Hoffai ddiolch am y cyfan a gymerodd le am bedwar diwrnod. Methodd a bod ym mhlith y pererinion ar Ddydd Iau, 18 Mawrth gan ei fod yn Llundain, ond croesawyd hwy bore Iau gan y Parch Ddr. D. Ben Rees, y tu llan i Ganolfan yr Arglwyddes Lever yn Port Sunlight.
Treuliwyd dwy awr yn yr adeilad hardd sy'n llawn o drysorau, ac yn eu plith, y darlun o Salem, gan yr arlunydd Curnow Vosper.
Oddi yno fe'n harweiniwyd i Benbedw i gapel Seion, Laid Street, lle y cyflwynodd Dr. D. B. Rees ddarlith gynhwysfawr ar Gymry Penbedw a Wallasey.
Trefnwyd te yn yr Ysgoldy
gan Mrs Marged Jones, Mrs Morfudd Williams, Mrs Mair Rees Jones a Mrs Olwen Jones a phob un o'r criw wedi mwynhau'r pnawn.
Gadawyd i weld olion Eisteddfod 1917 ym mharc enwog Birkenhead cyn cyrraedd Gwesty'r Atlantic (ein cartref yn y ddinas) am 4.30.
Yna am 7 o'r gloch cawsom gwmni Dr Rees yn yr Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd a'n tywys i weld
Trysorau Cymry sydd yno - ffenestr liw i Dewi Sant a'i fam Non a chofeb i gofio Syr Robert Jones.
Paratowyd cinio blasus inni yn y Western Rooms a chawsom ein diddanu ar y delyn gan Dylan Cernyw o ddyffryn Conwy.
Roedd hi yn hanner awr wedi deg arnom yn ôl yn y gwesty braf wedi cae1 diwrnod cofiadwy.
Braf oedd cael cwmni Elfyn Thomas o Gwmni Seren Arian i frecwast ar fore Gwener a ninnau ar ein ffordd i'r Royal Medical Institute yn Mount Pleasant erbyn 9.15 am Sesiwn ar Lerpwl.
Yno cawsom fore cyfan, tri cyflwyniad o'r safon uchaf. Yn gyntaf, y Prchg. Dr D Ben Rees ar Lerpwl yn Grefyddol a Diwylliannol gyda chyfraniad y Cymry, hwn trwy'r 'power point'; yn ail Dr. Frank Carlisle, hanesydd lleol, ar deulu Esgob Francis James Chavasse (1900¬
1923), yn arbennig y ddau fab a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a hynny yn ddramatig a heb nodyn.
Dilynwyd y ddau hanesydd gan y llawfeddyg orthopaedig, Dr Robert Owen, Hen Golwyn ar Lerpwl a Gogledd Cymru, trwy sleidiau.
Daeth y stori yn fyw eto a gwelwyd ar y sgrin adeiladwyr fel Owen Elias, David Hughes a John Hughes, Môneivion.
Cawsom ginio blasus, ac yna taith o dan ofal Dr Rees i Pall Mall, Vauxhall, Aintree, Everton ac yn ôl i Abercromby, pryd y cymerodd drosodd gan Dr Frank Carlisle gan ein harwain i'r Amgueddfa Forwrol a chae1 cinio yn yr Adelphi a sgwrs ganddo am y llong Titanic a'i hanes trist.
Bore Sadwrn braf oedd cael ymuno yng Ngŵyl Pedrog yn Neuadd y Ddinas a
gwerthfawrogid yn fawr pob un o'r cyfraniadau.
O Neuadd y Ddinas cawsom ein tywys o amgy1ch yr Eglwys Gadeiriol Babyddol gan Dr Ben Rees, ac oddi yno yn y bws gyda'r gyrrwr o Benygroes, Dyfryn Nantlle, Ernest Green, yn ofalus ohonom ar y daith trwy Toxteth, St. Michael in the Hamlet, Aigburth, Garston (a gweld sgerbwd Ysbyty Newydd Syr Alfred Lewis Jones), i Allerton ac aros ym mynwent Toxteth i weld bedd teulu Hugh Owen Thomas, tad meddygaeth orthopaedig.
Yn y nos cawsom wefr Côr y Brythoniaid a bore Sul, yn yr un lleoliad capel hardd Bethel, oedfa eneiniedig.
Ar ôl yr oedfa cawsom
groeso tywysogaidd yn Ysbyty y Galon a'r Frest, Broadgreen.
Canwyd nifer o ganeuon, i'n diddori, gan Gôr Meibion Aughton (a braf oedd canfod tri o Gymry Cymraeg yn y côr) ac yna cawsom luniaeth wedi ei baratoi gan gyfeillion yr ysbyty a Thŷ Robert Owen (Robert Owen House).
Croesawyd ni gan Mr Fabri, arbenigwr ar y galon, a siaradwyd gan yr Athro Robert Owen, Elfyn Thomas a Dr. Ben Rees.
Cyflwynodd ef momento o Lerpwl i bob un o'r grŵp.
Soniodd Elfyn Thomas fod Cwmni Seren Arian yn trosglwyddo y swm o £750 i gefnogi Tŷ Robert Owen, lle mae teuluoedd yn cae1 aros tra y mae eu hanwyliaid yn derbyn triniaeth, yn arbennig y rhai a ddaw o Ogledd Cymru, Ynys Manaw a Cwmbria.
Ffarweliwyd a'n prif dywysydd ger maes parcio ei gapel Bethel, ers 1968 am 3.15 pnawn Sul, ar ôl taith fythgofiadwy a phleserus.
Bwriada Seren Arian ystyried pererindod eto yn y dyfodol.
Bleddyn lames