Cawsom noson arbennig iawn ar nos Sadwrn, Gorffennaf 19, 2008 pan ddaeth Côr Meibion Trelawnyd atom i Lerpwl fel rhan o Ddathliad '08 Dinas Diwylliant. Trefnwyd y cyngerdd gan Gymdeithas Edifeddiaeth Glannau Mersi mewn cydweithrediad â Phwyllgor Ymgynghorol Cyfrolau Bethel, Heathfield Road, Lerpwl. Roedd yn gyngerdd dwyieithog a braf oedd gweld ymateb mor wych, ac yn arbennig fod y tâl mynediad mor rhesymol. Pum punt y tocyn a diolchwn i ymddiriedolwyr capel Bethel am roddi yr adeilad ar gyfer y noson yn ôl ei harfer. Cyflwynwyd y Côr ar y cychwyn gan y Parchedig Athro D. Ben Rees a chafwyd cyflwyniad byr o flaen y canu gan Mr Ednyfed Williams o Dreffynnon. Yr Arweinydd dawnus oedd Geraint Roberts sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn fel arweinydd y Côr. Hwy a gipiodd y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Fflint a'r Cyffiniau yn Yr Wyddgrug yn Awst 2007. Cyfeilydd y noson oedd Mrs Ceinwen Roberts. Ffurfiwyd y Côr yn 1933 ac mae wedi datblygu i fod yn un o gorau mwyaf blaenllaw Cymru ac yn ennillwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol saith gwaith. Mae'r Côr wedi teithio yn Ewrop a'r Amerig. Clywsom emynau, hwiangerddi, caneuon a Sioeau Cerdd a darnau clasurol. Roedd y lleisiau coeth yn werth i'w clywed a hynny'n cynnwys yr unawdydd Mr Peter Thomas. Cawsom anerchiad gan y Llywydd, Mr John Leston, oedd yn cynrychioli siop T. J. Hughes yn London Road. Clywsom hanes y busnes o'r cychwyn, gan ddechrau hefo Ann, merch ifanc o Lanfihangel Genau'r Arth yn dod yma i'r ddinas yr holl ffordd o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac yn gwireddu ei breuddwyd am well byd. Roedd y noson hon yn arbennig iawn hefyd am ei bod yn noson lansio cyfrol ddiweddaraf y Parch Athro D. Ben Rees, sef 'Codi stêm a hwyl yn Lerpwl'. Mae'n gyfrol swmpus a hardd, yn olrhain hanes y capel ers y flwyddyn 1864 hyd at y presennol. Cyflwynwyd y llyfr a'r awdur yn ddiddorol iawn gan Mr Roderick Owen, dros y Pwyllgor Ymgynghorol a chyflwynodd ef y copi cyntaf i'r awdur. Cyflwynodd Dr Rees gopi o'r llyfr i Mr Siôn Morris ac i Geraint Roberts, Arweinydd y Côr. Trefnodd Mrs Beryl Williams a Dr Pat Williams (ar ran Cymdeithas Etifeddiaeth) a Mrs Nan Hughes Parry (ar ran Bethel) yn cael ei chynorthwyo gan nifer dda o chwiorydd, wledd i'r Côr a lleiswyd diolch gan fod yn fonws na cheir ran amlaf. Mewn pum mlynedd o gyngherddau dyma'r ail dro iddynt dderbyn ei gweddill a'i gwala gyda danteithion i'w cynnal ar y daith adref i Brestatyn, Caerwys, Bodfari, Hen Golwyn, Rhyl, Trelawnyd a llawer lle arall y deuai y cantorion ohonynt.
 |