BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Plant Glannau Mersi 1955Llun arbennig iawn
Ebrill 2007
Dyma lun arbennig iawn o blant Glannau Mersi dros hanner can mlynedd yn ôl, oddeutu 1955, a hynny yn Reynolds Park, Woolton ar achlysur Dydd y Cymry.
Dim ond ugain y medraf eu henwi.

Yn y rhes gefn ceir Wyn John, Nina Thomas, Glenys Jones, Gwyneth Jones a Glenys Roberts.

Yn yr ail res: Philip Mostyn lones a minnau, Gwenan Roberts ac yn nes ymlaen Catrin Roberts.

Yn y drydedd restr o'r cefn cawn Eifion Thomas, di-enw, a'r nesaf Alun Vaughan lones, Childwall a Richard Glyn Jones o gapel y Drindod.

Pedwar nesaf heb enw ac yna daw Rhiannon, Glena Roberts, Margaret Williams ac ar ben y rhes, Anne Roberts.

Yn y rhes flaen gallaf enwi Gareth Jones (yr ail), Howel Jones (y pedwerydd), yna Gareth Griffiths a phum arall cyn dod at Roger Lloyd Williams, Ballantree Road yr adeg honno ond heddiw Llanfihangel Glyn Myfyr.

Cyfanswm o 53 ohonom. Mawr obeithiaf y bydd darllenwyr Yr Angor yn enwi y gweddill sydd yn y llun.

Credwch neu beidio, hwn yw'r unig lun o'r plant, Cymreig i gyd sydd yn fy meddiant dros gyfnod fy magwraeth yn ninas Lerpwl.

Mae rhai o'r plant, gwaetha'r modd wedi ein gadael yn llawer rhy gynnar o lawer, cyfeirio yr wyf at Philip Mostyn Jones a Margaret Williams, y ddau ohonynt wedi marw.

Edrychaf ymlaen i'r ymateb yn rhifynnau nesaf yr Angor.

Gan John Wynne Jones, Beaumaris (gynt o Lerpwl).


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy