Cafodd plant o Ysgol y Castell, Caerffili, hwyl a sbri pan ddaeth y syrcas i'w hysgol, gyda diolch i gefnogaeth cwmni Utility & Environmental Solutions (UES) o Hengoed a Chelfyddydau a Busnes Cymru, wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithdy sgiliau syrcas gyda chwmni syrcas enwog Cymreig NoFit State. Ar ôl y gweithdy, perfformiodd y plant eu sgiliau newydd mewn sioe arbennig yng Nglanfa Canolfan Mileniwm Cymru, yn cynnwys jyglo, troelli platiau a symudiadau acrobataidd, cyn noswaith agoriadol y sioe fyd enwog Circus Oz. Derbyniodd y plant wahoddiad i weld sioe Circus Oz ar ôl eu perfformiad. Dewiswyd yr ysgol gan ymgynghorwyr rheoli gwasanaethau UES i fod yn rhan o'r prosiect estyn gyda'r Ganolfan. Wrth sylwebu ar y prosiect, dywed Andrew Diplock, Rheolwr Gyfarwyddw UES: "Rydym yn falch iawn i gefnogi'r prosiect gwych hwn, sydd yn rhoi cyfle i blant yn ein cymuned weld sioe safon fyd eang yn theatr eiconig Canolfan Mileniwm Cymru gyda llawer o'r plant yn mynychu am y tro cyntaf, yn ogystal â rhoi cyfle ecsgliwsif iddyn nhw berfformio ynddi. "Roedd yn wych hefyd i weld ein staff yn cymryd rhan yn y gweithdai, ac rwy'n pryderu braidd ar ôl gweld mor hawdd dysgwyd y triciau, eu bod nawr yn ystyried gyrfaoedd newydd fel perfformwyr syrcas!" Mae UES yn noddi Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn dilyn eu hadolygiad ailstrwythuro tariff egni'r Ganolfan yn ddiweddar, Ilwyddwyd i leihau 15% o ddefnydd egni'r Ganolfan, sydd yn lleihau gradd y carbon sy'n gwenwyno'r amgylchedd.
 |