Bydd trigolion Caerffili yn ymwybodol iawn bod Gwesty'r Greenhill wedi diflannu, er mwyn creu lle i adeiladu tai. Ychydig o westai safonol sy'n y cyffiniau, a phrin yw'r llefydd addas i drethu cinio i nifer sylweddol o bobl. Mae'n ddiddorol bod Caerdydd wedi gweld cynnydd yn nifer y gwestai moethus, tra bod Caerffili wedi gweld lleihad yn nifer y ddarpariaeth i ymwelwyr.
Er bod poblogaeth y dref wedi codi'n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf nid yw nifer y mannau cyfarfod cyhoeddus wedi cynyddu llawer. Adeiladwyd rhai tafarndai newydd ar gyrion y dref, er fe gaewyd eraill. Bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Cwm Rhymni yn falch o ddeall bod Joanna Templeton yn llwyddo fel rheolwraig gwesty y Royal Oak yn Ystrad Mynach, ac yn awyddus i groesawu cyfeillion hen a newydd i ymlacio a bwyta yno.
Buom yn sôn yn y gorffennol bod angen neuadd hwylus a rhesymol ei phris yn y broydd hyn, lle gellid cynnal cyngherddau a dramâu gyda chynulleidfa o tua 200 yn medru bod yno.
Beth bynnag yw diffygion llefydd i aros a wledda yng Nghaerffili, prin y gallwn beidio meddwl am digartrefedd pobl yn Irac ac yn nifer o wledydd yr Affrig, lle mae'r werin wedi colli tir ac eiddo. Na nid y dynion gwyn sy'n euog y tro hwn ond y dynion croenddu sydd wedi esgyn i sefyllfaoedd o bŵer, ac yn cam-drin y duon yn y gwledydd. Pa sawl teulu sydd 'heb aelwyd na gwely' ar draws y byd eleni, ac yn gweld y cymylau trwm yn casglu o'u cwmpas?
Os yw'r digartref yn gweld y cymylau yn casglu, onid anobaith llwyr sydd a flaen y miloedd ar filoedd sy'n dioddef o AIDS. Credir bod 8,000 yn marw bob dydd ar draws y byd o'r cyflwr, a bod 13,000 yn cael eu heintio'n ddyddiol. Nodir hefyd bod dros hanner y bobl hyn yn ferched hetro-rywiol, a bod yna genhedlaeth o blant ar draws yr Affrig sydd heb rieni i'w magu.
Mae cyffur i leddfu'r dolur ym Mhrydain yn costio £800 y person y mis, cost na all pobl yr Affrig byth ei fforddio. Serch hynny, mae modd bellach i brynu'r cyffuriau hyn heb label y cwmni cynhyrchu am £20 y person y mis yn yr Affrig. Nid bod hyn yn mynd i wella'r dioddefwyr, ond o leiaf mae'n gam i'r cyfeiriad cywir. Gobeithio bydd rhoi sylw i Ddiwrnod AIDS ar ddechrau mis Rhagfyr wedi help eraill i osgoi'r stigma rhagfarnllyd, a sylweddoli difrifoldeb y cyflwr ar draws y byd.
'... a chôr o angylion'
Ar nodyn ysgafnach, cofiwn fod hanes y Nadolig wedi sôn am gôr o angylion, ac fe all llawer ohonom ddweud i ni wrando ar gôr newydd yng Nghapel Tonyfelin ddechrau mis Rhagfyr. Gosododd Rhodri Gabriel Harris y cyweirnod yn hyfryd, ac roedd hi'n braf gweld cymaint o bobl ifanc y fro yn mwynhau canu o dan arweiniad angyles o Ffordd Sant Martin. Cawsom ddwy yn chwarae'r telynau hefyd, ac fe lwyddodd y noson i'n harwain i fewn i awyrgylch y Nadolig. Edrychwn ymlaen at glywed y côr yn perfformio yn y dyfodol.