BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bedol
Holi Lionel Madden
Tachwedd 2005
Holi Lionel Madden, cyn Lyfrgellydd Cenedlaethol, Aberystwyth yng ngholofn fisol Yr Angor.
Ugain Cwestiwn o Ysgrifbin y Golygydd y mis yma.

1. Pwy oedd eich rhieni, a lle ganwyd chwi?
Cefais fy ngeni yn Sheffield, Swydd Efrog. Fy rhieni oedd Edith (Mottram) a Cyril Madden, y ddau wedi bod yn aelodau ifanc yn un o gapeli'r Wesleaid yn Sheffield.

2. Yn eich blynyddoedd cynnar (cyn eich bod yn 11 oed) beth yw'r atgof cliriaf?
Gweld Don Bradman yn batio yn erbyn Swydd Efrog yn Bramall Lane yn 1948.

3. Soniwch am rai o athrawon neu brifathro cyntaf eich ysgol gynradd?
Nid wyf yn cu cofio. Y cyfan rwy'n cofio yw'r bwlio yn fy ysgol gynradd gyntaf.

4. Beth sy'n peri llawenydd gwirioneddol i chwi yn y gymdeithas gyfoes?
Y ffaith fod pobl yn parhau i brynu a darllen llyfrau er gwaethaf yr holl sôn ers blynyddoedd nad oes dim dyfodol i'r llyfr.

5. Pa elusen y byddech yn hoffi iddi lwyddo a pham?
Cymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA). Credaf fod y ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn arwydd o'n hagwedd at y greadigaeth i gyd.

6. Pwy yw y person o oes Fictoria yr ydych yn edmygu fwyaf?
William Ewart Gladstone. Rwy'n un o Ymddiriedolwyr y llyfrgell unigryw a sefydlwyd ganddo, sef Llyfrgell Deiniol Sant ym Mhenarlag.

7. A oes gwleidydd cyfoes sy'n haeddu eich pleidlais?
Roedd Simon Thomas, Plaid Cymru, yn Aelod Seneddol gwych yn cynrychioli Ceredigion tan yr etholiad yn ddiweddar. Roedd yn drueni ofnadwy iddo golli'r sedd.

8. Beth sydd yn eich gwneud chwi fel unigolyn yn wir ddiolchgar?
Fy nheulu hyfryd - Mary, fy ngwraig, ein merch Ellen a'i gŵr Geraint, ac ein mab Hywel a'i wraig Emma.

9. Pa wlad ar Gyfandir Ewrop neu ar Gyfandir Affrig y byddech yn hoffi treulio cyfnod sabathol o dri mis yno?
Dim. Mae gas gennyf deithio tramor. Cefais ddigon o hynny pan oeddwn yn gweithio.

10. Oes 'na ddarn o gerddoriaeth (tôn ac yn y blaen) y byddech yn falch o deimlo mai chwi a'i cyfansoddodd?
'Yr Eliffant', sef y dôn a roddir i'r Bas Dwbl gan Saint-Saëns yng Ngharnifal yr Anifeiliaid. Y bas dwbl oedd fy offeryn am lawer o flynyddoedd.

11. Pa gyfathrebwr teledu neu ddigrifwr byddech yn hoffi ei wahodd i'ch cymuned ar hyn o bryd?
Huw Edwards, oherwydd ei bersonoliaeth a'i ddiddordeb mewn hanes Cristnogaeth ac yn arbennig Anghydffurfiaeth.

12. A oes gennych le bwyta neu westy i'w gymeradwyo?
Y Cambria, Aberystwyth - lle bwyta hyfryd yn yr hen Goleg Diwinyddol. Mae'r bwyd yn dda a gallwch edrych dros Fae Ceredigion tra'ch bod yn bwyta.

13. Beth yw eich barn ar y sefydliad Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n hybu ein papurau bro?
Nid wyf yn gwybod y manylion am sut mae'r papurau bro yn cael eu hariannu, ond mae'n debyg dylid croesawu pob cymorth gan Fwrdd yr Iaith ac eraill.

14. Pa bapur newydd a ddarllenir gennych ar ddyddiau'r wythnos?
Yr Independent, ond rwy'n edrych ymlaen at ddarllen 'Y Byd' bob dydd cyn bo hir gobeithio.

15. Pa gyfrol o lenyddiaeth y byd y carech ei astudio fel maes llafur?
Tegla Davies, Gŵr Pen y Bryn.

16. Pa fath o hobi y byddwch yn ei fwynhau?
Ymchwil ar hanes y Wesleaid yng Nghymru a'r Wesleaid Cymraeg yn Lloegr.

17. Oes yna ddathliad arbennig wedi aros yn eich cof? Os oes, Beth ydoedd?
Dathlu pedwar can mlwyddiant Beibl William Morgan yn 1988.

18. A oes gennych eich hoff bentref neu ddinas?
Aberystwyth - y lle gorau yn y byd.

19. Pe baech mewn ffordd i roddi ugain mil o bunnoedd i Gymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi - beth fyddai eich dymuniad?
Creu llyfrgell Gymreig yn arbennig ar gyfer Cymry Glannau Mersi.

20. A oes yna berson yn eich teulu sy'n haeddu cofnod yn y Bywgraffiadur Cymreig (os nad yw ef yno eisioes)?
Yn anffodus, nid oes gennyf berthnasau Cymreig. Fi yw'r cyntaf yn fy nheulu sydd ag unrhyw gysylltiad â Chymru.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy