Dros y gwyliau hanner tymor roedd tîm bl.10 a chweched pêl rwyd yn lwcus iawn i gael y cyfle i gynrychioli Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar daith pêl rwyd i Farbados. Cyn i ni allu gwneud hyn o gwbl roedd yna flwyddyn o waith caled o'n blaenau. Roedd hyn yn ymwneud â chodi arian at y daith. Er mwyn i ni allu codi digon o arian ar gyfer ein taith fe wnaethon nifer o bethau cyffrous. Roedd y rhain yn cynnwys; pacio bagiau ar ddyddiau Sadwrn, tocynnau raffl, noson golur i fenywod a dyfalu'r sgôr. Y daith Cychwynnodd y daith ar ôl y gwaith caled ar fore Gwener yn gynnar iawn to allan i gatiau'r ysgol. Pan gyrhaeddon ni yr ysgol am ddau o'r gloch y bore roedd pawb yn gyffrous ac yn awyddus iawn i fynd. Pan oeddem ar yr awyren, cawsom y cyfle i wylio 3 neu 4 ffilm gan fod yr awyren yn yr awyr am dros 7 awr. Glaniodd yr awyren ar brynhawn Gwener am dri o'r gloch, amser Barbados, sef tua 7 awr y to of i'r amser yng Nghymru. Sylwon yn syth ar y tymheredd. Ym Marbados roedd yn boeth iawn i gymharu a Chymru, gan fod Cymru wedi cael eira yn yr wythnosau cyn teithio i Farbados. Ni chymerodd yn hir i ni gyrraedd ein gwesty o'r maes awyr. Ar ôl dad-bacio aethon allan am fwyd i farchnad bysgod. Roedd y farchnad bysgod yn llawn bwrlwm a sŵn. Roedd y bobl leol yno yn bwyta, dawnsio a mwynhau eu bywydau yn arw. Erbyn diwedd y noson roedd pawb yn edrych ymlaen at fynd i gysgu gan ein bod wedi bod yn teithio am bron 24 awr. Ar ddydd Sadwrn aethom ar daith catamaran. Tra ar y catamaran gwrandawon ar gerddoriaeth, gan dorheulo ac edrych ar draethau hir a'r awyr las hyfryd. Stopion ni ddwy waith er mwyn nofio efo pysgod y môr a chrwbanod y môr. Stopion eto am fwyd. BBQ (ARALL) anferth i fwydo pawb! Yna gawsom y cyfle i nofio a chwarae yn y môr. Cawsom lawer o hwyl yn neidio oddi ar y catamaran. Dyma oedd profiadau bythgofiadwy'r catamaran.
Chwaraeon ein gêm gyntaf ar ddydd Llun yn erbyn Ysgol Uwchradd Springer Memorial. Parodd y gêm am 40 munud. Yn anffodus collon ni o 11-10. Chwaraeodd y tîm yn dda er nad ydym yn chwarae yn aml. Ar ddiwedd y gêm cyhoeddwyd Becky James fel chwaraewraig y gêm. Roedd dydd Mawrth yn ddiwrnod i'w gofio! Aethon i'r marina ger traeth hir efo môr glas a thywod gwyn. Yna cawsom lawer o hwyl yn neidio i'r môr o raff, yn dringo mynydd is yn y môr ac yn torheulo. Chwaraeon ein gêm olaf ddydd Mawrth yn erbyn Ysgol Uwchradd Sant Lucy. Roedd yn digwydd yn ystod y prynhawn efo'r haul cras boeth. Yn anlwcus i ni collwyd y gêm. Cyhoeddwyd Claire Williams fel chwaraewraig y gêm. Ar ein diwrnod llawn olaf aethon ar daith o amgylch yr ynys. Ar y daith gwelon holl fannau prydferth yr ynys. Yn ystod ein taith cawsom nifer o brofiadau newydd a chael cyfle i flasu ffordd arall o fyw a diwylliant y Caribi. Ni fyddwn byth yn anghofio'r profiad o ymweld â Barbados. Nid oeddwn eisiau gadael yr ynys ac rwyf yn sicr fod pawb yn ei cholli yn fawr ac yn enwedig yr haul a'r bobl leol garedig a chroesawgar. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i Mrs Rebecca Lewis am drefnu'r daith fythgofiadwy a hefyd i Ms Angharad Dafydd Styles.
 |