Am ddau o'r gloch y prynhawn ar ddydd Sul Ionawr 20fed 2008 cynhaliwyd y gwasanaeth uchod yng Nghapel Bethel, Heathfield Road, Lerpwl, dan lywyddiaeth Dr Gwyn Rees Jones, Manceinion, sef Llywydd Henaduriaeth newydd y Gogledd-Ddwyrain.
Gwasanaeth ydoedd o werthfawrogiad, o gofio ac o ddiolch am weinidogaeth amhrisiadwy Y Parchedig Ddr. D Ben Rees am bump a deugain o flynyddoedd, a bron i ddeugain ohonynt yma yn Ninas Lerpwl.
Gallasai hwn fod wedi bod yn wasanaeth trist iawn i ni, aelodau Bethel a Bethania, ond roedd y fath wefr gorfoleddus yn perthyn iddo nad oedd yn bosibl bod yn drist.
Croesawyd pawb i'r gwasanaeth gan y Llywydd, yna cawsom Weddi'r Gynulleidfa, a honno'n gynulleidfa gref o bron i dri chant o wahanol rannau o Gymru (De a Gogledd), o Lundain, o Norwich, Harpenden, Cilgwri a bws o Fanceinion, unigolion o Ogledd Lloegr ac wrth gwrs o ddinas Lerpwl.
Yr organydd oedd Mr Arthur Edwards. Dewiswyd pump o emynau gan Dr Rees, ac maent yn werth eu henwi: Tydi sydd heddiw fel erioed... gan J Edward Williams; 0 na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw... gan Eleazar Roberts; Iesu, Iesu, rwyt ti'n ddigon... gan William Williams, Pantycelyn; Na foed cydweithwyr Duw... gan Elfed ac Os gwelir fi, bechadur... gan Harri Siôn, Dafydd Morris a Hannah Joshua i ddiweddu.
Darllenwyd yr emynau gwych hyn gan Mrs Nan Hughes Parry, Dr. John G Williams, Mr John P Lyons a Mr E.Goronwy Owen, blaenoriaid Bethel a Bethania sydd, ynghyd a Mr Humphrey Wyn Jones, wedi profi blynyddoedd o gyd-weithio ardderchog gyda'u Gweinidog.
Darllenwyd emyn hefyd gan Yr Athro Emeritws David Alan Price Evans a oedd yn aelod o Bwyllgor Bugeiliol Heathfield Road ym 1967-1968.
Roedd yn hyfryd cael y darlleniad cyntaf o'r Ysgrythur o Lyfr Deuteronomium gan Mr Dafydd Ll Rees a'r ail ddarlleniad o Efengyl Luc gan ei frawd, Mr Hefin E Rees. Mae'n siŵr i'r ddau deimlo balchder mawr yn eu rhieni yn ystod y gwasanaeth hwn, hefyd Dr Bethan Rees a'r ddau fab bach, Tomos a Joshua.
Darllenwyd penillion gan bobl ifanc y Dosbarth Derbyn presennol a chafwyd cân gan blant yr Ysgol Sul, ac un pennill yn cynnwys y geiriau Diolch, Mr Rees. Cyfeiliwyd iddynt gan Mrs Margaret Anwyl Williams.
Gan Mair Powell.