| Gweinyddes a bydwraig yng Nghaer oedd
Gwenfron a bu'n sôn am rai profiadau a
gafodd yn ei gwaith. Mae bywyd yn rhodd werthfawr ac amhrisiadwy . Daeth Gwenfron i Lerpwl i astudio Geneteg ym Mhrifysgol John Moores a rhan o'i gwaith wedyn oedd cynghori a chysuro pobl oedd wedi colli plentyn cyn ei eni. Rhaid ymladd dros bob bywyd ac mae bob bywyd yn gysygredig ac yn rhodd gan Dduw.
Cafwyd noson ddiddorol a gwahanol - noson yn llawn o gwestiynau moesol. Bu trafod brwd dros baned o de a gallem fod wedi cario ymlaen i drafod am amser hir.
Y nos Fawrth ddilynol cawsom noson yng nghwmni Geraint Lloyd Owen yn sôn am y "Y busnes barddoni 'ma." Wrth ei gyflwyno darllenodd Roderick ('roedd y ddau yn yr ysgol gyda'i gilydd yn Y Bala) beth o'i waith o gylchgrawn yr ysgol o'r flwyddyn 1959! Dywedodd Geraint nad yw barddoniaeth yn rhywbeth sych - dylai fod yn bleserus a difyr i'w ddarllen.
Mae barddoniaeth yn cyfleu rhywbeth gwahanol i bob person. Dychymyg sydd yn gwneud bardd a cheisiodd ein perswadio fod pawb yn cael ei eni yn fardd. Mae bob blentyn yn fardd am fod ganddo ddychymyg ond rhywsut yr ydym yn colli y dychymyg yma.. Cafwyd enghreifftiau o waith rhai o'r plant yr oedd ef wedi eu dysgu pan oedd yn athro.
Cafodd ei ysbrydoli gan Llwyd o'r Bryn pan yn blentyn yn Y Sarnau. Gorffennodd y noson trwy gyffelybu bardd i fynydd tan Mynydd tan marw - rhywun sydd yn meddwl ei fod yn medru barddoni.
Mynydd tân byw - bardd o safon gyda'i waith i'w weld a'r silffoedd y siopau llyfrau.
Mynydd tân sydd yn cysgu ac sydd wedyn yn ffrwydro'n sydyn - bardd sy'n ail ddarganfod ei ddychymyg.
Yr wythnos wedyn cafwyd noson yng nghwmni yr Archdderwydd Selwyn Griffith yn sôn am gymeriadau byd llên.
Noson ddiddorol ac amrywiol. Clywsom am ddywediadau a diniweidrwydd rhai o'r plant y bu ef yn eu dysgu. Hefyd dywediadau rhai o fyd pêl-droed fel Shankly a Brian Clough ac enwogion eraill fel Churchill a Bessie Braddock.
Awr o amser a ddiflannodd yn rhy sydyn. I orffen y mis cawsom noson goffi yng nghartref Nan yn Woolton. Noson braf a chyfle i sgwrsio gyda'n gilydd. Diolch i Nan am y danteithion yr oedd wedi eu
paratoi ar ein cyfer.
Cyfarchion Y Nadolig i bawb a Blwyddyn Newydd Dda.
 |