BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Agor Ysgol Newydd yn Nhredegar
Gorffennaf 04
Mae ysgol gynradd newydd sbon yn Nhredegar Newydd am agor ei drysau i blant lleol ym mis Medi, er bod bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.


Mae'r ysgol wych newydd, a fydd hefyd yn cynnwys adain er defnydd y gymuned ehangach, bron yn barod.

Mae ystyriaeth amgylcheddol wedi bod yn rhan bwysig yn y datblygiad. Mae Ecolegwyr wedi'u hapwyntio gyda chymorth gan y SDC i gynghori'r cyngor a'i gontractwr ar sut i reoli a lleihau'r effeithiau y mae'r gwaith yn eu cael ar ecoleg y safle.

Un enghraifft o hyn oedd dal ymlusgiad a wnaed yn ddiweddar i ddiogelu slorymod a chreaduriaid eraill a effeir. Gosodwyd trapiau arbennig ac fe symudwyd yr ymlusgiad i gynefinoedd newydd ble gallant fyw heb unrhyw ymyrraeth.

Mae'r adain ysgol a chymunedol yn rhan o brosiect adfywio ehangach a fydd yn helpu rhoi anadl newydd i Dredegar Newydd. Mae cyngor bwrdeistref sirol Caerffili, ynghyd â Phartneriaeth Gymunedol Tredegar Newydd a sefydliadau amrywiol eraill yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ymgymryd â phrosiect adfywio cymunedol £18.5 miliwn, sydd yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau cysylltiedig megis:

  • Adeiladu Ysgol Gynradd ac Adain Gymunedol newydd.

  • Adeiladu ffordd newydd.

  • Datblygu parc busnes bach gydag unedau deoryddion newydd.

  • Gwaith tirwedd a gwelliannau amgylcheddol cysylltiedig.

"Mae'r cynllun adfywio blaengar hwn yn arwain y ffordd yng Nghymru ac rydym yn awyddus i sicrhau fod y camau priodol yn cael eu cymryd i leihau effeithiau amgylcheddol ac i hyrwyddo cynaladwyedd," dywedodd Colin Jones, Rheolwr y Prosiect. "Mae gwir ddatblygiad yn cael ei wneud ar y safle ac rydym am gyrraedd ein targed i agor yr ysgol ym mis Medi. Fe fydd y ffocws wedyn ar gynlluniau amrywiol eraill sydd yn helpu trawsnewid y pentref."

(Codwyd yr erthygl hon oddi ar safle we'r Bwrdeistref Sirol - ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol yno yn Gymraeg. Beth am ymweld â hi - Gol)


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy