| Faint o'n darllenwyr oedd yn gwybod bod yna gofeb i danchwa Senghennydd (1901 a 1913) ym mynwent Penyrheol? Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod mwy o gyrff bechgyn a dynion a laddwyd yn y trychinebau hyn wedi'u claddu ym Mhenyrheol ac Eglwys Llan nag unryw le arall. Eleni, gwelodd Cyngor Cymuned Penyrheol, Trecennydd ac Ene'rglyn yn dda i gofio hyn gan gynnal gwasanaeth cofio wrth y gofeb. Roedd yno dorf anrhydeddus gan gynnwys plant o Ysgol Cwm Ifor ynghyd â'u Prifathro Mr Steve Jenkins, a nifer dda o bobl leol a ffigyrau cyhoeddus. Roedd cydnabod y gofeb yn bwysig nid yn unig am fod cymaint o'r rhai a laddwyd wedi'u claddu yno ond, hefyd, oherwydd cysylltiadau Penyrheol â'r diwydiant glo yn gyffredinol a chyda Chwm yr Aber yn fwyaf arbennig. Mae nifer dda o gyn lowyr yn byw ar Benyrheol, Thomasville ac ardaloedd cyfagos. Hefyd, ystyrid ystâd Tŷ Isaf yn gyrchfan i bobl o Gwm yr Aber. Pan godwyd yr ystâd yno ddiwedd chwedegau'r ganrif o'r blaen roedd yn darparu tai o fath nad oedd lawer o honynt ar gael yn y cwm. Bu Tŷ Isaf felly yn le i bobl ymddeol i fyngalos cyfleus ag ati. Mae pobl y cwm wedi cofio'r trychinebau ar hyd y blynyddoedd. Eleni eto daeth ysgolion y Cwm a nifer o bobl leol at y gofeb yn ymyl Ysgol Nant y Parc i dalu eu teyrnged. Ac yn dilyn y cofio hwnnw y cynhaliwyd yr ail wasanaeth ym mynwent Penyrheol. Diwrnod y Cofio yw'r 14eg o Hydref pob blwyddyn. Oherwydd, ar y dyddiad hwnnw yn 1913 y collodd 429 o fechgyn a dynion eu bywydau yn y trychineb diwydiannol gwaethaf yn hanes Prydain Fawr. Yn ystod yr un achlysur mae'n bwysig cofio i bedwar ugain o ddynion golli eu bywydau yn yr Universal yn 1901. Y drasiedi fawr, wrth gwrs, yw na weithredwyd argymhellion diogelwch yn dilyn y danchwa honno. Petai hyn wedi'i wneud mae'n bosib na fyddai'r ail gyflafan wedi digwydd o gwbwl.
 |