Mae Yang yn byw mewn tref o'r enw Bazhou, i'r de o Beijing. Wrth aros gyda theulu cynhenid cawsom gipolwg ar fywyd pob dydd pobl Tseina yn siopa, gwylio teledu a chymdeithasu. Aethom allan am fwyd sawl noson a chawsom ein hannog i flasu bwydydd arbennig megis Peking Duck (y gair Tseiniaidd am hyn yw "Kaoya" sydd yn swnio'n debyg i Cyw iâr). Gwnaethom brofi bwydydd anarferol, er enghraifft malwen a llyffant, ond i ddweud y gwir nid oeddem bob amser yn gwybod yn union beth oeddem ni'n ei fwyta. Un peth amlwg oedd eu bod yn bwyta llawer o gig ar yr asgwrn ac mi oedd y bwyd yn tueddu i fod yn gyfoethog iawn. Llawer o sylw yn Bazhou a Beijing
Cawsom lawer o sylw gan y brodorion oherwydd ein bod yn orllewinwyr gwyn. Yn Bazhou, lle nad yw pobl wedi arfer a gweld pobl ddieithr, roedd pawb yn syllu arnom yn gyson. Hyd yn oed yn y brif ddinas, Beijing, cawsom lawer o sylw, ond yn yr achos yma, gan ein bod yn efeilliaid neu "shuang bao tai". Buasech yn meddwl y buasem yn fwy anhysbys mewn lle enfawr fel Tiananmen Square, sydd yn gallu dal miliwn o bobl ac felly yn sgwâr mwya'r byd. Ond mi oeddem yn sefyll am oesoedd yn ymyl y fflag goch, a phobl eisiau tynnu lluniau efo ni, fel petaem yn enwog!
Nid yw'n bosib mynd i Tseina heb weld y Wal Fawr. Gwnaethom gerdded chydig o kilomedrau ar hyd rhan Bedaling o'r wal sydd yn y cyflwr gorau. Mae'n llawer mwy serth nag yr ymddengys, ac yn eitha peryglus mewn rhannau!
Wedi i ni fod yn y gogledd am dros wythnos, penderfynasom symud ymlaen i I dde-ddwyrain y wlad enfawr. Teithiasom ar drên am tua deuddeg awr mewn caban hardsleeper lle mae gwlâu wedi'u gosod mewn rhesi o dri ar ben ei gilydd gyda chwedeg person ymhob cerbyd. Er y disgrifiad hwn, mi oedd yn weddol gyfforddus, ond braidd yn chwithig teithio efo gymaint o bobl ddiethr.
Teithio Di-ddiwedd
Buom yn aros gyda theulu modryb Yang mewn tref o'r enw Zhenfiang a gweld hefyd Nanfing, cyn brifddinas Tseina. Cawsom drip i ynys ynghanol afon fawr Yangtze a gweld y fynachlog Bwdhiaidd. Treuliwyd diwrnod arall gyda bws yn llawn o diwristiaid yn dysgu eu crefft ac o dan hyfforddiant yn Yangzhou. Profiad gwahanol a gwerthfawr, cawsom gwmni bobl ifanc Tseiniaidd a'r un diddordebau a ninnau, miwsig, y we, teledu ac ati.
Cyrraedd Shanghai
Shanghai oedd y cam nesaf. Mae'r ddinas hon yn amlwg wedi cael mwy o ddylanwad gorllewinol o'i chymharu â Beijing. Dangosir hyn gan y crafwyr awyr ag anwau poblogaidd cyfarwydd. Ochr wrth ochr â hyn gwelir y rhan draddodiadol i'r ddinas gydag adeiladau addurniadol, siopau anrhegion a thai bwyd yn leinio'r strydoedd cul a syth. Yn y nos daw'r ddinas yn fyw gyda goleuadau, miwsig a chyffro'r torfeydd yn ychwanegu at y naws. Aethom i fyny'r Oriental Pearl Tower ac o 263m mae'n bosib gweld y ddinas anferth (y chweched fwyaf yn nhermau poblogaeth yn y byd) yn ymestyn hyd at y gorwel bell.
