BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tua'r Goleuni
LlyfrauRhwng dau glawr yng nghwmni Lloffwr
Hyfref 2003
Pleser o'r mwyaf oedd cael agor, o'r diwedd, "Iancs, Conshis a Spam" cyfrol o 'Atgofion Menywod o'r Ail Ryfel Byd' (2002) £9.99 tt 174 wedi'i golygu gan Leigh Verrill-Rhys.

Braf gweld fersiwn Gymraeg yn ymddangos yn rhan o wythïen gyfoethog o ysgrifennu - hynny yw, gan fenywod ac am hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Gwasg Honno yn Ninas Powys sydd ar y blaen yn y maes hwn.

Eisoes cafwyd Parachutes and Petticoats (1992) £7.95 tt.220 wedi'i olygu gan Deirdre Beddoe ac, eto, Leigh Verrill-Rhys. Mae'n bosib hod rhai o ddarllenwyr Tua'r Goleuni yn cofio Deirdre Beddoe yn dod i siarad - yn Llyfrgell Caerffili am y llyfr adeg ei gyhoeddi.

Byddwch yn falch, felly, o wybod ei bod hi eto'n dod i'r ardal gan siarad yn Llyfrgell Ystrad Mynach, nos lau 25ain o Fedi am 7:30. Lle roedd y gyfrol honno am yr Ail Ryfel Byd, rhwng y ddau Ryfel Byd y gosodir, Struggle and Starve (1998) £9.95 tt.275 a olygwyd gan Carol White a'n Dr Sian Rhiannon ni o Rhymni. Geilw Deirdre Beddoe ei chyfrol Out of the Shadows (2000) tt.201 110.99 yn History of Women in C20th Wales ac y mae, o bosib, yn waith llawer mwy academaidd na'r teitlau eraill.

Mae gan Harri Parri, with gwrs, storiau cyffelyb a nac anghofiwn y gyfrol ddifyr Gas Masks a Codliver Oil, cyfrol denau iawn gan Eluned Giles a gyhoeddwyd yn 1988 ac sydd gwta 38 op dudalennau difyr o hyd - gan gostio and un bunt!

Ond yn ôl at Iancs, Conshis a Spam. Cymharol hawdd, efallai, yw dod o hyd i bobl sy'n cofio'r rhyfel ac yn gallu nodi'u hatgofion yn y Gymraeg. Mwy o gamp oedd dod i hyd i'r sawl nad oeddynt yn Gymry. Roedd rhai, with reswm, yn ifaciwîs a arhosodd yma wedi'r rhyfel naill ai drwy ddewis neu am nad oedd cartrefi na theuluoedd ganddynt bellach i ddychwelyd atynt. Ond roedd un, Kathleen Jones, wedi dysgu'r iaith yn dda iawn ac wedi dychwelyd i Loegr. Beth oedd yn ddiddorol, beth bynnag, oedd iddi barhau â'i chysylltiad a'r Gymraeg drwy ddal i fynychu capel Cymraeg, Edge Lane yn Lerpwl.

Mwy rhyfedd, efallai, oedd darn gan un a oedd yn ferch ysgol yn yr Almaen ac a ddioddefodd y cyrchoedd awyr Prydeinig. Daeth Ursula Ashton i Brydain i hyfforddi fel nyrs a chael ei hun yn priodi Cymro ym Merthyr yn 1952.

Efallai mod i'n sathru ar gyrn wrth ddweud, and dydw i ddim yn gweld beth yw rhinwedd cyfyngu'r hanesion hyn i atgofion merched yn unig. Ydw i'n sarnu nyth cacwn wrth ddweud hynny? Gobeithio y cawn ymateb erbyn rhifyn yr Hydref. Os fyddwch yn dodi pen wrth bapur, efallai y gallwch awgrymu llyfrau eraill o'r un genre.

Y gamp i fi, bellach fydd dod i ben â chynnyrch Eisteddfod Meitod cyn i Siôn Corn ddod nôl ym mis Rhagfyr ag ail-lenwi'r hosan - gobeithio, beth bynnag.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy