| Clywsom ar ddydd Gwener yr 16eg o Fedi mewn Seremoni Gwobrwyo yng Nghaerdydd bod ein Cwmni Teledu sef plant o Flwyddyn 5 llynedd wedi ennill cystadleuaeth Media4Schools am y ffilm orau gan Ysgol Gynradd. Derbyniodd yr ysgol gyfrifiadur a chamera gan gwmni oedd yn awyddus i blant ysgol ddatblygu sgiliau ymarferol ym myd ffilmiau. Aeth y plant ati gyda chefnogaeth Mrs Griffiths i ffilmio agweddau o fywyd ysgol. Cafodd llywodraethwyr yr ysgol gyfle i weld y ffiilm orffenedig cyn gwyliau'r haf. Roedden nhw'n gallu gweld yn glir bod y sgiliau a gwybodaeth roedd y plant wedi datblygu wrth gynhyrchu'r ffilm yn rhai buddiol iawn. Lynn Griffiths
 |