Hir fu y disgwyl gan aelodau'r Côr i deithio i'r Amerig i ganu ynghyd â Chôr Pro Arte yn New Jersey. Rhyw newid pulpud fel petae gyda'r côr a ddaeth i Lerpwl llynedd ac a ganodd yn Eglwys Mossley Hill gyda'r Undeb Gorawl Gymraeg. Os hir fu'r disgwyl, hir hefyd fu y paratoi gyda Linda Iley yn gwneud y trefniadau ar ein cyfer yn drwyadl i'r lythyren olaf gyda channoedd o e-bostiau wedi croesi Môr yr Iwerydd. Y gerddoriaeth dewisiedig oedd y Requiem gan Verdi, a brws fu'r ymarfer i berffeithrwydd dan law medrus a dawnus ein harweinydd Keith Orrel.
Rhyw griw o ddeugain, naw o Gymry Gymraeg ynghyd â rhyw ugain o wyr a gwragedd yn hedfan o Fanceinion ar y dydd Sul 24ain Fai am Newark, New Jersey, a cael ein cludo oddi yno gyda bws i'r Skyline Hotel yn Efrog Newydd. Pawb yn rhydd am ddau diwrnod i wneud beth a fynnent i fwynhau golygfeydd yr 'Afal Fawr', ac wrth gwrs gweld sioe gerdd yn Broadway.
Yna ar y dydd Mercher, newid mangre a symud i Paramus, New Jersey, i gyfarfod ein gwesteiwyr, sef aelodau Côr Pro Arte, ond yn gyntaf galw i mewn i Eglwys Gadeiriol y ddinas a chael y fraint o ganu eitemau yn Gymraeg yno i'r ymwelwyr a oedd yn bresennol. Cyrraedd Paramus a chael te croeso bendigedig gan aelodau Pro Arte. Hwythau wedi sicrhau cael Cymro Cymraeg i'n cyfarch yn swyddogol, sef gwr adnabyddus Mr Philip Davies a'i wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin. Cyflwynodd anerchiad a wnaeth i bob Cymro a oedd yn bresennol chwyddo gyda balchder. Diolch iddo, fe fydd ei gyflwyniad yn fyth gofiadwy.
Wedi setlo i mewn yn y Crowne Plaza buan fu rhaid teithio rhyw dri chwarter awr i gael ein ymarfer cyntaf gyda'r côr a'r gerddorfa mewn Capel hardd yn Westfield ble y byddem yn canu mewn cyngerdd nos Sadwrn.
Ar y dydd Iau cael taith wedi ei threfnu i Morristown National Park ble y cawsom weled pencadlys George Washington yn y Rhyfel am Annibyniaeth oddi wrth Lloegr, agoriad llygad oedd darganfod pa gyfleusterau oedd gan yr hen arweinydd a ddaeth i fod yn Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau. Rihyrsal arall yn yr hwyr ond y tro hwn mewn capel newydd yn Ridgewood ble byddem yn canu nos Wener. Adeilad modren hardd dros ben, wedi ei adeiladu o'r newydd ar ôl difrod tân, gyda pob cyfleusterau modern oddi mewn iddo. Cyn yr ymarfer cawsom 'Pot Luck dinner' a hwyl cymdeithasol, y cyfan wedi ei drefnu gan ein gwesteion.
Dydd Gwener cael diwrnod rhydd, yna wedi'r cyngerdd cael swper a chymdeithasu a chanu anffurfiol yn Bensi's gyda pawb yn bresennol. Y swper olaf yng nghwmni ein gilydd fel petae a chafwyd sawl gair o ddiolch a gwerthfawrogiad o'r ddolen gyswllt a wnaed rhwng y ddau gôr.
Bore dydd Sadwrn cael taith wedi ei threfnu i fyny Dyffryn yr Hudson ac i Kykuit, cartref yr hynaws John D. Rockefeller. Plasdy o adeilad hyfryd dros ben a fu yn gartref i bedwar cenhedlaeth o deulu'r Rockefellers.
Cafwyd dau gyngerdd byth gofiadwy dan arweiniad rhyfeddol a teimladwy David Wroe, gwr o Gaer Lyr a roddodd wefr arbennig i'r Côr a'r gerddorfa.
Gadawodd ein taith lawer argraff ar bob un ohonom, ond un sylw arbennig a wnaed gan ein harweinydd Keith Orrel oedd bod crefydd yn amlwg yn rhan o frethyn cymdeithas yn y rhan yna o'r dalaeth, a gwir oedd hyn.
Mae'r côr yn ymledu eu adenydd. Yr Almean, Iwerddon, yr Alban a dyna ni wedi cael antur bythgofiadwy yn yr Unol Daleithiau...ble nesaf tybed?