Ni chlywodd unrhyw ddinas yn y byd i gyd fwy o Gymraeg ar eu strydoedd na chlywodd dinas Lerpwl yn yr oes aur o 1850 hyd 1902. Dyma'r cyfnod y dylifodd yno y Cymry i bob galwedigaeth bosibl, meddygaeth, addysg, adeiladu, y gyfraith, byd masnach, a busnes hwylio yn y llongau, gweini yng nghartrefi'r cyfoethogion a gweithio ar y dociau a'r warws ac ati.
Pobl cefn gwlad oedd y mwyafrif mawr ohonynt o siroedd gogledd Cymru, ac mewn cyfnod byr fe gyfoethogodd llu ohonynt ym mhob ystyr. Daeth am y tro cyntaf erioed ddosbarth canol Cymraeg i fodolaeth, ac yn y cartrefi hyn y magwyd llu o bobl a ddaeth i gyfoethogi bywyd Cymru.
Dyma gefndir y bardd a'r dramodydd, John Saunders Lewis yn Seacombe a Wallasey, y bardd a'r ysgolhaig John Glyn Davies a'i frawd carismatig o heddychwr George M Ll Davies a anwyd yn ardal Toxteth, y ferch ddawnus o Lerpwl, Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips), gwraig Syr Ifan ap Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, a llu o rai tebyg o ran cefndir ac ymroddiad. Bu pob un ohonynt mor arbennig yn hanes ein gorffennol.
Crisialodd John Glyn Davies y cefndir hwn yn un o'i gerddi, ac yn arbennig yn y pennill hwn:
Eneidiau anwyl, esmwyth oedd eich byd,
merch a cherbydau'n sgleinio yn yr heulwen,
heb brinder cyfoeth, pawb a'i gartref clyd,
a balchder byd oedd rhyngoch a'r ddaearen.
Sylwch ar ei ddisgrifiad o'r Cymry a adnabu J Glyn Davies yn Lerpwl ac Eglwys Gadeiriol y Cymry yn Princes Road rhwng 1890 a 1910, 'esmwyth oedd eich byd', a 'heb brinder cyfoeth'. Hwy oedd yn gyfrifol am gymaint o ymdrechion arwrol, fel:
1) cefnogi adeiladu canolfannau i'r Cymry trwy ddinas Lerpwl ac yn y pentrefi glofaol a'r trefi prysur diwydiannol ar gyrion y ddinas fel Ashton-in-Makerfield, Earlstown, St Helens, St Helens Junction, Huyton Quarry, Prescot, Widness, Runcorn, Heswall, West Kirby, Waterloo, a Southport
2) cynnal diwylliant Cymraeg byrlymus a fynegodd ei hun mewn eisteddfodau, corau a chyngherddau o bob math. Ceid Eisteddfod lewyrchus rhwng y ddwy ryfel byd yn Rock Ferry a Widness a deil y sôn am Eisteddfod y Glomen Wen ym Mhenbedw ac Eisteddfod y Plant yn Bootle.
Nid rhyfedd o gwbl i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Glannau Mersi bum gwaith, yn 1878 a 1884, 1900, 1917 (Eisteddfod y Gadair Ddu) a 1929. Daeth Lerpwl yn gyfystyr ag eisteddfodwyr pybyr fel Peter William (Pedr Hir) a J O Williams (Pedrog) ac yn ddiweddarach meddyg y galon, Dr Emyr Wyn Jones a fu yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd y Beirdd. Deuai'r beirdd fel Cynan yn eu tro am ymgynghoriad ato yn Lerpwl pan oedd y Cyfarwyddwr Astudiaethau'r Galon ym Mhrifysgol Lerpwl. O 1973 i 1976 ef oedd Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac ef oedd Llywydd Llys yr Eisteddfod o 1983 i 1986.
Lerpwl a'r ddrama Gymraeg
Bu Lerpwl yn bwysig yn hanes y ddrama Gymraeg, wedi'r cyfan un o blant y Glannau ydyw prif ddramodydd y Gymraeg, Saunders Lewis ac yn ei gyfnod ef ar y Glannau ceid deugain a mwy o gwmnïau drama amatur Cymraeg yn cyfarfod ar hyd y flwyddyn ac yn perfformio i gynulleidfaoedd niferus.
Un o wŷr amlwg yr agwedd hon ar ein diwylliant oedd John J. Williams (1884-1950), Penbedw. Astudiodd ef bob agwedd ar dechneg y theatr, a chafodd Cymry'r Glannau ei arweiniad pan ddaeth yn 1930 yn arolygydd ysgolion Penbedw. Yr oedd yn sosialydd Cristionogol Cymreig, a bu'r Glannau yn ffodus ohonynt hwy hefyd dros y blynyddoedd heb anghofio gwŷr amlwg yr holl bleidiau. Ar y Glannau y dymunodd y Ceidwadwr rhadlon, Geraint Morgan dreulio'i ddyddiau.
