| Un o'r rhain yw Joanne Weston sy'n gweithio yn swyddfa Cwmni Adeiladu Abbey yn Ffordd Caerdydd, yng Nghaerffili. Mae'n enedigol o'r fro ac fel ei chwaer Elaine, wedi ei magu ar aelwyd uniaith Saesneg ond wedi derbyn addysg ddwyieithog yn Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili ac Ysgol Uwchradd Cwm Rhymni. Bellach mae wedi derbyn llawer o gyfrifoldebau gan y cwmni ac yn mwynhau'r swydd yn fawr. Bydd wrth ei bodd yn gwisgo bathodyn Bwrdd yr laith Gymraeg. Bydd hefyd yn amlwg mewn llawer o weithgareddau eraill yn y fro, gan fwynhau pob math o chwaraeon. Mae'n gwneud llawer o waith gwirfoddol, ac fe'i gweir yn gyson yng nghampfa Quest. Tybed a oes modd cyflwyno eraill sy'n falch o arddel y Gymraeg yn siopau, busnesau a gwasanaeth cyhoeddus y cwm, ac sy'n dystiolaeth o lwyddiant addysg Gymraeg ein bro?
 |