BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
Denzil JohnAnrhydedd i'r Golygydd
Gorffennaf 2009
Bydd y darllenwyr yn croesawu'r cyhoeddiad bod cyfraniad aruthrol y golygydd dros yr iaith a'r diwylliant cenedlaethol yn ein bro, i'w urddo gan Orsedd Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn Eisteddfod y Bala bydd Denzil John yn derbyn clod haeddiannol am ei holl waith. Yno bydd yn camu ymlaen i'r Maen Llog yng nghwmni Cymry blaengar eraill.

Eleni bydd yr athletwraig Tanni Grey-Thomson, yn cael ei derbyn ynghyd a Connie Fisher a fydd yn canu'r brif rhan yn y Sound of Music yng Nghanolfan y Mileniwm adeg yr Ŵyl. Un arall fydd yn gwisgo'r wisg werdd yn Eisteddfod y Bala fydd Randal Issac o Rydaman. Mae ei gyfraniad yntau i'n diwylliant wedi bod yn sylweddol ac, er diddordeb i ddarllenwyr Tua'r Goleuni, yw'r ffaith ei fod ar un adeg wedi bod yn athro yn Ysgol Gymraeg Caerffili.

Dywed cyhoeddiad yr Eisteddfod am Denzil, "Bardd, llenor, darlledwr a gweinidog disglair ei ddoniau. Y mae ei gyfraniad mewn llu o wahanol swyddogaethau o fewn enwad y Bedyddwyr ac ar gyrff rhyngenwadol cenedlaethol, wedi dangos sicrwydd ei arweiniad. Yn sylfaenydd a golygydd Papur Bro Caerffili y mae ei egni yn allweddol ym myd drama a chorau lleol ardal Caerdydd."

Mae darllenwyr Tua'r Goleuni, with gwrs yn gwybod mai braslun yn unig yw hyn o gyfraniad y gwr ifanc a ddaeth i Gaerffili yn 1972 i fod yn weinidog ar Fedyddwyr capel Tonyfelin. Buan ychwanegodd ofalaeth eglwys yr Annibynwyr ym Methel, Heol Nantgarw, at restr ei gyfrifoldebau. Gweinidog a ddaeth yn rhan o'i gymuned ydoedd gan fod am gyfnod yn gadeirydd ar bwyllgor Mudiad Ysgolion Meithrin, aelod o Bwyllgor Cenedlaethol RHAG, ac yn ogystal â bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Wrth i ni droi tudalennau rhifyn cant ac ugain o Tua'r Goleuni mae'n werth cofio mai Denzil sydd wedi golygu pob un ers y rhifyn cyntaf. Ac nid yn unig golygu'r papur ond, hefyd, ysgrifennu yn helaeth ar ei gyfer, mynd a'r gwaith at yr argraffydd a dosbarthu'r copïau i dîm o garedigion yr iaith a ffurfiwyd ganddo. Fe hefyd sy'n delio â Bwrdd yr laith ac yn cadeirio'r pwyllgor llywio.

Roedd ymhlith y dyrniad cyntaf a sefydlodd ein cwmni drama, Cwmni Cwm Ni, yr unig gwmni yn y de ddwyrain, y tu allan i Gaerdydd sydd yn perfformio yn y Gymraeg. Mae hefyd yn aelod brwdfrydig o Gôr Meibion Taf. Mae ei adnabyddiaeth o Gymry Cymraeg yr ardal yn anhygoel a bu'n ddiwyd ar hyd y blynyddoedd yn cyflwyno siaradwyr Cymraeg i'w gilydd a'u hannog i ddefnyddio'r iaith. Wedi'r cyfan does fawr o bwynt brwydro dros yr iaith os na wnawn ei defnyddio!

Teithiodd Denzil i sawl cornel o'r byd gan gynnwys Affrica a De America fel rhan o'i waith dros elusennau Cristnogol. Ac mae ei agwedd eangfrydig yn ei wneud yn ddewis delfrydol ar gyfer Cadeiryddiaeth y sefydliad yn erbyn cam-ddefnyddio alcohol a sylweddau.

Mae Sian, gwraig Denzil, ar fin ymddeol o'i swydd fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Caerffili. Deallwn ei bod yn gwneud hynny i raddau helaeth er mwyn canolbwyntio ar ei gorchwylion o fod yn nain. Bendithiwyd Sian a Denzil ag wyres, Hawys, merch fach Luned eu merch a'i gwr hithau Dyfrig. Mae Aled, mab Denzil a Sian, sy'n briod â Lynwen (de la Taste gynt) yn gweithio yn y cyfryngau, a'r ddau wedi gwneud eu cartref yn Nelson. Braf yw bod y teulu yn dal i fod gyda'i gilydd o fewn y filltir sgwâr.

Ben Jones


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy