| Trefnwyd y noson gan Gymdeithas Lenyddol Eglwys Bethel, Heathfield Road, Lerpwl a phenderfynodd y Gymdeithas Gymraeg gefnogi y noson. Cafwyd tair rhan i'r noson (7.30 i 9.00 o'r gloch) y bwyd. Roedd y safon yn uchel a phawb yn mwynhau. Yn yr ail ran cafwyd cyfraniadau cerddorol gan Ffion Medi Lewis o Ystrad Aeron, Ceredigion sy'n cael ei hyfforddi yn Lipra, Lerpwl. Llywyddwyd y noson gan y Parchedig Ddr. D. Ben Rees yn ei ffordd unigryw ei hunan. Ef a lwyddodd i gael ein Gŵr Gwadd a'i gyflwyno fel un o Sêr y Cyfryngau. Cawsom anerchiad gwych gan Huw Edwards yn pwysleisio cyfraniad Dewi i Sant, y cyfle i dderbyn y teledu, a gair
personol am ei achau. Diddorol o'r dechrau i'r diwedd. Wrth ddiolch soniodd Dr. D. Ben Rees am y rhai a ddaeth o Gymru, o wahanol rannau o Loegr, ac o'r Glannau. Teulu y diweddar Mrs Margaret Morris, Aigburth (Trysorydd y Gymdeithas hyd 2005) ac un a soniodd droeon am ddyfodiad Huw Edwards atom. Braf oedd gweld Huw Edwards yn sgwrsio yn y toriad o 10
munud ac yn cyfarch y rhai a ddaeth i'r cinio. Mae'n arferol canu Hen Wlad fy Nhadau i gloi y
Cinio. Awgrymodd Dr. D. B. Rees wrth Huw Edwards gan ei fod yn chwarae'r organ ei gapel, sef Capel y Presbyteriaid Cymraeg,
Clapham Junction, Lavender Hill, London SW11, a fyddai'n barod i chwarae i ni. Ar amrantiad neidiodd i'r adwy a chanwyd yr Anthem gydag arddeliad. Ni welwyd erioed o'r blaen bobl yn ciwio i gael llofnod y siaradwr a dyma a welwyd am gryn chwarter awr ar derfyn y noson. John G. Williams
 |