| Fy enw i yw Catrin Williams a rwyf yn gweithio fel Gweithiwr Ieuenctid mewn cydweithrediad gyda Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Caerffili a Chyngor Caerffili. Mae fy swyddfa yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a dwi'n gweithio yn agos iawn gyda phlant yr ysgol. Rwyf wedi bod yn y swydd am bron i 16 mis nawr a mae wedi dod â llawer o fwynhad i mi. Bob nos Iau rhwng 3 - 4:30 mae criw o blant blynyddoedd 7 a 8 yn cwrdd ar gyfer Clwb CIC yn yr ysgol er mwyn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gwahanol a chael llawer o hwyl. Yn barod y tymor yma, rydyn wedi c cael noswaith drama, sgiliau syrcas ac wythnos diwethaf fe ddangosodd y plant eu doniau yn 'Cic Factor' - sef sioe dalent gyda 'Sharon, Loui a Simon Cawell' yn gwneud ymddangosiad!! 'Wythnos yma mae'r plant i gyd yn gwisgo'n gynnes er mwyn cael helfa drysor! Mae Clwb Ieuenctid Cymraeg Bargoed wedi ei sefydlu er rhyw 3 mis bellach, a mae'n rhedeg yn llwyddiannus iawn. Bob nos Fawrth rhwng 6:30 a 8:30, daw plant yr ardal i chwarae pêl droed, gwneud celf a chrefft, crochenwaith a chymdeithasu. Wythnos diwethaf cafodd y plant barti Calan Gaeaf, gyda pawb yn gwneud ymdrech wych i wisgo lan, a dod â danteithion melys i fwyta! Hefyd dros hanner tymor rydyn wedi cael trip llawn hwyl i 'Alton Towers', ac er gwaetha'r tywydd garw, gwnaeth y plant llwyr fwynhau 'Adrenalin Week'. Daeth ysgolion o Gaerdydd, Caerffili a Aberdâr - felly yn gyfle gwych i bawb wneud ffrindiau newydd a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg! Rhaid dweud, fy mod i wedi cael ofn mawr wrth fynd ar 'Oblivion' a 'Air'! Diwrnod llwyddiannus arall a gawsom dros hanner tymor oedd y diwrnod coginio yn Ysgol Cwm Rhymni. Daeth criw bach o blant i ddangos eu doniau fel cogyddion newydd `Ready, Steady, Cook' a cael llawer o hwyl wrth wneud! Buont wrthi yn coginio pastai caws a winwns, afalau taffi a cacennau bach Nadolig, a'r cyfan oll i fynd yn ôl i'w teulu! Mae'n amser nawr i fynd nôl i reality a'r plant i fynd nôl i'w gwersi ond
mae bob tro digon o hwyl i'w gael yng Nghlwb CIC a Chlwb Bargoed, a digon o weithgareddau a mwy o dripiau hanner tymor nesa!
 |