi a'i ffrind Mrs Ruth Davies, merch y Parchedig a Mrs. J. Oldfield Davies, i Aigburth yn 1982.
Naturiol oedd i'r rhai a adnabu ei theulu a'i thad, fel y Barnwr J.EJones, Dr. R. Arthur Hughes a'r Dr. D. Ben Rees, estyn deheulaw cymdeithas iddynt ond oherwydd cyflwr iechyd Mrs. Davies nid oedd modd i Miss Pugh ymuno yng ngweithgareddau'r Cymry fel y dymunai'r ddwy.
Ar ôk marwolaeth Mrs Davies yn 1998 daeth Miss Nansi Pugh yn aelod o Eglwys Bethel, Heathfield Road, Lerpwl ac yn fawr ei chyfraniad, a felly hefyd ym mywyd y Gymdeithas Cymraeg.
Teimlai mai dyma'r tro cyntaf iddi dderbyn manteision cymuned gwbl Gymraeg eu hiaith fel sydd ym Methel ac yn Neuadd y Crynwyr bob nos Fawrth ymysg y Cymry brwd.
Bu hynod o brysur y deg mlynedd diwethaf yn crwydro cyfandir Ewrop ac yn ôl ac ymlaen i weld ei chwaer yn Lloegr newydd a'i chwaer a fu farw yng Nghaerdydd ar ôk blynyddoedd yn yr India, y ogystal a chyfieithu cyfrol
ei thad i'r Saesneg Ei Ffanffer ei Hun a enillodd iddo fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958, a'i ysgrif ar ei daith i'r India yn 1962 a gyfieithwyd ganddi yn y gyfrol
'Indian Diary' (2001) yn ogystal a chyfrol bwysig werthfawr ar hanes Undeb Gorawl Cymry Lerpwl a welodd golau dydd yn 2007.
Roedd mantais arbennig ganddi yn y gwaith hwn, ei gwybodaeth o gerddoriaeth a'i deallusrwydd cerddorol.
Cyrhaeddodd safon uchel fel pianydd a gwyr gryn lawer am y Delyn yn ogystal.
Bellach cyrhaeddodd carreg filltir bwysig yn ei hanes a llawenhawn o'i hadnabod gan ryfeddu at ei bywyd crwydrol a'r profiadau a ddaeth i'w rhan yn yr Unol Daleithiau, yng Nghymru, Llundain a Lerpwl."