| Nododd y beirniad ei bod yn ysgol lawen ac yn arwain drwy esiampl gyda'i hymgyrch o blaid bwyta'n iach. Canmolwyd y cynllun o gael bws cerdded yr ysgol a bod y prifathro yn rhan o'r cynllun hwn. Nodwyd hefyd yr arfer dda o gael poteli dwr ar gyfer y disgyblion ym mhob dosbarth a bod llawer o ddarpariaeth ar gyfer cadw'r meddwl a'r corff yn heini. Cyfeiriwyd at y ffaith fod pawb yn yr ysgol yn rhan o'r digwyddiadau hyn a bod gemau ar fuarth yr ysgol yn cynnwys y gofalwyr a'r disgyblion. Cyfeirir yn yr adroddiad swyddogol at berthynas dda rhwng yr ysgol a'r archfarchnad leol, a bod ffrwythau yn cael ei gynnig i'r disgyblion yn ddyddiol yn yr ysgol am bris rhesymol. Gwerthfawrogwyd y ffaith fod gan yr ysgol bwyllgor eco, gyda chynrychiolaeth o'r holl ysgol yn gweithredu arno. Roedd y defnydd o'r ardd ar dir yr ysgol, ac amrywiol agweddau ar gompostio defnyddiau ac ail gylchu adnoddau yn yr ysgol wedi derbyn canmoliaeth y panel dyfarnu hefyd. Elfen arall a gafodd ei nodi yn yr adroddiad oedd polisi'r ysgol o ddangos gofal dros hyrwyddo system ffrindiau da yn yr ysgol. Manteisiwyd ar gefnogaeth yr NSPCC i hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn 'Mets Gret', ac mae hyn yn cyfrannu at ethos cyfeillgar yn yr ysgol. Gwerthfawrogwyd arweiniad y prifathro, Mr Lynn Griffiths yn hyn i gyd a bod yr athrawon fel tîm yn hyrwyddo gweithredu'r cynllun blaengar hwn.
 |