3) hybu cyhoeddi yn Gymraeg, yn newyddiaduron, cylchgronau a Yr Angor sy'n bodoli ers 1979 yw'r enghraifft gyfoes. Ond nid yw yn yr un byd â'r newyddiadur wythnosol fel Cymro Isaac Foulkes ac yna o 1906 hyd 1939 Y Brython (gweledigaeth Hugh Evans, awdur y clasur Cwm Eithin a gafodd olygyddiaeth nodedig gan J H (J Aitsh) Jones a Gwilym R Jones, un yn llenor unigryw a'r llall yn gynganeddwr medrus.
Cymry Manceinion
Y mae'r ardal y gwasanaetha papur bro Yr Angor wedi ehangu ers 1996 pan ddaeth Cymry Manceinion a'r cylch yn rhan o'r dalgylch. Bu eiddigedd cyson ym myd masnach rhwng y ddwy ganolfan ond llwyddodd Yr Angor i uno Cymry alltud y ddwy ddinas fel yn hanes Glannau Mersi. Y mae gan Gymry Manceinion a'r dinasoedd cyfagos eu hetifeddiaeth a'u hanes.
Heddiw y mae canolfannau Cymry Manceinion wedi eu canoli ar bedair cymuned, sef Moxton a Salford, Didsbury a Cheadle Hulme, Altrincham a Warrington, ac fe ddaw'r Cymry at ei gilydd yn y gaeaf i ganol dinas Manceinion i'r Gymdeithas Gymraeg i gyngherddau, a deil yr eisteddfod a'r ddrama i gael cefnogaeth yn Didsbury.
Y mae'r ddwy ardal fel y'i gilydd yn llwyddo i drosglwyddo i'r to sy'n codi ymwybyddiaeth bendant o beth yw bod yn aelod o genedl y Cymry. Clywir plant a ieuenctid yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith mewn cyfarfodydd amrywiol. Gwneir ymdrech i'w cefnogi i dreulio cyfnod byr yn y bröydd Cymraeg a'u cael ynghyd i gyfarfodydd Gŵyl Ddewi.
Gwneir llawer iawn o'r Ŵyl honno ar hyd y cenedlaethau. Ceir Cinio Gŵyl Ddewi ym Manceinion a Phenbedw ac yn ninas Lerpwl fe gynhaliwyd pump o giniawau yn y flwyddyn 2005. Caed dau o'r ciniawau ysblennydd yma yng ngwesty'r Adelphi yng nghanol y ddinas, un yng ngwesty'r Marlborough yn ardal Waterloo, gogledd y ddinas, ac un arall yng ngwesty'r Marina ar lan yr afon Merswy. Caiff pedwar o'r pump cyfarfod gŵr neu wraig wadd, rhan amlwg o Gymry fel eleni clywsom Dei Tomos o'r BBC a Dafydd Wigley cyn aelod Seneddol Arfon yn ein hysbrydoli.
Y mae cryn fynd a dod o hyd o blith y Cymry i'r ardal, sef i Lerpwl a Manceinion a'r cyffiniau, yn arbennig i'r ysbytai i'r carchardai ac i'r prifysgolion a'r colegau. Dyna pam y bu'n ofynnol sefydlu Caplaniaeth Cymry Glannau Mersi yn 1984 i ofalu ar ôl y rhai a ddaw dros dro i'r sefydliadau a nodwyd.
Y mae pêl-droed yn dal bob Sadwrn i ddenu Cymry i'r dinasoedd hyn, i weld naill ai Tranmere ym Mhenbedw neu Lerpwl a Everton drws nesaf i'w gilydd yn ardal Anfield, neu deithio i wylio Manceinion Unedig neu'r Ddinas, Manchester United yn atynfa fawr.
Ni ddylid anghofio'r Amgueddfeydd, canolfannau siopau fel yr enwog Traford ym Manceinion a Cheshire Oaks ger Ellesmere Port (tref arall lle bu'r Cymry'n amlwg), y clybiau a'r theatrau a Neuadd y Ffilharmonig lle y bydd Undeb Gorawl Cymry-Lerpwl yn cynnal rhai o'u cyngherddau uchelgeisiol.
Ar ddechrau Mehefin 2005 y dychwelodd y côr o daith i'r Almaen. Cofiwn hefyd am rasys ceffylau nodedig ar gae Aintree bob gwanwyn yng ngogledd ddwyrain y ddinas. Er bod niferoedd y Cymry yn nhalgylch yr Angor wedi lleihau yn ddirfawr ers yr oes aur, y mae'r rhai sydd yn dal i fyw yma yn cymryd eu cefndir a'u diwylliant o ddifrif ac eisoes yn paratoi rhaglen wych o Wythnos y Cymry ar gyfer 2008 pan fydd Lerpwl yn Ganolfan Diwylliant Ewrop i gyd. Dewch yno i fwynhau'r wledd (1 Mawrth - 8 Mawrth, 2008).
D.Ben Rees