Croeso adref Gruffydd. Beth ysgogodd ti i fynd mor bell ar dy ben dy hun?
Diolch yn fawr! Wel, wedi i mi gymryd y flwyddyn bant cyn mynd i'r Brifysgol, roeddwn yn ysu am weld y byd! Yn y diwedd ar ôl ceisio perswadio rhai o'm ffrindie i ddod, roedd gen i ddewis: Aros gartref a gwastraffu cyfle gwych trwy weithio llawn amser neu fynd amdani ar ben fy hun i Seland Newydd, Awstralia a Fiji! Dewis digon rhwydd! Sut est ti ati i drefnu'r daith a pa fath o lefydd roeddet yn aros ynddynt?
Roedd y cynllunio yn weddol gymhleth, roedd rhaid i mi ystyried sawl peth megis trafnidiaeth ym mhob gwlad, yswiriant a'r budget dyddiol! Cefais help STA Travel i gynllunio'r trip fel mod i'n gallu aros gyda theulu ar adegau ac aros mewn hostelau ieuenctid a phebyll ar adegau eraill. Roedd yn gydbwysedd da ac yn handi iawn cael teulu allan yno, yn enwedig pan roedd angen golchi dillad!
Mae Seland Newydd yn wlad hardd, pa olygfeydd wnaeth yr argraff fwyaf arnat?
Yn sicr meddyliais ar adegau fy mod i adre yng Nghymru tra yn Seland Newydd, felly roedd pob dim yn hardd. Mae'n wir i ddweud bod Seland Newydd fel Cymru ar Steroids! Roedd mynyddoedd, ei llynnoedd a'i chwaraewyr rygbi'n fwy! Ond i mi, roedd gweld y dolphins yn Milford Sound yn y De yn brofiad anghredadwy.
Beth oedd dy uchafbwynt yn Awstralia?
Wel ar wahân i gwrdd â rhai o gymeriadau Neighbours ym Melbourne (!), yn sicr roedd y Rhanbarth Ogleddol yn lle hynod i mi. Roedd gweld bywyd a ffordd o fyw yr Aboriginies yn beth gwbl unigryw. Er bod llawer o sylw negatif yn cael ei rhoi i'r grŵp o bobl hyn, mae eu hanes, eu diwylliant a'r ffaith eu bod nhw wedi goroesi miloedd o flynyddoedd mewn gwlad mor ddigroeso ar ran hinsawdd a thirwedd, yn gwbl anhygoel.
Pa brofiadau sy'n aros gliriaf gyda thi?
Roedd gweld toriad gwawr yn Ayres Rock yng nghanol Awstralia yn rhywbeth ni fyddaf byth yn anghofio. Rhyfedd mai dim ond 15% o dwristiaid sy'n ymweld â'r 'Natural Wonder of the World' hyn!
Faint o filltiroedd oedd y daith allan ac adref, a faint o filltiroedd a deithiaist tra allan yno?
Wel yn gyfan gwbl, teithiais tua 32, 000 o filltiroedd! Ac o ystyried bod y mwyafrif o'r teithio ar dir wedi ei wneud yn Awstralia, ar fws mewn amodau tua 30 gradd, roedd yn antur i ddweud y lleia'!
Oedd gan unrhyw un syniadau annisgwyl am Gymru?
Roedd llawer o bobl Ewropeaidd wedi clywed am Gymru, ond nid oeddent yn deall y sefyllfa yma ynglŷn â'r 4 gwead o fewn Prydain Fawr. Roeddent hwy a phobl Japan yn edmygu Ryan Giggs, ac felly roedd hynny'n beth cyffredin. Roedd yn eitha diddorol gyda'r Saeson ar y llaw arall, doedden nhw ddim yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg! Yn nodweddiadol, roedd y mwyafrif o'r Saeson yn gofyn i fi adrodd Llanfairpwll, dynwared Dafydd o Little Britain, a gofyn os o'n i'n ffrindie â Charlottle Church. Felly tynnais ei coesau yn ôl wrth ddweud fy mod i erioed 'di clywed am Wayne Rooney ac yn honni ei bod nhw 'di ennill Cwpan y Byd Rygbi o achos Jonny Wilkinson yn unig! Eitha gwir chi'n credu?
Oeddet ti'n teimlo'n unig o gwbl, neu a wnest ti ffrindiau newydd ar hyd y ffordd?
Heb os, y ffordd orau o deithio yw mynd ar ben eich hun. Mae gennych gymaint o ryddid i wneud unrhyw beth yr hoffech ac mae'n dda ar gyfer dysgu sgiliau annibynnol. Er fy mod i wedi gadael Cymru ar ben fy hun, nid o'n i ar ben fy hun o gwbl yn ystod y pedwar mis, gan eich bod yn cwrdd â phobl bob man. O achos hynny, dwi 'di gwneud llawer o ffrindie a chysylltiadau ledled sydd yn wych ar gyfer y dyfodol.
Mae'n siŵr y byddet ti am annog eraill i fentro pe byddai cyfle yn codi - ond pa gynghorion fyddet ti am gynnig iddynt?
Yn sicr! Mae wedi bod yn brofiad gorau mywyd cyn belled, un bythgofiadwy, llawn atgofion. Y peth anoddaf yn fy marn i yw mynd amdani. Cymerwch y cam cyntaf i drefnu ble a phryd ac ewch i STA Travel i brynu eich tocyn!