Mae staff swyddfa'r De erbyn hyn wedi hen sefydlu yn eu cartref yn 33 Heol y Bont, Casnewydd, a channoedd o wirfoddolwyr yn cynorthwyo er mwyn sicrhau gwyl arbennig yn 2004. Mae 16 o bwyllgorau apel wedi'u sefydlu ar draws y dalgylch a'r gronfa leol eisoes yn dechrau llenwi. Mae gwaith y pwyllgorau apêl yn hanfodol i lwyddiant yr Eisteddfod, nid yn unig drwy helpu i godi arian ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod yn eu hardaloedd. Dros y flwyddyn nesaf, fe fydd y pwyllgorau yma yn brysur yn trefnu digwyddiadau diri a gobeithio y bydd yna rywbeth at ddant pawb. Mae'r is-bwyllgorau testun hefyd wedi bod yn brysur wrth eu gwaith ac erbyn hyn mae ffrwyth eu llafur, sef y Rhestr Testunau, wedi'i gyhoeddi ac ar werth. Cafodd y rhestr ei chyflwyno i'r Archdderwydd yng Nghylch yr Orsedd yn ystod Seremoni Cyhoeddi'r Eisteddfod, ym mis Gorffennaf, a hynny yn awyrgylch ysblennydd gerddi Ty Tredegar. Yn unol â thraddodiad, rhaid cyhoeddi'r Eisteddfod o leiaf blwyddyn a diwrnod ymlaen llaw, ond datblygiad arwyddocaol eleni yw'r ffaith am y tro cyntaf erioed, mae'r Rhestr Testunau ar gael ar safle we yr Eisteddfod Genedlaethol - www.eisteddfod.org.uk Ewch i safle Eisteddfod Genedlaethol 2003 Cymru'r Byd.
 |