Gweld Hong Kong
Roeddem yn awyddus iawn i weld Hong Kong, y giât rhwng Tseina a'r byd gorllewinol. I gyrraedd yno roedd yn rhaid cymryd taith trên oedd yn para am 27 awr! Mae'n swnio fel amser hir ond pan mae 'na gymaint o olygfeydd deniadol a thirlun newidiol, mae amser yn mynd yn o gyflym. Erbyn hyn mi oeddem ni ar ben ein hunain yn llwyr a Yang wedi mynd nôl adre ar ôl Shanghai. Roedd pobl ar y trên yn ceisio cyfathrebu gyda ni, ond nid oeddem yn deall y symbolau yr oeddynt yn
eu hysgrifennu. Llwyddodd Angharad i ddweud wrthym nhw ein bod yn dod o Gymru - "Wel er sei" a'n bod yn efeilliaid "shuang boa tai".
Er mawr syndod, roedd 'na dipyn o bobl wedi clywed am Gymru fach, er eu bod yn cyfeirio ati fel y wlad drws nesa i Loegr. Ac roedd un person yn credu mai tafodiaith o'r iaith Saesneg oedd Cymraeg a ninnau'n gorfod esbonio mai iaith hollol wahanol oedd hi! Cyrhaeddom Hong Kong ddiwrnod yn gynnar felly roedd yn rhaid i ninnau aros mewn gwesty yn Kowloon am un noson. Lleolir hwn yn yr ardal sydd gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf y byd. Roeddem ni o hyd wedi dychmygu Hong Kong fel un ddinas anferth, ond mewn gwirionedd mae dros hanner ohono'n dir gwledig gan gynnwys dros 200 o ynysoedd bach.
Yr olygfa orau yw o gopa Victoria Peak. Mae modd cyrraedd yno ar y rheilffordd funicular sydd yn 27 gradd o lethder mewn mannau. Trafeiliem ar fferi bob dydd i Hong Kong Island, ar hyd yr harbwr mwyaf prysur yn y byd. Gwelir dylanwad Prydain yn amlwg yna, gydag enwau ffyrdd megis `Carnarvon Road' a'r ceir yn gyrru ar yr un ochr i'r ffordd â ni. Gan fod lle yn gyfyng yno, ceir elevated walkways i'r pedestrians gerdded arnynt, yn yr ardal busnes. Yn sicr yn Hong Kong gyda chymaint o bobl wynion, mi oeddem yn diflannu yn y torfeydd.
Er yn ddrutach na gweddill Tsiena mae'n dal yn gymharol rhad er enghraifft gwnaethom wario £15 ar drafnidiaeth gyhoeddus (tacsi, fferi, metro, bws) am 5 diwrnod ac mae cryno ddisgiau newydd yn 99 HK$ sef £7. Mae'r maes awyr wedi ei adeiladu ar dir sydd wedi ei ad-ennill o'r môr. Y terminal yw'r un mwyaf yn y byd, a chredwch chi ni, mae'n mynd mlaen a mlaen ac mae giât 86 yn o bell o'r duty free!
Pan oeddem yn hedfan nôl, gwelsom lawer o lefydd trwy ffenestr yr awyren er enghraifft anialwch y Gobi, copaon mynyddoedd Himalaya, Siberia a gwastadeddau'r Steppes, yn amlwg uwchben y cymylau. Nid oeddem wedi meddwl pan wahoddasom Yang atom i Bontllogel dros y Dolig dair blynedd yn ôl y byddem yn teithio i'r wlad fwyaf yn y byd o ran maint a phoblogaeth.
Roedd yn brofiad bythgof¬iadwy cael bod mewn gwlad sydd wedi cyfrannu llawer i esblygiad gwareiddiad fel yr ydym ni yn gyfarwydd â hi heddiw. Gwlad, erbyn hyn, sydd yn ymfalchïo yn ei hetifeddiaeth ond hefyd yn darparu ar gyfer anghenion yr unfed ganrif ar hugain a byddwn yn siwr o glywed ychwaneg yn y bynyddoedd nesaf am Tseina.
(Gair y golygydd: Cynnyrch Ysgol Sul a Goran Capel Bethel, Heathfield Road ydyw Angharad ac Annwen Richards, Llwydiarth, Maldwyn, merched Eirlys a Gwyndaf Richards (Wavertree gynt) a chwiorydd Alwyn, teulu annwyl a gweithgar yn ein plith. Diolch Mrs Mona Bowen am gael caniatad i addasu yr erthygl hon a ymddangosodd yn y papur bro Plu'r Gweunydd, Tachwedd 2005.)