Nid fy mod yn hen cofiwch, ond mae'r canlyniad hyd yn oed yn felysach gan fy mod i ac amryw o fy nghydweithwyr wedi bod yn breuddwydio am ddyfodiad yr adeiladau newydd ers fy mod yn 11 mlwydd oed.
Ers i mi gerdded trwy ddrysau yr Ysgol Isaf yn Aberbargod ar fy niwrnod cyntaf, cofiaf glywed yr addewid ganwaith ein bod ni'n mynd i gael ysgol newydd.
Does dim dwywaith fy mod i wedi cael blas ar fywyd yn yr Ysgol Uwchradd ac i mi fanteisio ar bob cyfle i fwynhau pob gweithgaredd oedd ar gael.
Weithiau roedd hi'n hawdd anghofio twll du y tai bach drewllyd, y coridorau tywyll a'r nenfydau oedd fel hen ymbarél yn ceisio ein cysgodi rhag llid y glaw melltigedig.
Dychwelyd fel athrawes Cymaint oedd yr atyniad at yr hen le nes i mi benderfynu dychwelyd i'r hen adeiladau fel athrawes.
"Hanner call", medde chi, ond dwi wedi bod wrth fy modd yn athrawes yn fy hen ysgol ac erbyn hyn rwy wedi bod yma ers saith mlynedd.
Er ein bod yn fy marn i yn dîm go unigryw - yn gyfeillion agos yn ogystal â bod yn gydweithwyr, doedd yr amgylchiadau ddim yn fêl i gyd.
Roedd yr adeiladau yn gwegian ac ôl y tymhorau yn glir ar furiau'r hen le. Roedd teithio yr 1.6 milltir rhwng y ddwy safle yn Aberbargod a Bargod yn fwrn ar ein hamser egwyl a chinio. Roedd hyd yn oed y mwyaf amyneddgar yn barod i ffrwydro wrth aros i'r traffig malwodaidd grwydro trwy dref brysur Bargod.
Cerdded o adeilad i adeilad, croesi sawl hewl a chyrraedd yn wlyb domen i sylweddoli eich bod wedi anghofio llyfr rhyw blentyn yn yr ystafell athrawon! Sbort yn wir!
Yr unig gysur oedd ein bod wedi clywed bod yr adeiladau newydd yn mynd i fod yn realiti. Brwydro yn ddi-baid Brwydrodd y tîm yn ddi-baid a braint oedd cael bod ar ein safle newydd flwyddyn a hanner yn ôl i weld torri'r dywarchen yn Fleur de Lys. Gwenodd yr haul ar ein llecyn newydd a bu'r gweithwyr yn ddyfal wrth eu gwaith.
Cawsom gyfle i ymweld â'r adeilad cyn y gwyliau ac rwy'n siwr fy mod wedi diflasu amryw o'm ffrindiau wrth sôn am yr ysgol newydd. Chwarae teg i mam, mae'n wrandawraig a hanner ac mae wedi amsugno'r wybodaeth wrth i mi barablu'n gyffrous am gynllun yr ysgol.
Dwi wrth fy modd yn mynd ar wyliau ac rwy'n credu ei bod yn wir i ddweud bod deffro ar fore cyntaf y tymor newydd braidd yn anodd i ddweud y lleiaf. Cyffro'r diwrnod cyntaf Roedd eleni'n wahanol! Oedd, roedd y deffro yn anodd, ond roedd y cyffro o wybod fy mod yn mynd i'r adeiladau newydd fel magned yn fy nhynnu lan y cwm. Fe ddaeth yr awr ac roedd yr anghrediniaeth yn anhygoel wrth weld y Cwm Rhymni Newydd.
Wrth i ni baratoi i groesawu'r disgyblion trwy'r drysau, mae'n braf sylweddoli mai nid rhyw adeilad newydd oeraidd yw hwn ond ei bod yn foethus, yn lliwgar, yn groesawgar ac yn gartref clyd i'n tîm ni. Mae'n freuddwyd yn wir!
Diolch i bawb a frwydrodd mor ddygn ac a sicrhaodd bod yr adeiladau newydd yn realiti i bawb sy'n credu yn nyfodol addysg Gymraeg yn y Cwm. Dyma adeilad sydd yn wir adlewyrchiad o gyfoeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Erthygl gan Mrs Caryl Hall Williams, un o athrawon Adran Gymraeg Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
 |