Parchedig William Nicholson
Un o Gaergybi oedd William Nicholson ac yno y ganwyd ef ym mis Ebrill 1844. Bu'n weinidog yn Rhoslan a Llanystumdwy gyda'r Annibynwyr cyn symud i ardal Bethesda Arfon ac oddi yno i gylch Caerffili. Derbyniodd alwad yn niwedd 1876 i olynu Gwilym Hiraethog yng nghapel Grove Street, Lerpwl. Ac am y naw mlynedd nesaf bu'n gweinidogaethu yn y capel hwnnw, yn weithgar fel llenor, bardd, darlithydd ac yn arbennig fel pregethwr poblogaidd. Yn 1881 cychwynnodd gyhoeddiad misol o'r enw Y Cennad Hedd, a sgrifennodd rhannau helaeth ohono. Bu bron ag ennill ar y cywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884. Ymddiddorai mewn gwleidyddiaeth a bu'n siarad yn gyson ar lwyfannau'r Blaid Ryddfrydol.
Nid oedd yn gryf ei iechyd a rhoddodd yr eglwys gyfle iddo deithio am adferiad iechyd i Awstralia yn niwedd 1883. Bu i ffwrdd am ddeg mis ond ni chryfhaodd ryw lawer er iddo ddal ati gyda'i orchwylion hyd y diwedd. Bu farw 20 Gorffennaf 1885 yn 41 mlwydd oed a gosodwyd ef i orwedd ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl.
Y mae ei garreg fedd yn gyrchfan pererinion o Gymru pob haf gan ei bod yn sefyll yn agos iawn i fedd ei ragflaenydd y Parchedig William Rees (Gwilym Hiraethog).
D. Ben Rees